Categorïau
Datganiadau i’r wasg

Mae un o bob saith dysgwr 7-11 oed yn profi anawsterau emosiynol clinigol arwyddocaol

NEWYDD: Iechyd a Lles Dysgwyr yng Nghymru:
Canfyddiadau Allweddol o Arolwg Iechyd
a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn
Ysgolion Cynradd 2024

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn ymchwilio i iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru

Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o blant ysgol gynradd yng Nghymru wedi datgelu bod bron i draean o ddysgwyr (30%) wedi dweud eu bod nhw’n profi anawsterau emosiynol sylweddol neu arwyddocaol yn glinigol yn 2024.

Mae’r Arolwg Iechyd a Lles Disgyblion mewn Ysgolion Cynradd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) o dros 50,000 o blant hefyd yn nodi bod bron i saith ym mhob deg dysgwr wedi dweud eu bod yn cael problemau cysgu. Dywedodd un ym mhob tri dysgwr eu bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ychydig o weithiau’r wythnos neu bob dydd – gan godi i un ym mhob dau ymhlith plant 10-11 oed. Dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr eu bod yn dod ymlaen yn dda ag athrawon, cyfoedion ac mewn bywyd ysgol.

Mae’r rhain, a phynciau eraill, oll yn adroddiad cyntaf SHRN ar ysgolion cynradd. Dywed ymchwilwyr, addysgwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr iechyd fod y canfyddiadau’n sail i greu ymyriadau effeithiol i helpu dysgwyr. 

Mae SHRN yn bartneriaeth ymchwil-polisi-ymarfer rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhwydwaith wedi’i sefydlu ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru ers 2013. Dechreuodd y gwaith o ehangu’r rhwydwaith i ysgolion cynradd gyda chynllun peilot yn 2022, gan arwain at ddrafftio’r adroddiad cyntaf yn 2024. Nod y cam diweddaraf hwn yw rhoi cipolwg ar broblemau sy’n effeithio ar blant rhwng saith ac 11 oed.

Meddai Dr Kelly Morgan, cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd: “Mae adroddiad cenedlaethol cyntaf SHRN mewn ysgolion cynradd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn taflu goleuni ar ystod o faterion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru – gyda’r data ar les yn debygol o fod o bwys aruthrol i ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Er bod saith ym mhob deg (69%) dysgwyr wedi rhoi sgôr o wyth neu’n uwch allan o ddeg pan ofynnwyd am foddhad bywyd, roedd symptomau iechyd meddwl gwael yn tueddu i fod yn fwy cyffredin, a boddhad bywyd yn is ymhlith dysgwyr o deuluoedd llai breintiedig. Roedd boddhad bywyd yn tueddu i ostwng ychydig wrth i’r dysgwyr fynd yn hŷn, ond nid oedd anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn dilyn yr un patrwm clir yn ôl oedran.

Mae ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd yn gyfle i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws plentyndod a’r glasoed, ac yn ffordd o ddeall a chefnogi digwyddiadau megis pontio i’r ysgol uwchradd yn well. Cydnabyddir bod hwn yn un o’r pum cyfnod pontio allweddol ym mywydau plant a phobl ifanc.”

Mae’r canfyddiadau allweddol eraill yn nodi’r canlynol:

  • Mae hanner y dysgwyr wedi nodi eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol;
  • Mae llai na hanner yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd;
  • Mae un ym mhob deg dysgwr yn profi anawsterau ymddygiadol sy’n glinigol arwyddocaol;
  • Mae tua un ym mhob saith dysgwr yn mynd i’r gwely ar ôl 10 pm;
  • Mae hanner y dysgwyr yn berchen ar ffôn clyfar;
  • Mae fepio’n dod i’r amlwg ymhlith dysgwyr ym mlwyddyn 5 a 6;
  • Mae hanner y dysgwyr yn nodi eu bod yn ymarfer corff o leiaf bum gwaith yr wythnos.

Mae ysgolion eisoes yn defnyddio data SHRN yn sail i’w harfer, a chyhoeddir adroddiadau ysgol dienw penodol i bob ysgol sy’n cymryd rhan. Mae’r adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi gwaith cynllunio datblygiad ysgolion, i baratoi at arolygiadau Estyn, a chryfhau dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.

Yn Ysgol Gynradd Cogan ym Mro Morgannwg, roedd y data peilot wedi amlygu meysydd i’w datblygu o ran lles plant a’u perthnasoedd â’u cyfoedion erbyn Blwyddyn 6. Gyda chefnogaeth gan y tîm Ysgolion sy’n Hyrwyddo Iechyd a Llesiant, cyflwynodd yr ysgol raglen o’r enw ‘Flourish’ – menter wedi’i dargedu gyda’r nod o gefnogi hunan-barch a gwydnwch emosiynol, gan helpu disgyblion i ffynnu’n gymdeithasol ac yn emosiynol.

Meddai Tom Lewis, arweinydd Iechyd a Llesiant yn Ysgol Gynradd Cogan: “Mae SHRN wedi ein galluogi i gynnig cefnogaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn gyflym i lesiant disgyblion presennol blwyddyn chwech. Rydyn ni wedi parhau i ddefnyddio’r fenter hon gyda chanlyniadau gwych. Mae’n amhrisiadwy i athrawon gael mynediad at dystiolaeth gadarn fel hon i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn ffynnu.”

Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae data newydd Ysgolion Cynradd SHRN yn rhoi cyfle hanfodol inni gael dealltwriaeth well o iechyd a lles plant yng Nghymru. Drwy Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gydag ysgolion i helpu i greu amgylcheddau cadarnhaol a chefnogol lle gall dysgwyr ffynnu. Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad parhaus i ddefnyddio’r data a’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio dulliau gweithredu ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles. Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gefnogi lles emosiynol a meddyliol, ac i gydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol, a phartneriaid i roi tystiolaeth ar waith i gefnogi canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol i bob plentyn.”

Meddai cydawdur yr adroddiad, Dr Shujun Liu, sydd hefyd yn gweithio yn DECIPHer Prifysgol Caerdydd: “Mae’r adroddiad hwn yn cofnodi lleisiau plant ysgol gynradd a’r materion sy’n effeithio arnyn nhw. Drwy rannu eu barn a’u profiadau, mae’r plant sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil hwn wedi gwneud cyfraniad hanfodol at y gwaith o lunio ymdrechion sydd â’r nod o wella nid yn unig eu hiechyd a’u lles nhw eu hunain, ond hefyd deilliannau iechyd a lles plant ledled Cymru.

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’r staff addysgu y bu eu hamser, eu cefnogaeth a’u hanogaeth yn allweddol wrth alluogi dysgwyr i gymryd rhan. Mae eu hymrwymiad i feithrin amgylcheddau lle mae plant yn teimlo’n ddiogel a’n hyderus i fynegi eu barn a’u safbwyntiau wedi bod yn ganolog i lwyddiant yr arolwg hwn, a rhwydwaith ehangach y SHRN.”

Cymerodd cyfanswm o 510 o ysgolion cynradd ran yn yr astudiaeth o bob un o 22 awdurdod lleol Cymru, sy’n cynrychioli 42% o’r holl ysgolion cynradd a gynhelir gan y wladwriaeth. Un ysgol annibynnol gymerodd ran. Llenwodd cyfanswm o 51,662 o ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6 holiadur SHRN.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: “Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ymestyn yr arolwg i ysgolion cynradd ar lefel genedlaethol eleni.

“Mae’n bwysig ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc er mwyn deall yn well sut maen nhw’n teimlo a beth sy’n effeithio arnyn nhw, er mwyn i ni gynllunio’n gwaith at y dyfodol.

“Roedd rhannau o’r adroddiad hwn yn ddigon i’ch sobri; mae cefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn un o fy mlaenoriaethau. Fel llywodraeth, rydyn ni’n buddsoddi dros £13 miliwn yn flynyddol mewn Dull Ysgol Gyfan i ymdrin ag iechyd meddwl, gyda dros £3 miliwn yn cael ei wario’n uniongyrchol ar gwnsela mewn ysgolion.

“Yn ogystal â hyn, rydyn ni’n parhau i gefnogi ysgolion i weithio gyda theuluoedd a’r gymuned ehangach i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i gwrdd â’r rhain.

“Hoffwn ddiolch i’r plant a gymerodd ran yn yr arolwg. Bydd yr wybodaeth yn chwarae rhan bwysig wrth lunio blaenoriaethau’r Llywodraeth, gan gynnwys Cwricwlwm Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Strategaeth Iechyd Meddwl, a Phwysau Iach: Cymru Iach. Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r canlyniadau hyn yn sail i’n hadolygiad o’r canllawiau gwrth-fwlio i ysgolion.”

Y Wasg a’r Cyfryngau: Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at:

Katie Bodinger
Cyfathrebu a Marchnata
Prifysgol Caerdydd
E-bost: BodingerK1@caerdydd.ac.uk

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae’n aelod o Grŵp Russell sy’n cynnwys prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, canfuwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.  Ymhlith staff academaidd y Brifysgol mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cwmpasu: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.caerdydd.ac.uk.

Categorïau
Datganiadau i’r wasg

Cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, ond mae’r data hefyd yn datgelu cynnydd mewn bwlio

Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017.  Mae bellach yn debyg i lefelau cyn y pandemig, yn ôl data newydd ar ddisgyblion yng Nghymru o ganlyniadau arolwg iechyd a llesiant y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) a ryddhawyd heddiw.

Mae’r arolwg SHRN sy’n canolbwyntio ar Gymru yn un o’r arolygon mwyaf o ddisgyblion ysgol yn y DU. Bob dwy flynedd mae’n gofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llesiant meddyliol, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gwblhau gan bron 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11, mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru.  

Mae SHRN yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys fel rhan o ddiweddariad newydd i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd , sef offeryn hawdd ei ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr fel ysgolion, y llywodraeth ac awdurdodau lleol i edrych ar ffigurau o arolygon SHRN dros amser. Mae’r dangosfwrdd yn galluogi defnyddwyr i archwilio’r data yn ôl rhanbarthau gwahanol, oedrannau, rhywedd a chyfoeth teulu, gan roi cyfle i nodi tueddiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. 

Roedd bron chwarter y bechgyn (23 y cant) wedi bodloni canllaw cenedlaethol y Prif Swyddogion Meddygol ar gyfer o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef cynnydd o gymharu â 21 y cant yn 2019 a 2021.  Ymhlith merched, roedd 14 y cant yn bodloni’r canllawiau presennol, ac er bod hyn yn isel, mae wedi gwella o gymharu â 12 y cant yn 2021. 

Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o fwlio.  Dywedodd bron 38 y cant o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sef cynnydd o gymharu â 32 y cant yn 2021. Mae’r canlyniadau yn uwch nag erioed o’r blaen yn yr arolwg gyda mwy na 40 y cant o ferched yn cael eu bwlio o gymharu â thros 30 y cant o fechgyn. 

Canfyddiadau eraill:

Datgelodd y ffigurau hefyd wahaniaeth sylweddol rhwng y disgyblion hynaf a’r ieuengaf, gan fod bron un o bob pedwar o blant 11 oed (23 y cant) yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol o gymharu â llai nag un o bob wyth o blant 16 oed (13 y cant).  Felly, mae angen rhoi sylw penodol i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc (yn enwedig merched) wrth iddynt symud drwy eu harddegau.

Yn ogystal, cynyddodd y canlyniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n ymarfer corff y tu allan i’r ysgol. Fodd bynnag, roedd gwahaniaeth sylweddol yn y canlyniadau yn ôl cyfoeth teulu; roedd bron hanner (45 y cant) y plant o deuluoedd mwy cefnog yn ymarfer corff yn egnïol y tu allan i’r ysgol bedair gwaith yr wythnos o gymharu â thraean yn unig o blant (32 y cant) o deuluoedd tlotach.

Bu gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n gallu dibynnu ar eu ffrindiau am gymorth pan fydd pethau’n mynd o chwith.  Dim ond 60 y cant o bobl ifanc yn yr arolwg ddywedodd eu bod yn gallu dibynnu ar eu ffrindiau, gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn o gymharu â 67 y cant yn 2017. Mae’r duedd hon yn arbennig o amlwg yn y grwpiau oedran hŷn, ac ymhlith bechgyn.

Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’n galonogol iawn gweld y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc oed ysgol uwchradd.  Rydym yn gwybod bod gan weithgarwch corfforol fanteision sylweddol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, felly mae’n wych gweld bod pobl ifanc yn gwrthdroi’r dirywiad a welsom ers 2017.  Mae’r data yn dangos bod pobl ifanc yn fwy egnïol yn yr ysgol a’r tu allan iddi, ac mae’n braf gweld hynny. 

“Fodd bynnag, er bod croeso i’r cynnydd mewn cyfraddau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff, mae’n amlwg bod nifer y bobl sy’n bodloni’r canllawiau ar gyfer gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn isel, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn dod yn rhan o fywydau mwy o bobl ifanc yng Nghymru. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddatblygu’r Dull Ysgol Gyfan Bywiog Bob Dydd o ran Gweithgarwch Corfforol. Nod hyn yw gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol ac o’i amgylch, gan ganolbwyntio ar feysydd fel gwersi egnïol, datblygu addysg gorfforol a theithio llesol.  

“Yn ogystal, mae’n peri pryder gweld bwlch amddifadedd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf cefnog, a byddem yn gobeithio gweld hyn yn lleihau mewn arolygon yn y dyfodol.” 

“Mae’n frawychus bod cyfraddau bwlio yn cynyddu ym mhob grŵp ac mewn bwlio wyneb yn wyneb ac mewn seiberfwlio.  Mae’n amlwg bod grŵp sylweddol o bobl ifanc yn gorfod ymdrin â chael eu bwlio, ac rydym yn gwybod y gall hynny effeithio ar iechyd meddwl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion yng Nghymru i ymgorffori’r Dull Ysgol Gyfan o ran Llesiant Emosiynol a Meddyliol, sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys atal bwlio a mynd i’r afael ag ef”.  

ASTUDIAETH ACHOS 

Gan ddefnyddio data SHRN, nododd Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd gyfle i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith eu myfyrwyr a gwnaethant weithredu rhaglen barhaus o gyfoethogi bob pythefnos ar gyfer yr ysgol gyfan. Drwy weithio gyda phartneriaid lleol, busnesau, a’r myfyrwyr, mae’r ysgol bellach yn cynnig mwy na 50 o weithgareddau gwahanol ar draws amrywiaeth enfawr o feysydd ac mae wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb yn yr ysgol, mwy o fyfyrwyr yn gwneud gweithgarwch corfforol a gwell sgiliau gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion.

Meddai Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows:

“Drwy ddatblygu’r rhaglen gyfoethogi rydym wedi rhoi cyfle i’n dysgwyr fod yn llai eisteddog a mabwysiadu ffordd fwy egnïol o fyw. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau rydym yn eu cynnig wedi rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ymarfer corff ac ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd, ac mae hyn wedi sefydlu angerdd a diddordebau newydd yn ogystal â manteision iechyd corfforol a meddyliol.

“Rydym wedi darparu sesiynau fel dringo creigiau, MMA a hunanamddiffyn, sgiliau syrcas, nofio, hyfforddiant milwrol a beicio, ymhlith llawer o fathau eraill o weithgareddau. Mae’r sesiynau cyfoethogi hefyd yn cael eu mwynhau gan staff, sydd wedi nodi eu bod wedi meithrin gwell perthnasoedd gyda dysgwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy’r ysgol.”

Meddai Dr Kelly Morgan, dirprwy gyfarwyddwr SHRN ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n goruchwylio casglu data:

“Mae SHRN bellach yn ei 11eg flwyddyn ac mae’n cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan ofyn cwestiynau ar amrywiaeth o feysydd sy’n bwysig i bobl ifanc. Ein nod yw darparu data cadarn ac eang fel bod gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sector iechyd ac addysg yr offer i ddatblygu atebion diriaethol a pharhaol. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion a myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan.”

Meddai Zoe Strawbridge, dadansoddwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gweithio ar y cyd ag SHRN a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle gwych i ddatblygu dangosfwrdd rhyngweithiol, gan roi dealltwriaeth fanwl i ni o wahaniaethau rhanbarthol iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r offeryn hwn a rhannu’r canlyniadau ar bynciau pellach dros y flwyddyn i ddod.”

Mae’r dangosfwrdd ar gael yma:

Dangosfwrdd Data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).