{"id":12552,"date":"2025-03-10T10:48:00","date_gmt":"2025-03-10T10:48:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?p=12552"},"modified":"2025-08-01T11:00:49","modified_gmt":"2025-08-01T11:00:49","slug":"trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/","title":{"rendered":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE"},"content":{"rendered":"\n<p><a id=\"_msocom_1\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12548\" srcset=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg 1024w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-400x267.jpeg 400w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-768x512.jpeg 768w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1536x1024.jpeg 1536w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-2048x1365.jpeg 2048w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1200x800.jpeg 1200w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1980x1320.jpeg 1980w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pam mae SaFE yn bwysig<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, hyrwyddo\u2019r gwasanaethau hyn a hyfforddi staff AB i gefnogi iechyd rhywiol ac adnabod ac ymateb i achosion o drais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>A all SaFE ffynnu mewn lleoliadau AB?<\/strong><strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif gwestiwn yr ymchwil oedd a oes modd gweithredu ymyrraeth SaFE mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB). Roedd hyn yn golygu gwerthuso pa mor dderbyniol oedd yr ymyrraeth a dulliau\u2019r astudiaeth i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Saern\u00efo a phrofi SaFE<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>I fireinio a phrofi ymyrraeth SaFE, gweithiom yn agos gyda myfyrwyr AB, staff AB, llunwyr polisi, ysgolheigion a gr\u0175p cynghori DECIPHer o bobl ifanc, sef <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/cy\/flog\/alpha-datblygu-sgiliau-ac-ysbrydoliaeth-gyrfa-2\/\">(ALPHA).<\/a> Fe wnaethom addasu deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyfforddiant staff presennol fel eu bod yn cyd-fynd \u00e2 chyd-destun AB. Yna, cynhaliom astudiaeth beilot mewn wyth lleoliad AB (gan gynnwys cyfuniad o ddosbarthiadau chwech sy\u2019n aelod o\u2019r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a cholegau cymunedol) ar draws Cymru a Lloegr. Dewiswyd chwech o\u2019r lleoliadau hyn ar hap i dderbyn ymyrraeth SaFE ac roedd y ddau leoliad arall yn rheolyddion. Cynhaliom arolwg o fyfyrwyr ar ddechrau\u2019r astudiaeth ac, eto, ymhen 12 mis. Hefyd, cynhaliom gyfweliadau \u00e2 staff, myfyrwyr a nyrsys iechyd rhywiol, ac arsylwom sut cafodd yr ymyrraeth ei chyflwyno.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth ddarganfuom ni<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cyfranogi ac Ymgysylltu<\/strong>: Cytunodd yr holl leoliadau AB i gyfranogi ac arhosont yn yr astudiaeth. Yn gyfan gwbl, fe wnaeth 56.3% o\u2019r myfyrwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr arolwg wneud hynny. Fe wnaeth 60.7% gymryd rhan yn yr arolwg cychwynnol, a 51.9% wrth ddilyn i fyny ymhen 12 mis. \u00a0Roedd hyn ychydig islaw\u2019r targed o 60% ar gyfer y ddau bwynt.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwelededd y Gwasanaeth a\u2019r Defnydd Ohono<\/strong>: Roedd cyhoeddusrwydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle yn weladwy ym mhob lleoliad. Roedd nyrsys yn bresennol mewn dros 80% o sesiynau\u2019r gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle a chafodd 137 aelod o staff hyfforddiant.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Pryderon Myfyrwyr<\/strong>: Mynegodd tua chwarter o fyfyrwyr bryderon am roi caniat\u00e2d i gael mynediad i\u2019w cofnodion iechyd a\u2019u cysylltu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>&nbsp;<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Llwyddiant SaFE, ei chyfeiriad yn y dyfodol a\u2019r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion <\/strong><strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd ymyrraeth SaFE ar waith yn llwyddiannus a chafodd ei derbyn yn gadarnhaol gan fyfyrwyr AB, staff AB a nyrsys. Fodd bynnag, teimlont fod angen mwy o amser arni i integreiddio\u2019n llawn mewn lleoliadau AB.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynyddu cyfraddau\u2019r myfyrwyr sy\u2019n ateb yr arolwg yn hanfodol ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol, yn ogystal \u00e2 dod o hyd i\u2019r man cywir mewn lleoliad AB i fod yn gartref i wasanaeth iechyd rhywiol ar y safle. Mae angen astudiaeth fwy o faint i benderfynu a all SaFE wella iechyd rhywiol yn effeithiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae gan lwyddiant SaFE oblygiadau i\u2019r Rhwydwaith, gan ei bod yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwella Hygrededd ac Enw Da\u2019r Rhwydwaith:<\/strong> Mae arddangos hyfywedd a derbynioldeb ymyrraeth SaFE yn hybu statws y Rhwydwaith mewn iechyd cyhoeddus ac addysg. Hefyd, gall y llwyddiant hwn ddenu mwy o gyllid i brosiectau ymchwil mwy.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Eiriol integreiddio:<\/strong> Gallai\u2019r canfyddiadau cadarnhaol hyn, a chanlyniadau treial effeithiolrwydd ymyrraeth SaFE ar raddfa lawn, helpu\u2019r Rhwydwaith i eiriol dros ymyriadau tebyg mewn ysgolion, gan arwain o bosibl at welliannau helaeth mewn iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc. Mae\u2019r Rhwydwaith yn cynnwys rhai dysgwyr \u00f4l-16 os oes chweched dosbarth mewn ysgol. Felly, os bydd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yn gadarnhaol, gallant helpu i eiriol dros yr ymyriadau hyn mewn dosbarthiadau chwech.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>At hynny, mae cyfle sylweddol gan y Rhwydwaith i wella seilwaith AB. Trwy integreiddio galluoedd casglu a dadansoddi data cadarn y Rhwydwaith, gall sefydliadau AB ddeall a mynd i\u2019r afael ag anghenion iechyd a lles eu myfyrwyr yn well. Gall yr integreiddio hwn arwain at lunio polis\u00efau yn fwy gwybodus, gwell gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, ac amgylchedd addysgol iachach yn gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Meithrin Partneriaethau Newydd:<\/strong> Mae gweithredu peilot ymyrraeth SaFE yn llwyddiannus wedi creu partneriaethau newydd gyda llunwyr polisi, sefydliadau addysgol dosbarth chwech a choleg, a rhanddeiliaid eraill sydd \u00e2 diddordeb mewn hyrwyddo iechyd a lles ym mhob cyd-destun addysgol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ar y cyfan, mae llwyddiant y treial peilot hwn yn hybu ymdrechion y Rhwydwaith yn sylweddol i wella iechyd a lles pobl ifanc trwy ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhowch y gair ar led: Rhannwch y blog hwn i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd rhywiol a pherthnasoedd iach mewn lleoliadau Addysg Bellach.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>I ddarllen am yr astudiaeth, cliciwch <a href=\"https:\/\/bmjopen.bmj.com\/content\/14\/12\/e091355\">yma<\/a><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Honor <\/strong><a href=\"file:\/\/\/C:\/Users\/llinos.phillips\/AppData\/Local\/Microsoft\/Windows\/INetCache\/Content.Outlook\/0SUT33AA\/youngh6@cardiff.ac.uk\"><strong>youngh6@cardiff.ac.uk.<\/strong><\/a><a id=\"_msocom_1\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-text-color has-alpha-channel-opacity has-background\" style=\"background-color:#7bc144;color:#7bc144\"\/>\n\n\n\n<p><a id=\"_msocom_1\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text\" style=\"grid-template-columns:23% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"500\" src=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-12371 size-full\" srcset=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/image-1.png 500w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/image-1-400x400.png 400w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/image-1-80x80.png 80w\" sizes=\"auto, (max-width: 500px) 100vw, 500px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwybodaeth am yr Awdur<\/strong><\/h2>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a DECIPHer, lle rwy\u2019n gyd-arweinydd y Rhaglen Lleoliadau a Sefydliadau Iach. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac yn gyd-ymchwilydd grantiau mawr, fel Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (WAVU). A minnau\u2019n Seicolegydd Siartredig (CPsychol) ac yn Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig gyda Chyngor y Proffesiynau Gofal Iechyd, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar seicoleg iechyd ac iechyd cyhoeddus. O ddiddordeb arbennig i mi y mae penderfynyddion cymdeithasol iechyd pobl ifanc, ymyriadau mewn lleoliadau addysgol a materion fel iechyd rhywiol, trais mewn perthnasoedd, a thrais ar sail rhywedd ymhlith pobl ifanc. Rwy\u2019n ymroi hefyd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/youngh6\"><strong>yma<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pam mae SaFE yn bwysig Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[248],"tags":[],"class_list":["post-12552","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blog-2"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Pam mae SaFE yn bwysig Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-10T10:48:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-08-01T11:00:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-scaled.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"SHRN\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"SHRN\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"SHRN\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\"},\"headline\":\"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE\",\"datePublished\":\"2025-03-10T10:48:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-08-01T11:00:49+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/\"},\"wordCount\":958,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/08\\\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg\",\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/\",\"name\":\"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/08\\\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg\",\"datePublished\":\"2025-03-10T10:48:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-08-01T11:00:49+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/08\\\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/08\\\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"width\":2975,\"height\":1505,\"caption\":\"School Health Research Network\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\",\"name\":\"SHRN\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"SHRN\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/author\\\/cheryl_briscombe\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network","og_description":"Pam mae SaFE yn bwysig Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/","og_site_name":"The School Health Research Network","article_published_time":"2025-03-10T10:48:00+00:00","article_modified_time":"2025-08-01T11:00:49+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-scaled.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"author":"SHRN","twitter_misc":{"Written by":"SHRN","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/"},"author":{"name":"SHRN","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39"},"headline":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE","datePublished":"2025-03-10T10:48:00+00:00","dateModified":"2025-08-01T11:00:49+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/"},"wordCount":958,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg","articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/","name":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE - The School Health Research Network","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg","datePublished":"2025-03-10T10:48:00+00:00","dateModified":"2025-08-01T11:00:49+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg","contentUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/AdobeStock_599818692-1024x683.jpeg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/trawsnewid-iechyd-rhywiol-a-pherthnasoedd-mewn-addysg-bellach-cipolygon-o-dreial-safe\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","name":"School Health Research Network","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization","name":"School Health Research Network","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","contentUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","width":2975,"height":1505,"caption":"School Health Research Network"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39","name":"SHRN","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","caption":"SHRN"},"url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/author\/cheryl_briscombe\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12552","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12552"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12552\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12554,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12552\/revisions\/12554"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12552"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12552"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12552"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}