{"id":13680,"date":"2026-06-18T10:21:54","date_gmt":"2026-06-18T10:21:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?p=13680"},"modified":"2026-06-18T10:21:54","modified_gmt":"2026-06-18T10:21:54","slug":"datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyhoeddiad cyntaf dangosfwrdd data ysgolion cynradd Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN), a ddadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod mwy na hanner (53.3 y cant) o ferched ym mlwyddyn chwech ysgolion cynradd \u2013 sef rhai 10 ac 11 oed \u2013 yn nodi eu bod yn defnyddio gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, ynghyd \u00e2 49.7 y cant o fechgyn yr un oed.\u00a0 Yn ogystal, mae tri chwarter o blant yr oedran hwn yn berchen ar ffonau clyfar.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r data, sy&#8217;n dod o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN mewn Ysgolion Cynradd a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, yn dangos bod cynnydd cyson yn y defnydd rheolaidd o safleoedd cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ysgol gynradd, gyda 20.4 y cant o fechgyn a 18.6 y cant o ferched yn eu defnyddio ym mlwyddyn tri, ac mae\u2019r nifer yn codi bob blwyddyn wrth i blant symud ymlaen drwy&#8217;r ysgol gynradd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dangosodd yr arolwg hefyd fod mwy o blant ysgol gynradd yn berchen ar ffonau clyfar wrth iddynt fynd yn h\u0177n, gyda thua 39 y cant o blant ym mlwyddyn tri (saith i wyth oed) yn berchen ar ff\u00f4n clyfar a mwy na thri chwarter ym mlwyddyn chwech (75 y cant o fechgyn a 77.2 y cant o ferched).&nbsp; Mae twf cyson yn y nifer sy\u2019n berchen ar ff\u00f4n clyfar drwy gydol blynyddoedd yr ysgol gynradd, gyda thua 47 y cant o blant blwyddyn pedwar yn berchen ar y dyfeisiau, a 58-60 y cant ym mlwyddyn pump.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r data wedi&#8217;i gasglu o arolygon a atebwyd gan blant ysgol gynradd ym mlynyddoedd tri i chwech yn ystod oriau ysgol yn 2024.&nbsp; Cwblhaodd dros 50,000 o blant o fwy na 500 o ysgolion cynradd ym mhob rhan o Gymru yr arolwg, gan ei wneud yr arolwg mwyaf o iechyd a lles plant oedran cynradd yng Nghymru.&nbsp; Nod y data SHRN yw cefnogi ysgolion drwy ddarparu data cadarn ar lefel genedlaethol ar iechyd a lles plant, fel y gall athrawon a llunwyr polisi sicrhau eu bod yn darparu\u2019r gefnogaeth orau i ddisgyblion ac yn ymateb i ddylanwadau sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ar iechyd a lles dysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gofynnodd yr arolwg i blant a oeddent wedi defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Tiktok, Snapchat neu Facebook, ac os oeddent wedi gwneud hynny pa mor aml roeddent yn tueddu i&#8217;w defnyddio bob wythnos.&nbsp; Mae&#8217;r rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr yn gosod isafswm oedran o 13 ar gyfer defnyddwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Lleoliadau Addysgol) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: \u201cMae lefel y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ymhlith plant mor ifanc fel y dangosir gan arolwg SHRN yn bryder posibl gan fod tystiolaeth y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol fod yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd meddwl i rai plant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cGall dod i gysylltiad rheolaidd \u00e2 gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol gael effaith negyddol ar bobl ifanc. Gall ymgysylltu\u2019n aml gynyddu pwysau cymdeithasol canfyddedig a chymariaethau cymdeithasol a all effeithio\u2019n negyddol ar les a delwedd y corff.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae bod ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig \u00e2 pherygl o ddod i gysylltiad \u00e2 chynnwys niweidiol a chyswllt amhriodol ag oedolion, ac mae plant ifanc yn llai abl i benderfynu beth yw cyswllt priodol neu asesu risgiau posibl. Mae cysylltiad \u00e2 nodweddion caethiwus, fel sgrolio diddiwedd, a all ymestyn yr amser y mae plant yn ei dreulio ar apiau, yn eu tynnu i ffwrdd o weithgareddau eraill, fel gweithgarwch corfforol neu hob\u00efau a diddordebau eraill. Mae pryderon cynyddol hefyd y gallai nodweddion caethiwus ddylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd ac ymddygiadau fel rheoli ysgogiad a chyfnod canolbwyntio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYn ogystal, mae perygl o ddod i gysylltiad \u00e2 hysbysebu a chynnwys amhriodol nad yw wedi\u2019i gynllunio ar gyfer eu gr\u0175p oedran.&nbsp; Bydd popeth y byddant yn ei rannu, ei bostio neu&#8217;n ymgysylltu ag ef ar-lein ar gael am byth, a gellir ei ddefnyddio i greu proffiliau digidol a fydd yn aros gyda nhw am oes, gan achosi problemau yn y dyfodol o bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cO ystyried nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru sy\u2019n berchen ar ffonau clyfar, mae\u2019r cyhoeddiad am waharddiad sydd ar ddod ar bobl dan 16 oed rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol risg uchel, a chyfyngiadau ar bobl ifanc h\u0177n rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn hwyr yn y nos, yn gamau pwysig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i elwa o dechnoleg wrth gael eu cadw\u2019n ddiogel ar-lein.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cByddem yn cynghori rhieni a gofalwyr i fonitro\u2019n ofalus a chyfyngu ar ddefnydd o\u2019r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant ifanc yn unol \u00e2 chyfyngiadau\u2019r platfformau, ac i sicrhau bod plant yn profi amrywiaeth o wahanol weithgareddau y tu allan i oriau ysgol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr Rhwydwaith SHRN, sydd wedi&#8217;i leoli yng nghanolfan <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/cy\/home-cymraeg\/\">DECIPHer<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd: \u201cMae\u2019r canfyddiadau hyn, sydd wedi\u2019u gosod o fewn cyd-destun ehangach lle mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio dyfeisiau digidol yn rheolaidd ar gyfer adloniant, yn tynnu sylw at fater sydd angen ei fonitro\u2019n barhaus mewn amgylchedd digidol sy\u2019n newid yn gyflym. Mae SHRN yn casglu gwybodaeth ar amrywiaeth eang o feysydd sy&#8217;n ymwneud ag iechyd a lles plant. Mae&#8217;r data cadarn, ar lefel genedlaethol hwn yn helpu ysgolion i ddeall profiadau eu dysgwyr yn well. Bwriad y mewnwelediadau yw cefnogi athrawon, a\u2019u galluogi i ymateb i faterion sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg a chryfhau&#8217;r gefnogaeth maen nhw&#8217;n ei chynnig i blant a phobl ifanc.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>DIWEDD<br>\u00a0<br>CYSYLLTU \u00c2 NI:\u00a0\u00a0 Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch \u00e2 Th\u00eem Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0277 (24 awr)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nodiadau\u2019r golygydd<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan Brifysgol Caerdydd drwy&#8217;r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN). Mae SHRN yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur(on) a fynegir ac nid o reidrwydd rhai SHRN, Prifysgol Caerdydd, na&#8217;i phartneriaid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ni yw eich prif ffynhonnell o ran gwybodaeth iechyd y cyhoedd, arbenigedd annibynnol ac ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang y gellir ymddiried ynddi, i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ein timau\u2019n gweithio gyda\u2019n partneriaid ar draws y llywodraeth, y trydydd sector a chymunedau lleol i atal clefydau, diogelu iechyd a darparu arbenigedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Ein nod yw lleihau anghydraddoldebau, cynyddu disgwyliad oes iach a gwella iechyd a lles i bawb yng Nghymru gyda\u2019n gilydd, nawr ac ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithio gyda&#8217;n gilydd ar gyfer Cymru Iachach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael o <a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/\">https:\/\/icc.gig.cymru\/<\/a>ble at <a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/\">https:\/\/phw.nhs.wales\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyhoeddiad cyntaf dangosfwrdd data ysgolion cynradd Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN), a ddadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod mwy na hanner (53.3 y cant) o ferched ym mlwyddyn chwech ysgolion cynradd \u2013 sef rhai 10 ac 11 oed \u2013 yn nodi eu bod yn defnyddio gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[244],"tags":[],"class_list":["post-13680","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-datganiadau-ir-wasg"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae cyhoeddiad cyntaf dangosfwrdd data ysgolion cynradd Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN), a ddadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod mwy na hanner (53.3 y cant) o ferched ym mlwyddyn chwech ysgolion cynradd \u2013 sef rhai 10 ac 11 oed \u2013 yn nodi eu bod yn defnyddio gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-06-18T10:21:54+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"SHRN\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"SHRN\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"SHRN\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\"},\"headline\":\"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol\",\"datePublished\":\"2026-06-18T10:21:54+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"},\"wordCount\":1116,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Datganiadau i\u2019r wasg\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\",\"name\":\"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-06-18T10:21:54+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"width\":2975,\"height\":1505,\"caption\":\"School Health Research Network\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\",\"name\":\"SHRN\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"SHRN\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/author\\\/cheryl_briscombe\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network","og_description":"Mae cyhoeddiad cyntaf dangosfwrdd data ysgolion cynradd Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN), a ddadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod mwy na hanner (53.3 y cant) o ferched ym mlwyddyn chwech ysgolion cynradd \u2013 sef rhai 10 ac 11 oed \u2013 yn nodi eu bod yn defnyddio gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/","og_site_name":"The School Health Research Network","article_published_time":"2026-06-18T10:21:54+00:00","author":"SHRN","twitter_misc":{"Written by":"SHRN","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/"},"author":{"name":"SHRN","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39"},"headline":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol","datePublished":"2026-06-18T10:21:54+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/"},"wordCount":1116,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"articleSection":["Datganiadau i\u2019r wasg"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/","name":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol - The School Health Research Network","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website"},"datePublished":"2026-06-18T10:21:54+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/datan-dangos-bod-hanner-plant-blwyddyn-chwech-yng-nghymrun-adrodd-eu-bod-yn-defnyddior-cyfryngau-cymdeithasol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Data\u2019n dangos bod hanner plant blwyddyn chwech yng Nghymru\u2019n adrodd eu bod yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","name":"School Health Research Network","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization","name":"School Health Research Network","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","contentUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","width":2975,"height":1505,"caption":"School Health Research Network"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39","name":"SHRN","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","caption":"SHRN"},"url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/author\/cheryl_briscombe\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13680","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13680"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13680\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13682,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13680\/revisions\/13682"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13680"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13680"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13680"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}