Ymchwil

Chwarae rôl weithredol mewn ymchwil iechyd mewn ysgolion

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgol-ion yn rhoi cyfle i ysgolion ymgysylltu’n union-gyrchol ag ymchilwyr. Mae ymagwedd gydweith-edol ar ymchwil wedi cael ei datblygu o fewn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, lle mae ysgolion yn helpu i luinio cwestiynau ym-chwil ac mae ymchwilwyr yn gwrando ar flaenor-iaethau ysgolion ac yn cynnig cyfleoedd i fod yn gysylltiedig ag ymchwil iehcyd hanfodol. Ym mhob rownd o’r arolwg, cysylltir ag ysgolion i sichrau bod ei gynnwys yn adlewyrchu eu hang-henion gwybodaeth iechyd presennol. Yn 2015, er enghraifft, ychwanegwyd cwestiynau ar syl-weddau seicoweithredol newydd, a secstio, yn unol â chais staff ysgol.