Eich Data, Eich Hawliau: Deall Casgliad Data 2025 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae’r holl ddata rydym ni’n ei gasglu mewn ysgolion uwchradd ar gyfer Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 yn cael ei drin yn unol â Deddf Diogelu Data 2019 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

Lawrlwythwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn dod yn fuan. Cliciwch yma i gael eich ailgyfeirio)

Mae’r holl ysgolion uwchradd sy’n cymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 y Rhwydwaith hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil cysylltedd data. Mae cysylltedd data yn cysylltu ymatebion dysgwyr i’r arolwg â data arall sy’n bodoli (fel cofnodion iechyd neu addysg) i helpu ymchwilwyr i ddeall lles pobl ifanc yn well.

Gallwch ddarllen y daflen hon i ddysgu mwy am sut mae cysylltedd data yn gweithio a sut mae gwybodaeth pobl ifanc yn cael ei chadw’n ddiogel.

Cyn ateb yr arolwg, bydd fideo byr yn cael ei ddangos i bob myfyriwr yn esbonio beth yw cysylltedd data. Gallwch wylio’r fideo hwn islaw. 

Ar ddiwedd yr arolwg, gofynnir i ddysgwyr a ydyn nhw am i’w hatebion gael eu defnyddio mewn ymchwil cysylltedd data. Os bydd dysgwyr yn dewis peidio rhoi caniatâd ar gyfer cysylltedd data, bydd eu hymatebion i’r arolwg yn cael eu defnyddio o hyd mewn ymchwil arall ac yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr eu hysgol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os na allwch gael at rai o’r dogfennau neu’r fideo ar y dudalen hon, e-bostiwch shrn@cardiff.ac.uk.