Ynglŷn ag Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith

Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn darparu adnoddau hanfodol i ysgolion i wella iechyd a lles myfyrwyr.

Mae ein harolwg wedi dod yn rhan unigryw ac amhrisiadwy o’r seilwaith iechyd a lles addysg yng Nghymru. A gorau oll, mae am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir.

Mae’r Rhwydwaith yn casglu data manwl, dienw yn uniongyrchol oddi wrth ddysgwyr, sy’n cwmpasu agweddau amrywiol ar eu hiechyd a’u lles. Mae nodweddion allweddol Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn cynnwys:

  • Cynllunio wedi’i yrru gan ddata: Cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio data’r arolwg ar gyfer hunanwerthuso, gosod blaenoriaethau a mesur effaith eu mentrau.
  • Data cynhwysfawr: Olrhain tueddiadau mewn gweithgarwch corfforol, lles meddyliol, bwlio, ac arferion dietegol ar lefelau ysgol, rhanbarthol a chenedlaethol i alluogi cynllunio penodol i gymuned. 
  • Cipolygon y gwellir gweithredu arnynt: Darparu adroddiadau adborth teilwredig i ysgolion i’w helpu i ddatblygu a gweithredu strategaethau iechyd a lles effeithiol.
  • Ymchwil a thystiolaeth: Cipolygon i strategaethau iechyd a lles effeithiol mewn ysgolion.
  • Llais y myfyriwr: Cipio profiadau a safbwyntiau dysgwyr am eu hiechyd a’u lles, gan roi llais iddynt wrth lunio polisïau iechyd a lles ysgolion.
  • Offer rhyngweithiol: Archwilio tueddiadau mewn ymddygiadau iechyd ymhlith dysgwyr.
  • Cymorth ac adnoddau: Gweminarau’r Rhwydwaith, briffiau ymchwil, ac adroddiadau adborth i ysgolion.

I gael trosolwg manwl o fanteision a nodweddion yr arolwg, cyfeiriwch at Ffeithlen Arolwg Iechyd a Lles y Rhwydwaith, a darllenwch am fanteision ein haelodaeth i ysgolion.

I gael rhagor o gipolygon, darllenwch ein Blog.