Seminar Her Iechyd Cymru

Yr Athro Simon Murphy yn croesawu cynrychiolwyr

Cynhaliwyd y 25ain Seminar Her Iechyd Cymru, a oedd yn cynnwys Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ar 23 Mawrth yng Nghaerdydd. Nod y seminar diwrnod llawn hwn oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid cenedlaethol o’r potensial y mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn ei gynnig o ran monitro, datblygu a gwerthuso polisi iechyd a lles, ymarfer a chanlyniadau. Darparodd y seminar fforwm i ddatblygu cysylltiadau strategol a phartneriaethau effeithiol ar gyfer cynaliadwyedd Rhwydwaith, yn ogystal â darparu cyfle i randdeiliaid ddylanwadu ar gyfeiriad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn y dyfodol.

Cafodd cynrychiolwyr o ystod eang o feysydd fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru gyfle i weld cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal ag ymchwilwyr Rhwydwaith Ymchwil Iehcyd mewn Ysgolion yn cyflwyno ar y diwrnod a wnaeth hefyd ddarparu cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth banel. Roedd y cynrychiolwyr wedi gallu dysgu sut mae’r Rhwydwaith wedi cael ei ddylunio  i fodloni anghenion data a thystiolaeth rhanddeiliaid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, a sut mae rhanddeiliaid o bob un o’r lefelau hynny wedi ffurfio dablygiad y Rhwydwaith. Amlygwyd potensial y Rhwydwaith i gataleiddio ymchwil iechyd mewn ysgolion. Cyflwynodd staff a myfyrwyr o Ysgol Alun yn yr Wyddgrug gyflwyniad ar sut mae eu hysgol wedi defnyddio data’r Rhwydwaith.

Staff a myfyrwyr o Ysgol Alun yn cyflwyno eu profiad o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

 

Mae trydariadau byw ar drafodion y seminar ar gael i’w gweld ar gyfrif twitter @DECIPHerCentre .

Ar gyfer y bobl hynny a fethodd fynychu’r diwrnod, mae ein cyflwynwyr wedi sicrhau’n garedig iawn bod eu cyflwyniadau ar gael.

School Health Research Network aims and development
Professor Simon Murphy, Cardiff University

National level use of Network data
Dr Chris Roberts, Welsh Government

Working with policy and practice for health improvement
Dr Julie Bishop, Public Health Wales

Engagement with schools
Joan Roberts, Cardiff University

Alun School and the School Health Research Network
Alun School staff and students

Identifying Health and Wellbeing issues
Dr Sara Long, Cardiff University

Front line innovation and trials
Dr Jemma Hawkins, Cardiff University

Natural experiments
Dr Gillian Hewitt, Cardiff University