Effaith Polisi ac Arfer

Fe wnaethom holi aelodau a phartneriaid beth oedd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn ei olygu iddyn nhw:

 

Partneriaid cenedlaethol


Llywodraeth Cymru

‘Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ac yn cydweithio â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion trwy ddarparu cyllid gan Iechyd ac Addysg a gwneud penderfyniadau strategol gyda’i gilydd i effeithio ar y system ysgolion genedlaethol a gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Trwy adeiladu ar arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HBSC), mae rhan allweddol o’r cydweithio’n canolbwyntio ar y seilwaith data y mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion wedi’i greu i Gymru gan ddarparu, trwy arolwg bob dwy flynedd, data cadarn ac amserol ar iechyd pobl ifanc. Gall Llywodraeth Cymru fwydo cynnwys yr arolwg a chydweithio ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i sicrhau y defnyddir mesurau trylwyr.  Gall y data hwn ategu gwyliadwriaeth genedlaethol, monitro polisi ac arfarnu.  Mae hefyd wedi cynyddu’r gallu i fonitro iechyd a lles pobl ifanc mewn perthynas â meysydd polisi sy’n cael eu datblygu, fel: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Gall Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu tystiolaeth ymchwil gwella iechyd mewn ysgolion hefyd, a chyfrannu at ei throsi’n bolisi ac arfer i ddylanwadu ar newid yng Nghymru.’

Dr Chris Roberts

Dirprwy Brif Swyddog Ymchwil Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

‘I Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae ein partneriaeth strategol â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn cynrychioli partneriaeth ymchwil-polisi-arfer lwyddiannus gyfredol sydd wedi cryfhau a datblygu dros amser. Rydym yn darparu adnoddau ariannol ac yn cyfrannu at benderfyniadau ar lefelau strategol a gweithredol er mwyn sicrhau bod gwaith y Rhwydwaith o’r perthnasedd mwyaf o ran polisi ac arfer.  Mae’r cydweithio hwn yn ein galluogi i fanteisio ar ddata cenedlaethol cynrychioliadol, cadarn ar yr amgylchedd ysgol a deilliannau iechyd a lles myfyrwyr i’n galluogi i lywio ein gwaith ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.  Mae hefyd yn darparu dulliau i arfarnu a phrofi arfer arloesol yn ogystal ag ategu cadw golwg ar y boblogaeth.

Mae ICC yn gyfrifol am Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru, ac mae wedi cydweithio â SHRN i integreiddio’r ddau rwydwaith yn agosach: un sy’n canolbwyntio ar arfer ac un sy’n canolbwyntio ar ymchwil, er mwyn i’r ddau ohonynt allu defnyddio asedau ac arbenigedd ei gilydd i greu gwelliannau mwy effeithiol a chynaledig mewn iechyd a lles myfyrwyr. Mae ein cydweithio wedi’i seilio ar fanteision cyfatebol: mae SHRN yn ein helpu i wella gweithrediad y system ysgolion yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd a lles, ac rydyn ni’n gwella cyfleoedd i ymchwilwyr SHRN gyflawni effaith o’u hymchwil.’

Dr. Julie Bishop

Cyfarwyddwr Gwella Iechyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhanddeiliaid Rhanbarthol


“Mae’r Rhwydwaith Ymchwil i Iechyd mewn Ysgolion yn rhan ganolog o brosesau hunanwerthuso ein hysgol. Ynghyd â setiau da eraill, mae’n caniatáu i ni fesur cynnydd mewn agweddau ar ymagwedd ein hysgol at iechyd a lles myfyrwyr. Hefyd, gallwn ni nawr gymharu ein hadborth yn erbyn ysgolion eraill ledled Cymru, ac mae’n ein helpu ni i fyfyrio ar ein hymarfer a’n darpariaeth. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Holiadur Amgylchedd yn fy helpu i, fel uwch arweinydd, i archwilio’r cysylltiadau â chyfleoedd adnoddau yn y gymuned, arweinyddiaeth a dyluniad y cwricwlwm.”

Andy Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Mynwy

“Da rhwydweithio ag ysgolion eraill. Cysylltiadau ag ymchwilwyr. Cymorth gyda pholisïau/ arweiniad newydd.”

Athro ysgol

“Data defnyddiol iawn. Dw i’n filch fod gan Estyn ddiddordeb yn ei ddefnyddio a’u bod yn arddangos faint o werth y meant yn ei roi arno.”

Pennaeth

 

“Mae’n fanteisiol iawn I ni gael pentwr o ddata y gellir ei ystyried gan staff, disgyblion ac asiantaethau allanol I ddadansoddi a threnfnu rhaglenni.”

Pennaeth, De Cymru

“Mae bod yn aelod o SHRN yn rhoi mynediad I ni fel ysgol, I ymchwil, cymorth a gwybodaeth ddiweddar a pherthnasol.”

Pennaeth cynorthwyol, Gogledd Cymru