Diogelu Data

Mae’r holl ddata a gasglwn yn yr Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr yn cael ei drin yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.

Gallwch lawrlwytho ein Hysbysiad Preifatrwydd Data yma:

Mae rhai ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil cysylltu data hefyd. Yn yr ysgolion hyn, mae’r fideo isod yn cael ei ddangos i bob myfyriwr cyn iddynt ateb yr arolwg.

Os hoffech wybod mwy am sut mae data o’r Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil cysylltu data, gallwch lawrlwytho disgrifiad o’r broses yma.

Os na allwch gael at y dogfennau neu’r fideo ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar shrn@caerdydd.ac.uk neu 029 2087 4433 a byddwn yn anfon y wybodaeth atoch mewn fformat gwahanol.