Effaith ar y DU ac yn Rhyngwladol

Mae tîm SHRN wedi derbyn gwahoddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i gyfrannu at waith cynllunio ar gyfer cynllun peilot rhwydwaith ysgolion iach ledled Ewrop. Mynychodd yr Athro Simon Murphy a phartneriaid SHRN o Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfarfodydd WHO yn Copenhagen yn 2018-2019, ac mae disgwyl i waith recriwtio ar gyfer ail gam y cynllun peilot gychwyn trwy rwydweithiau HBSC a SHE yn ystod haf 2019.

https://www.schoolsforhealth.org/

http://www.hbsc.org/

Mae SHRN wedi chwarae rôl ganolog o ran cefnogi’r rhwydwaith SHINE newydd yn yr Alban, sef cynllun ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol St. Andrews. Cynllun peilot wedi’i fodelu ar isadeiledd SHRN yw SHINE, sydd wedi’i gynllunio i gasglu data ar arferion iechyd a lles ysgolion ledled yr Alban.  

https://shine.sphsu.gla.ac.uk/