{"id":13815,"date":"2026-09-10T10:59:00","date_gmt":"2026-09-10T10:59:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?p=13815"},"modified":"2026-09-10T10:59:00","modified_gmt":"2026-09-10T10:59:00","slug":"o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/","title":{"rendered":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"584\" height=\"584\" src=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-11957\" style=\"width:610px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png 584w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1-400x400.png 400w, https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1-80x80.png 80w\" sizes=\"auto, (max-width: 584px) 100vw, 584px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ysgolion ar draws Cymru yn derbyn adroddiad lefel ysgol y Rhwydwaith, sy\u2019n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau, ymddygiadau ac anghenion dysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un peth yw derbyn data\u2019r Rhwydwaith. Mater arall yw troi\u2019r mewnwelediadau hynny yn weithredu. Wrth weithio ar yr astudiaeth achos hon, sylwais fy mod i\u2019n myfyrio ar sut mae\u2019r ysgolion yn cyflawni\u2019r daith honno. Mae\u2019r astudiaeth achos yn dilyn ysgolion uwchradd ledled clwstwr Aberd\u00e2r wrth iddynt gydweithio i ddehongli tystiolaeth, amlygu blaenoriaethau, a datblygu dull ar y cyd o wella iechyd a lles dysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr hyn a\u2019m tarodd oedd pa mor aml roedd canfyddiadau\u2019r Rhwydwaith yn fan cychwyn sgyrsiau ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y cyd \u00e2 gwybodaeth leol, arbenigedd proffesiynol a ffynonellau tystiolaeth eraill, fe helpodd ysgolion i symud y tu hwnt i ofyn <em>&#8220;Beth sy\u2019n digwydd?&#8221;<\/em> a thuag at ddeall pam a beth gallent ei wneud nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dechrau gyda Data\u2019r Rhwydwaith<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy\u2019r trafodaethau hyn, symudodd ysgolion o adolygu canfyddiadau\u2019r arolwg i nodi bod gweithgarwch corfforol yn flaenoriaeth ar y cyd. Roedd yr hyn a ddilynodd yn edrych yn wahanol o ysgol i ysgol, ond roedd yr holl weithgarwch yn gysylltiedig \u00e2 ffocws ar y cyd ar greu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr fod yn actif trwy gydol y diwrnod. Cyflwynodd ysgolion ardaloedd chwarae actif, cynnwys seibiannau symud mewn gwersi, adolygu\u2019r ddarpariaeth allgyrsiol gan ddefnyddio canfyddiadau\u2019r Rhwydwaith a\u2019r Arolwg Chwaraeon Ysgol, a gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo teithio llesol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l cytuno ar y flaenoriaeth honno ar y cyd, trodd sylw i gynllunio. Datblygodd ysgolion amcanion ar y cyd ac archwilio ffyrdd ymarferol o gynyddu cyfleoedd i symud yn ystod y diwrnod ysgol. Er bod dulliau\u2019n amrywio ar draws lleoliadau, fe wnaeth ffocws cyffredin helpu i gysoni gweithgarwch ar draws y clwstwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth nodi ffocws ar y cyd helpu i lywio cynllunio at y dyfodol a rhoddodd faes cyffredin i ysgolion ei archwilio ar draws y clwstwr. Yn hytrach na chanolbwyntio ar un ystadegyn, ystyriont y ffactorau ehangach sy\u2019n effeithio ar gyfranogiad ac ymhle y gallent gydweithio ar draws y clwstwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ddeall y canfyddiadau\u2019n fanylach, gweithiodd ysgolion gyda chydweithwyr o Rwydwaith Ysgolion Cymru sy\u2019n Hybu Iechyd a Lles (WNHPWS) Cwm Taf Morgannwg i lunio darlun llawnach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyfunodd ysgolion ganlyniadau\u2019r arolwg \u00e2 deallusrwydd lleol, gwybodaeth am iechyd y boblogaeth a data cwrs bywyd. Roedd dwyn y ffynonellau gwahanol hyn ynghyd wedi helpu i lunio dealltwriaeth fwy cyfoethog o\u2019r ffactorau sy\u2019n llywio profiadau dysgwyr, a sicrhaodd fod penderfyniadau\u2019n cael eu seilio ar dystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd rhai o\u2019r trafodaethau mwyaf buddiol yn canolbwyntio ar y dystiolaeth cwrs bywyd. Helpodd data\u2019r Rhwydwaith i amlygu ymhle y byddent efallai am hoelio\u2019u sylw, ac ychwanegodd y dystiolaeth cwrs bywyd gyd-destun gwerthfawr. Lluniodd profiadau plentyndod cynnar, amgylchiadau teuluol, cyfleoedd am weithgarwch corfforol a dylanwadau cymunedol i gyd ran o\u2019r drafodaeth. Fe wnaeth ystyried y ffactorau hyn ochr yn ochr \u00e2 chanfyddiadau\u2019r Rhwydwaith helpu ysgolion i feithrin dealltwriaeth lawnach o brofiadau dysgwyr a chefnogi dull mwy ataliol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond rhan o\u2019r darlun oedd canlyniadau\u2019r arolwg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Helpodd canfyddiadau\u2019r arolwg i amlygu meysydd ar gyfer ffocws, ond y sgyrsiau o\u2019u hamgylch a helpodd yr ysgolion i benderfynu beth i\u2019w wneud nesaf. O ganlyniad i\u2019r trafodaethau hynny, cytunodd yr ysgolion yn y pen draw ar flaenoriaeth ar y cyd yn ymwneud \u00e2 gweithgarwch corfforol. O\u2019r fan honno, trodd y ffocws tuag at gynllunio ar gyfer gweithredu, gydag ysgolion yn datblygu amcanion ar y cyd, yn cytuno ar ddeilliannau, ac yn manteisio ar gymorth gan bartneriaid i roi eu cynlluniau ar waith. Nid dim ond adolygu data yr oedd ysgolion. Roeddent yn gofyn cwestiynau, yn archwilio esboniadau posibl ac yn ystyried beth oedd y canfyddiadau\u2019n ei olygu yn eu hysgol. Amlygodd yr arolwg feysydd yr oedd angen sylw arnynt, yna helpodd y trafodaethau dilynol i ysgolion ddeall y patrymau a welont yn well.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwneud synnwyr o\u2019r dystiolaeth gyda\u2019i gilydd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o wir gryfderau\u2019r prosiect oedd y cyfle i ysgolion ddysgu oddi wrth ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy Gymuned Ymarfer, daeth athrawon o bob rhan o\u2019r clwstwr ynghyd i drafod canfyddiadau, rhannu profiadau a myfyrio ar heriau cyffredin. Daeth pob ysgol \u00e2 rhywbeth gwahanol i\u2019r sgwrs. Roedd ganddynt gyd-destunau gwahanol, cryfderau gwahanol a blaenoriaethau gwahanol. Nid oedd dod i gytundeb llawn fyth yn nod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach, cydweithiodd ysgolion i ddeall beth roedd y dystiolaeth yn ei ddweud wrthynt a sut y gallai lywio cynllunio at y dyfodol. Fe wnaeth y trafodaethau helpu i ddwyn safbwyntiau amrywiol ynghyd, gan ganiat\u00e1u i ysgolion archwilio problemau cyffredin ac anghenion lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i mi weithio drwy\u2019r astudiaeth achos, roeddwn yn dychwelyd bob amser i bwysigrwydd gwneud synnwyr o\u2019r dystiolaeth gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall adroddiad y Rhwydwaith gynnig mewnwelediadau gwerthfawr, ond mae ar ysgolion angen amser i ddehongli\u2019r canfyddiadau, cymharu profiadau ac ystyried beth maen nhw\u2019n ei olygu yn ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhoddodd y Gymuned Ymarfer y cyfle hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhoddodd gyfle i athrawon fyfyrio ar y dystiolaeth gyda\u2019i gilydd, gofyn cwestiynau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Trwy wneud hynny, helpodd ysgolion i symud y tu hwnt i ddim ond adolygu eu canfyddiadau gan y Rhwydwaith, a thuag at wneud penderfyniadau gwybodus am beth i\u2019w wneud nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mae perthnasoedd yn bwysig<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhoddodd y Gymuned Ymarfer fwy na fforwm i drafod data. Creodd amser a lle i ysgolion ddod ynghyd, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ymrwymodd ysgolion i\u2019r broses, gan gyfarfod yn rheolaidd a gweithio trwy heriau gyda\u2019i gilydd. Gydag amser, datblygodd ymddiriedaeth, gan ei gwneud hi\u2019n haws cael sgyrsiau agored am flaenoriaethau, cyfleoedd a meysydd i\u2019w gwella.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hefyd, pwysleisiodd rywbeth rydym ni\u2019n ei weld yn aml trwy waith y Rhwydwaith. Gall tystiolaeth bwyntio ysgolion i\u2019r cyfeiriad cywir, ond daw ei gwerth gwirioneddol yn aml trwy\u2019r sgyrsiau y mae\u2019n eu tanio a\u2019r penderfyniadau sy\u2019n dilyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mai megis dechrau y mae\u2019r gwaith, siaradodd ysgolion yn gadarnhaol am werth cydweithio. Fe wnaeth cyfarfodydd rheolaidd, cynlluniau gweithredu ar y cyd a chefnogaeth barhaus helpu i gynnal momentwm, tra rhoddodd cyfleoedd i rannu llwyddiannau a heriau hyder i staff roi cynnig ar ddulliau newydd. Hefyd, amlygodd nifer o ysgolion fuddion cael strwythur rhagweladwy ac amserlenni clir, gan helpu i\u2019r gwaith deimlo\u2019n hyfyw ochr yn ochr \u00e2 blaenoriaethau eraill.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Troi Trafod yn Weithredu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth adnoddau cynllunio ymarferol helpu i droi trafod yn weithredu. Rhoesant ffordd gyffredin i ysgolion gynllunio, adolygu cynnydd a chynnal y momentwm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r astudiaeth achos yn archwilio rhai o\u2019r dulliau hyn yn fanylach, gan ddangos sut y gwnaeth strwythurau syml helpu i gynnal ffocws y gwaith gydag amser.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ddiddordeb i mi oedd pa mor syml yr oedd cymaint o\u2019r dulliau. Fe wnaeth amcanion clir, camau gweithredu y cytunwyd arnynt a chyfleoedd rheolaidd i adolygu cynnydd helpu i droi bwriadau da yn weithgarwch parhaus. Yn hytrach na chreu haenau ychwanegol o waith, helpodd y strwythurau hyn i ysgolion gynnal eu ffocws ar y blaenoriaethau a nodont drwy\u2019r dystiolaeth a dal ati i symud ymlaen gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwerth Gweithio mewn Partneriaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth y prosiect \u00e2 chydweithwyr ynghyd o sefydliadau addysg, iechyd a chymunedol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon RhCT. Daeth pob partner \u00e2 safbwynt gwahanol, gan helpu ysgolion i ddehongli canfyddiadau, archwilio dulliau posibl a throi at gymorth ychwanegol, lle bo angen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy gydol y prosiect, ysgolion oedd wrth y llyw drwy\u2019r amser.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Darparodd partneriaid allanol arbenigedd a chymorth, ond yr ysgolion eu hunain oedd yn gyfrifol am benderfyniadau am flaenoriaethau a gweithredu. Yn ymarferol, daeth yn ffordd wirioneddol gydweithredol o weithio, gan gyfuno perchnogaeth leol ag arbenigedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n dangos gwerth cydweithio gan ysgolion a phartneriaid iechyd tuag at nod cyffredin.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth gall ysgolion eraill ei gymryd o hyn?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes unrhyw ddwy ysgol yr un fath ac ni fydd beth weithiodd yn Aberd\u00e2r yn union yr un fath rywle arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Serch hynny, mae ambell beth a allai fod yn ddefnyddiol i ysgolion eraill.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddio data\u2019r Rhwydwaith yn fan cychwyn ar gyfer sgwrs, yn hytrach nag yn fan gorffen.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried canfyddiadau ochr yn ochr \u00e2 deallusrwydd lleol a ffynonellau tystiolaeth eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Manteisio ar gymorth ac arbenigedd sydd ar gael gan WNHWPS.<\/li>\n\n\n\n<li>Creu cyfleoedd i athrawon drafod a dehongli tystiolaeth gyda\u2019i gilydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi strwythurau ymarferol ar waith sy\u2019n cefnogi gweithredu ac atebolrwydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth, ymddiriedaeth a pherthnasoedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud y mwyaf o bartneriaethau ac arbenigedd allanol, lle bo\u2019n briodol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth arhosodd gyda mi oedd faint o amser dreuliodd ysgolion yn gwneud synnwyr o\u2019r dystiolaeth. A chyn bwysiced, creodd ysgolion y strwythurau yr oedd eu hangen i droi\u2019r trafodaethau hynny yn weithredu a chynnal momentwm ar \u00f4l i\u2019r gwaith ddechrau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn i mi ddechrau gweithio ar yr astudiaeth achos, disgwyliais y byddai\u2019r ffocws ar y camau gweithredu a gymerwyd gan ysgolion yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach, sylwais fy mod yn cael fy nenu at bopeth a ddigwyddodd cyn hynny. Rhannodd athrawon safbwyntiau, gofyn cwestiynau a chymryd amser i ddeall beth oedd y canfyddiadau\u2019n ei olygu yn eu cyd-destun eu hunain cyn penderfynu ymhle i hoelio sylw eu hymdrechion. I mi, dyna un o gryfderau data\u2019r Rhwydwaith. Mae\u2019r canfyddiadau\u2019n bwysig, ond sut mae ysgolion yn eu defnyddio sydd wir o bwys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae clwstwr Aberd\u00e2r yn cynnig enghraifft dda o sut y gall ysgolion ddefnyddio canfyddiadau\u2019r Rhwydwaith i feithrin dealltwriaeth ar y cyd o\u2019r hyn sy\u2019n digwydd ar gyfer dysgwyr a phenderfynu ymhle i hoelio sylw eu hymdrechion. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Os hoffech ddysgu rhagor, gallwch ddarllen yr astudiaeth achos lawn, sef <em>Adeiladu Cymuned Ymarfer: Ymagwedd Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r at Iechyd a Lles<\/em>,ar wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ysgolion ar draws Cymru yn derbyn adroddiad lefel ysgol y Rhwydwaith, sy\u2019n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau, ymddygiadau ac anghenion dysgwyr. Un peth yw derbyn data\u2019r Rhwydwaith. Mater arall yw troi\u2019r mewnwelediadau hynny yn weithredu. Wrth weithio ar yr astudiaeth achos hon, sylwais fy mod i\u2019n myfyrio ar sut mae\u2019r ysgolion yn cyflawni\u2019r daith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"footnotes":""},"categories":[248],"tags":[],"class_list":["post-13815","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blog-2"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae ysgolion ar draws Cymru yn derbyn adroddiad lefel ysgol y Rhwydwaith, sy\u2019n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau, ymddygiadau ac anghenion dysgwyr. Un peth yw derbyn data\u2019r Rhwydwaith. Mater arall yw troi\u2019r mewnwelediadau hynny yn weithredu. Wrth weithio ar yr astudiaeth achos hon, sylwais fy mod i\u2019n myfyrio ar sut mae\u2019r ysgolion yn cyflawni\u2019r daith [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"The School Health Research Network\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-09-10T10:59:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"584\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"584\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"SHRN\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"SHRN\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"SHRN\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\"},\"headline\":\"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith\",\"datePublished\":\"2026-09-10T10:59:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/\"},\"wordCount\":1651,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/04\\\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\",\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/\",\"name\":\"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/04\\\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\",\"datePublished\":\"2026-09-10T10:59:00+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/04\\\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/04\\\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"School Health Research Network\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png\",\"width\":2975,\"height\":1505,\"caption\":\"School Health Research Network\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39\",\"name\":\"SHRN\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"SHRN\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.shrn.org.uk\\\/cy\\\/author\\\/cheryl_briscombe\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network","og_description":"Mae ysgolion ar draws Cymru yn derbyn adroddiad lefel ysgol y Rhwydwaith, sy\u2019n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau, ymddygiadau ac anghenion dysgwyr. Un peth yw derbyn data\u2019r Rhwydwaith. Mater arall yw troi\u2019r mewnwelediadau hynny yn weithredu. Wrth weithio ar yr astudiaeth achos hon, sylwais fy mod i\u2019n myfyrio ar sut mae\u2019r ysgolion yn cyflawni\u2019r daith [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/","og_site_name":"The School Health Research Network","article_published_time":"2026-09-10T10:59:00+00:00","og_image":[{"width":584,"height":584,"url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png","type":"image\/png"}],"author":"SHRN","twitter_misc":{"Written by":"SHRN","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/"},"author":{"name":"SHRN","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39"},"headline":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith","datePublished":"2026-09-10T10:59:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/"},"wordCount":1651,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png","articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/","name":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith - The School Health Research Network","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png","datePublished":"2026-09-10T10:59:00+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png","contentUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/SHRN-icons-dark-blue-100c68m54k_Research-evidence-alt-1.png"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/o-wybodaeth-i-weithredu-beth-gall-clwstwr-ysgolion-aberdar-ei-ddysgu-i-ni-am-ddefnyddio-datar-rhwydwaith\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"O Wybodaeth i Weithredu: Beth gall Clwstwr Ysgolion Aberd\u00e2r ei Ddysgu i ni am Ddefnyddio Data\u2019r Rhwydwaith"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","name":"School Health Research Network","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#organization","name":"School Health Research Network","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","contentUrl":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/cropped-cropped-SHRN-Core-Logo-BILINGUAL.png","width":2975,"height":1505,"caption":"School Health Research Network"},"image":{"@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/#\/schema\/person\/7a5bc2ab9b16dd090379188029c1eb39","name":"SHRN","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8621e8f22bacc2d55045eef5f6c7d0399f5a6dc6efff801e47e378b4de08d01c?s=96&d=mm&r=g","caption":"SHRN"},"url":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/author\/cheryl_briscombe\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13815","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13815"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13815\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13828,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13815\/revisions\/13828"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13815"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13815"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.shrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13815"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}