Cymerwch Ran

Mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn fenter sy’n datblygu ac rydym yn croesawu’r rhai a fyddai’n hoffi cymryd rhan neu gefnogi’r rhwydwaith.
Mae llawer o gyfleoedd yn y rhwydwaith ar gyfer unigolion a sefydliadau ac amlinellir y rhain isod. Er mwyn gwybod rhagor, anfonwch neges e-bost atom yn shrn@cardiff.ac.uk neu ffoniwch ni ar 029 2087 9609.

Gall ysgolion ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae nifer o fuddion wrth ymuno, gan gynnwys adroddiad blynyddol ar iechyd myfyrwyr ac adnoddau gan Ymchwil Canser y DU a Thîm Ymgysylltu Cymunedol Prifysgol Caerdydd. Bydd ysgolion yn y rhwydwaith hefyd yn cael cyfle i ddysgu am astudiaethau ymchwil ar wella iechyd pobl ifanc a chymryd rhan ynddynt. Yn ogystal, gall ysgolion ein helpu i ddatblygu strwythur y rhwydwaith wrth iddo dyfu fel ei fod yn bodloni anghenion ysgolion. Os yw eich ysgol eisoes yn aelod, gallwch ddewis ein helpu i wella’r adroddiadau ar iechyd myfyrwyr neu ddatblygu rhagor o adnoddau ar gyfer ysgolion yn y rhwydwaith.

Gall myfyrwyr a rhieni lobïo eu hysgol i ymaelodi â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion os nad yw eisoes yn aelod! Gall myfyrwyr mewn ysgolion sy’n aelodau a’u rhieni ofyn i weld adroddiad iechyd eu hysgol a siarad â thîm rheoli’r ysgol ynglŷn â sut mae’r ysgol yn mynd i weithredu ar yr adroddiad. Byddai hefyd yn ddiddorol i ni glywed yr hyn mae myfyrwyr a rhieni yn ei feddwl am rôl ysgolion o ran iechyd a lles pobl ifanc a meysydd blaenoriaeth sydd angen gweithredu arnynt.

Gall ymchwilwyr gyfrannu at Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion trwy rannu canfyddiadau eu hymchwil a helpu ysgolion i ddehongli’r canfyddiadau. Gallant hefyd weithio gydag ysgolion yn y rhwydwaith i ddatblygu rhagor o gwestiynau perthnasol ynglŷn ag ymchwil a pheilota a phrofi ymyriadau iechyd a lles. Yn y dyfodol, byddant hefyd yn gallu defnyddio’r rhwydwaith i hwyluso recriwtio ysgolion i brofion effeithiolrwydd er mwyn cryfhau y dystiolaeth ar wella iechyd yn yr ysgol.

Gall sefydliadau trydydd parti sydd â chylch gorchwyl yn ymwneud ag iechyd, lles ac addysg pobl ifanc gymryd rhan mewn ffurfio’r rhwydwaith drwy siarad â thîm Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ynglŷn â sut y gallai’r rhwydwaith gefnogi amcanion eu sefydliad, ac i’r gwrthwyneb. Mae’r rhwydwaith yn ceisio cefnogi ymchwil sy’n amserol ac yn berthnasol i sefydliadau sy’n gweithio i hyrwyddo iechyd ac rydym yn awyddus i ddatblygu prosesau y gall sefydliadau o’r fath helpu i ddatblygu cwestiynau ymchwil trwyddynt.

Mae croeso i ddarpar bartneriaid ddod atom. Gofynnir i sefydliadau partner ymrwymo’n ysgrifenedig i wneud cyfraniad ymarferol i’r rhwydwaith, er enghraifft adnoddau i ysgolion eu defnyddio ar gyfer hyrwyddo iechyd, neu sgiliau ac arbenigedd eu staff. Mae mynd yn bartner yn rhoi cyfle i’r sefydliad weithio’n agos gydag ysgolion er mwyn gwella iechyd pobl ifanc.

Mae croeso mawr i gyrff cyllido sy’n cefnogi ymchwil i iechyd pobl ifanc gyfranogi yn Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Ar hyn o bryd, rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi cyfnewid gwybodaeth rhwng cyllidwyr ac ysgolion a thrafod safle cynrychiolwr cyrff cyllido o fewn strwythur datblygol y rhwydwaith.

Er mwyn gwybod rhagor am sut y gallwch gymryd rhan, anfonwch neges e-bost atom yn shrn@cardiff.ac.uk neu ffoniwch ni ar 029 2087 4433.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *