Partneriad

Mae saith partner yn ymuno gyda’r 115 o ysgolion yn Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion:

Welsh Government


Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod data ar gael o’r arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant oed ysgol yng Nghymru 2013/14. Mae’r data hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu adroddiad unigol, lefel ysgol ar ymddygiad iechyd eu myfyrwyr i ysgolion y rhwydwaith.

Cancer Research UK
Mae Ymchwil Canser y DU yn cynnig adnoddau i ysgolion yn y rhwydwaith i gefnogi addysg iechyd ac addysgu gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a hybu iechyd yn yr amgylchedd ysgol ehangach.

Public Health Wales
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl goruchwylio yn Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ac mae’n sicrhau bod y rhwydwaith yn datblygu mewn modd sy’n gyson â blaenoriaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus cenedlaethol, megis Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.
Cardiff University


Mae Tîm Ymgysylltu Cymunedol Prifysgol Caerdydd yn cydlynu amrywiaeth eang o adnoddau sydd ar gael i ysgolion yn y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer addysg iechyd ac addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion, yn ogystal ag ar gyfer annog ymgysylltiad pobl ifanc ag addysg uwch drwy gydweithredu rhwng yr ysgol a’r brifysgol.

DECIPHer
Mae ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag ysgolion er mwyn datblygu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ac yn sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion. Mae ALPHA, sef grŵp ymgynghorol i bobl ifanc yn DECIPHer, yn darparu cyngor a chefnogaeth ychwanegol.

 

Mae WISERD yn darparu cyswllt strategol â chanolfan ymchwil addysg arweiniol yng Nghymru.