Data Cenedlaethol

Adroddiad Cenedlaethol SHRN Cynradd – 2022/23

Rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023, cymerodd ychydig dros 32,500 o ddysgwyr o 354 o ysgolion cynradd yng Nghymru ran mewn arolwg iechyd a lles. Cyflwynir canfyddiadau ar bynciau fel ‘bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol, ‘defnyddio dyfeisiau electronig’ a ‘phontio ysgol’.

Am y tro cyntaf rydym yn gallu archwilio ymddygiadau iechyd plant mor ifanc â 7 oed.

Adroddiad Cenedlaethol SHRN – 2021/22

Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2021/22

Yn 2021/22, cymerodd ychydig o dan 125,000 o bobl ifanc 11 i 16 oed ran yn yr arolwg a chyflwynir canfyddiadau ar ‘iechyd meddwl a lles’, ‘bywyd ysgol’, ‘gweithgarwch corfforol a deiet’, ‘bywyd teuluol a bywyd cymdeithasol’, ‘perthnasoedd’ ac ‘defnyddio sylweddau a gamblo’ yn yr Adroddiad Cenedlaethol.

Am y tro cyntaf, rydym yn gallu cymharu data iechyd a lles cyn ac ôl Covid o ysgolion uwchradd ar lefel genedlaethol.

Mae Cyfarwyddiaeth Gwybodaeth, Ymchwil a Gwerthuso Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ochr yn ochr â DECIPHer wedi datblygu cynnyrch gwybodaeth iechyd rhyngweithiol ar-lein i ddelweddu data SHRN ar lefel awdurdod lleol. Nod y dangosfwrdd hwn yw caniatáu mynediad haws at y data SHRN sydd ar gael ar lefel awdurdod lleol ac uwch, a dealltwriaeth ohonynt.

Dewch o hyd i ddolen i’r dangosfwrdd a gwybodaeth bellach isod:

Dangosfwrdd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gallwch hefyd ddod o hyd i animeiddiad sy’n amlinellu rhai o’r canfyddiadau isod:

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgol Gynradd – 2021

Rhwng Ebrill a Gorffennaf 2021, yn fuan ar ôl dychwelyd i’r ysgol yn dilyn ail gyfnod pan oedd ysgolion wedi cau i’r mwyafrif o ddisgyblion, mae tua 2000 o blant mewn 76 o ysgolion ledled Cymru wedi’u cwblhau arolwg. Roedd hyn yn rhan o waith peilot i ehangu SHRN i ysgolion cynradd. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o iechyd a lles plant. Mae hefyd yn darparu rhai cymariaethau cychwynnol o amcangyfrifon 2021 gyda’n harolwg diweddaraf o 2019, i asesu newidiadau dros amser ers i’r pandemig Covid-19 ddechrau.

Adroddiad Holiadur Amgylchedd Ysgol – 2021/22

Polisïau ysgol ac arferion ar gyfer gwella iechyd yng Nghymru – arolwg o dimau uwch arweinwyr mewn ysgolion uwchradd:

Adroddiad Cenedlaethol – 2019/20

Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019/20

Yn 2019/20, cymerodd ychydig o dan 120,000 o bobl ifanc 11 i 16 oed ran yn yr arolwg a chyflwynir canfyddiadau ar ‘iechyd meddwl a lles’, ‘bywyd ysgol’, ‘gweithgarwch corfforol a deiet’, ‘bywyd teuluol a bywyd cymdeithasol’, ‘perthnasoedd’ ac ‘defnyddio sylweddau a gamblo’ yn yr Adroddiad Cenedlaethol .

Papurau Briffio Cenedlaethol

Iechyd meddwl a lles ieuenctid yng Nghymru: Cymharu canfyddiadau o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 a 2021 gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Awst 2022

Parodrwydd ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau cenedlaethol i ysgolion o safbwyntiau staff ysgol Canfyddiadau o Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2020 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mawrth 2022

Ysmygu a fepio gan bobl ifanc yng Nghymru: Canfyddiadau o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Hydref 2020 Mae tybaco yn parhau’n brif achos marwolaeth ac anabledd, a mynegwyd pryder ynghylch defnydd pobl ifanc o e-sigaréts a’r risg y gallai eu defnyddio fod yn gam tuag at ysmygu neu y gallai ail-normaleiddio defnyddio tybaco. Mae’r briff hwn yn cyflwyno data diweddar am gyffredinolrwydd ysmygu a fepio ymhlith pobl ifanc 11-16 oed yng Nghymru

Pobl Ifanc sy’n ‘Derbyn Gofal’ yng Nghymru: canfyddiadau o Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (2017/18)

Ionawr 2020

Ar unrhyw adeg benodol, mae tua 6,000 o bobl ifanc yng Nghymru dan ofal eu hawdurdod lleol. Mae’r papur briffio hwn yn cyflwyno canfyddiadau ar gyfer detholiad bach o newidynnau, gan gynnwys llesiant, ymddygiadau risg, bywyd ysgol ac unigrwydd ar gyfer pobl ifanc sy’n ‘derbyn gofal’ yng Nghymru ac sy’n byw mewn gwahanol fathau o leoliadau gofal, gyda data am bobl ifanc nad ydynt mewn gofal yn cael ei gynnwys er cymharu.

Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Canfyddiadau dechreuol o Arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2017/18

Mai 2019

Mae atal problemau emosiynol ac ymddygiadol a hybu lles cadarnhaol ymysg plant a phobl ifanc, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd plant a phobl ifanc, yn flaenoriaethau cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r briff hwn yn cyflwyno’r canfyddiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ar draws detholiad bach o newidynnau yn ymwneud â lles, gan gynnwys lles meddyliol, boddhad bywyd, teimladau am yr ysgol ac unigrwydd.

Pobl Ifanc sy’n ‘Derbyn Gofal’ yng Nghymru: canfyddiadau o Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (2017/18)

Adroddiadau Holiadur Amgylchedd Ysgolion – Blynyddoedd Blaenorol

Adroddiadau Cenedlaethol

Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg o Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol 2017/18 ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru wedi cael ei fonitro gan Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd y Byd ers 1985. Mae Arolwg HBSC bellach wedi’i ymgorffori yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol. Yn 2017/18, cymerodd dros 100,000 o bobl ifanc 11 i 16 oed ran yn yr arolwg a chyflwynir canfyddiadau ar iechyd a lles cyffredinol, bywyd ysgol, bywyd teuluol a chyfeillgarwch, perthnasoedd, ysmygu, yfed a chymryd cyffuriau, a gamblo yn yr Adroddiad Cenedlaethol . Mae’r is-gopi cysylltiedig yn crynhoi canfyddiadau ar ddetholiad o newidynnau allweddol sy’n berthnasol i fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd i Gymru.