Mae’r dudalen hon yn cynnwys y Telerau ac Amodau ar gyfer defnyddio gwefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN: School Health Research Network).
Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i gadw at y telerau a’r amodau sydd ar y dudalen hon, ac yn cytuno i dderbyn ein Polisi Preifatrwydd.
Mae SHRN wedi ei leoli yng Nghaerdydd, y DU. Mae’r wefan hon yn wasanaeth sy’n cael ei weithredu gan SHRN, DECIPHer, sbarc|spark, Heol Maendy, Caerdydd. CF24 4HQ.
Yn rhan o’r telerau ac amodau hyn mae “Ni//Ein/SHRN/Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion” yn golygu y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ac mae “Gwefan” yn golygu’r wefan sydd wedi’i lleoli yn www.shrn.org.uk (neu unrhyw URL arall fydd yn cymryd ei le). Mae “Chi/Eich” yn golygu chi, sef defnyddiwr ein Gwefan.
Ni ddylech chi, y defnyddiwr, ddefnyddio gwefan SHRN at unrhyw ddibenion anghyfreithlon, a byddwch yn ei defnyddio yn unol â’r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol. Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r Wefan hon mewn ffordd a allai achosi difrod i’r wefan, ei gwneud yn llai effeithlon, neu amharu arni mewn unrhyw ffordd a allai gael effaith andwyol ar effeithiolrwydd neu weithrediad y wefan. Drwy barhau i ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n cytuno i beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i unrhyw ran neu gydran o’r Wefan; rydych chi hefyd yn cytuno, mewn achos lle mae gennych chi unrhyw hawl, hawliad neu gam gweithredu yn erbyn unrhyw ddefnyddwyr sy’n codi o ddefnydd yr Defnyddiwr hwnnw o’r Wefan, yna byddwch chi’n bwrw ymlaen â’r hawl, hawliad neu gam gweithredu hwnnw yn annibynnol a heb i ni fod yn atebol.
Ymwadiad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Mae SHRN yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith o gasglu a chyhoeddi’r wybodaeth ar ein gwefan yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, ni fydd SHRN yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a achosir gan ddibyniaeth ar ddeunydd anghywir neu wallau ar dudalennau’r wefan hon.
Polisi Defnyddio Cynnwys y Wefan
Oni bai bod gennych chi ganiatâd ysgrifenedig, ni chewch chi gopïo, ailadrodd na chynnwys unrhyw ddeunydd o’r wefan hon – gan gynnwys gwaith celf, nodau masnach, logos, cynnwys ysgrifenedig, a delweddau – mewn unrhyw waith arall, na’i ddefnyddio mewn unrhyw ffordd gyhoeddus neu fasnachol. Mae hyn yn cynnwys rhannu neu ail-gyhoeddi cynnwys o unrhyw ran o’r wefan.
Fodd bynnag, caiff defnyddwyr ddefnyddio neu gyfeirio at gynnwys o’r wefan at ddibenion academaidd, addysgol neu anfasnachol, ar yr amod eich bod yn cydnabod y cynnwys yn briodol.
Hen ganiatâd ysgrifenedig, ni ddylech chi gopïo na chynnwys unrhyw ddeunydd, gan gynnwys gwaith celf, nodau masnach, logos, cynnwys ysgrifenedig a/neu ddelweddau sydd ar gael ar y wefan, mewn unrhyw waith arall na defnyddio’r deunydd mewn unrhyw ffordd gyhoeddus neu fasnachol arall. Mae hynny’n golygu na chewch chi rannu nac ail-gyhoeddi unrhyw ran o’r wefan. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwaith celf, nodau masnach, logos, cynnwys ysgrifenedig a/neu ddelweddau ein Partneriaid sy’n ymddangos ar ein gwefan.
Gallwch chi gynnwys dolen i wefan SHRN, ond ni ddylai ein deunyddiau, gan gynnwys logos neu ddelweddau, gael eu defnyddio, oni bai ein bod ni wedi rhoi caniatâd penodol i chi wneud hynny.
Dolenni i wefannau eraill
Sylwer nad yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn gyfrifol am gynnwys nac argaeledd unrhyw wefannau allanol y mae dolenni yn arwain atyn nhw. Bydd rhai dolenni, gan gynnwys dolenni hyperdestun, ar ein gwefan yn mynd â chi i wefannau allanol. Rydyn ni’n cynnig y rhain er hwylustod i chi ac nid yw cynnwys linc yn golygu bod y Rhwydwaith yn cefnogi neu gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw ddolen i wefan, ei gweithredwr neu ei chynnwys.
Polisi Preifatrwydd Gwefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut mae’r Rhwydwaith yn rheoli gwybodaeth bersonol a gesglir drwy ei gwefan (www.shrn.org.uk). Mae hefyd yn disgrifio eich hawliau diogelu data, gan gynnwys yr hawl i wrthwynebu rhywfaint o’r gweithgareddau prosesu y mae’r rhwydwaith yn eu cynnal.
Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu
Hwyrach y byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi’n gwneud y canlynol:
• Llenwi ffurflenni ar-lein neu gofrestru am ddiweddariadau.
• Tanysgrifio i hysbysiadau e-newyddion a digwyddiadau.
• Defnyddio ffurflenni wedi’u mewnosod neu ddulliau rhoi adborth.
• At ddibenion datgelu cyfreithiol. Fyddwn ni ddim yn datgelu data personol am unigolion oni bai ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i wneud hynny. Rhaid gwneud hyn mewn amgylchiadau prin iawn, er enghraifft er mwyn cydymffurfio â gorchymyn y llys, cais drwy orfodaeth y gyfraith, pryderon sy’n ymwneud â diogelu, neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill. Dim ond gwybodaeth angenrheidiol y byddwn ni’n ei rhannu os bydd angen datgelu gwybodaeth, a hynny yn unol â chyfreithiau diogelu data. Gall hyn gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, y sefydliad, ac unrhyw neges neu ymholiad rydych chi’n cyflwyno.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis ac adnoddau dadansoddol i ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan. Mae hyn yn ein helpu ni i wella cynnwys a phrofiad defnyddwyr. Gall yr adnoddau hyn gasglu data dienw, er enghraifft y math o borwr, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a’r amser a dreuliwyd ar y safle.
Dydyn ni ddim yn casglu data personol sensitif drwy’r wefan. Mae’r holl ddata sy’n cael eu casglu yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben a nodwyd.
Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Mae Deddfwriaeth Diogelu Data yn golygu bod yn rhad i ni gydymffurfio ag amodau penodol cyn y caniateir i ni ddefnyddio eich data yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn, gan gynnwys meddu ar ‘sail gyfreithlon’ at ddibenion prosesu.
Dyma’r sail ar gyfer prosesu eich gwybodaeth:
• Buddiannau dilys – mae’n bosibl y bydd angen prosesu eich data personol at ddibenion buddiannau dilys a’u dilynir gennyn ni neu drydydd parti, ac eithrio lle mae buddiannau o’r fath yn cael eu diystyru oherwydd eich buddiannau neu drwy hawliau neu ryddid sylfaenol sy’n golygu bod angen diogelu eich data personol.
• Caniatâd – Rydych chi wedi rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data personol at ddibenion derbyn negeseuon a chyflwyno ffurflenni.
Caiff gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chyflwyno drwy’r wefan ei defnyddio at y diben y cafodd ei roi – er enghraifft, ymateb i ymholiadau neu anfon diweddariadau y gofynnwyd amdanyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwerthu nac yn rhannu eich data â thrydydd parti.
Caiff data dadansoddol eu defnyddio i fonitro perfformiad gwefan a gwella hygyrchedd a pherthnasedd cynnwys.
Dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y gwnaethon ni ei gasglu ar eu cyfer y byddwn ni’n cadw data personol, yn unol â Pholisi Cadw Data’r Brifysgol. Er enghraifft, caiff cyfeiriadau e-bost a’u cyflwynir drwy ffurflenni cyswllt eu dileu unwaith y bydd yr ymholiad yn cael ei ddatrys.
Efallai y byddwn ni’n defnyddio gwasanaethau trydydd parti dibynadwy (e.e. cynnal gwefannau, adnoddau dadansoddi) i gefnogi ymarferoldeb y wefan. Mae’r darparwyr hyn wedi’u rhwymo dan gontract i gydymffurfio â rheoliadau diogelu data.
Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill
Mae’n bosibl bod cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati) ar y safle hwn. Mae cynnwys wedi’i fewnosod o safleoedd eraill yn ymddwyn yn union yr un ffordd a phetai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.
Gallai’r gwefannau hynny gasglu data amdanoch, defnyddio cwcis, mewnosod dulliau olrhain ychwanegol gan trydydd parti, a monitro sut rydych chi’n rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod. Gall hyn gynnwys olrhain y modd rydych yn rhyngweithio â’r cynnwys wedi’i fewnosod os oes gennych chi gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.
Storio a Diogelu Data
Mae’r holl ddata personol yn cael eu storio’n ddiogel ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Rydyn ni’n cymryd mesurau technegol a sefydliadol priodol i amddiffyn eich gwybodaeth rhag i unrhyw un gael mynediad ati heb ganiatâd, ei cholli neu ei chamddefnyddio.
Y Rheolydd Data a Gwybodaeth Gyswllt
Prifysgol Caerdydd yw rheolydd data’r wefan hon ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Eich Hawliau
O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan ddeddfau gwarchod data mewn perthynas â’ch data personol, gan gynnwys:
• Gofyn am fynediad at eich data personol (a elwir yn gyffredinol yn “gais am fynediad at ddata gan y testun”). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
• Gofyn am gywiro eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch. Er hyn, efallai y bydd angen inni wirio cywirdeb y data newydd a fyddwch yn ei roi inni.
• Gofyn i’ch data personol gael ei ddileu. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu waredu data personol lle nad oes rheswm da inni barhau i’w brosesu. Sylwer, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu data am resymau cyfreithiol penodol y byddwch yn cael gwybod amdanynt, os yw’n berthnasol, ar adeg eich cais.
• Gwrthwynebu prosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i wrthwynebu prosesu eich data personol os ydych yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol neu os ydym yn ei ddefnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol.
• Gofyn am gyfyngiadau ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn inni atal prosesu eich data personol mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd, megis lle hoffech inni wirio cywirdeb y data.
• Gofyn am drosglwyddo eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn am drosglwyddo eich data personol i drydydd parti. Sylwer bod yr hawl hon ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y gwnaethoch chi roi caniatâd inni ei defnyddio yn wreiddiol neu lle gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth i gyflawni contract gyda chi.
• Hawl i dynnu caniatâd yn ôl. Mae hyn yn eich galluogi i dynnu eich caniatâd yn ôl, yr ydym yn dibynnu arno i brosesu eich data personol. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu cynnig rhai gwasanaethau i chi. Os yw hyn yn wir, byddwn yn eich cynghori ar yr adeg y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu eich hawliau o ran data, e-bostiwch shrn@cardiff.ac.uk.
Cwcis
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Rydym yn defnyddio cwcis i bersonoli cynnwys, i ddarparu nodweddion y cyfryngau cymdeithasol ac i ddadansoddi ein traffig. Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan gyda’n partneriaid cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu a dadansoddeg a gaiff ei chyfuno â gwybodaeth arall rydych wedi’i rhoi iddynt neu y maent wedi’i chasglu o’ch defnydd o’u gwasanaethau.
Mae’r gyfraith yn nodi y gallwn storio cwcis ar eich dyfais os ydynt yn gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithrediad y wefan hon. Mae angen eich caniatâd arnom ar gyfer yr holl fathau eraill o gwcis.
Mae’r wefan hon yn defnyddio gwahanol fathau o gwcis. Mae rhai cwcis yn cael eu gosod gan wasanaethau trydydd parti sy’n ymddangos ar ein tudalennau.
Gallwch reoli eich dewisiadau cwcis drwy osodiadau eich porwr.
Rhestrau postio
Os byddwch yn tanysgrifio i’n rhestr bostio drwy’r wefan, dim ond at y diben a nodir y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio (e.e. cael diweddariadau neu wybodaeth am ddigwyddiadau). Cewch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r ddolen yn yr e-bost neu drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol. Nid ydym yn rhannu data y rhestr bostio gyda thrydydd partïon.
Cwmpas y polisi hwn
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gesglir trwy’r wefan hon yn unig. Darperir gwybodaeth am sut y caiff data a gesglir yn ein hastudiaethau ymchwil ei ddefnyddio, ei storio a’i rannu ar wahân mewn taflenni gwybodaeth a deunyddiau caniatâd cyfranogwyr penodol i astudiaethau, yn unol â chymeradwyaethau moesegol a llywodraethu’r Brifysgol.
Ar ben hynny, mae polisi preifatrwydd y wefan hon yn cwmpasu gwefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn unig – nid yw gwefannau sy’n gysylltiedig â’r wefan hon yn cael eu cwmpasu gan y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn ar gael yn nhroednodyn y wefan ac ym mhob man lle mae data personol yn cael ei gasglu
Rydym yn cadw’r hawl i newid yr wybodaeth hon heb rybudd.
Manylion cyswllt
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
DECIPHer,
sbarc,
Heol Maendy,
Caerdydd.
CF24 4HQ.
shrn@caerdydd.ac.uk