Ynglŷn â’r Holiadur
Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn adnodd gwerthfawr sy’n cael ei ateb gan aelod o Dîm Arwain yr Ysgol bob dwy flynedd, ochr yn ochr ag Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith.
O’i gyfuno â’n harolwg, mae’r Holiadur yn helpu i greu set ddata unigryw a chynhwysfawr sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng polisïau ac ymarfer ysgolion, a deilliannau iechyd a lles dysgwyr.
Darllenwch ein blog: Dyblu’r Weledigaeth, Dwbl yr Effaith: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith

Nodweddion Allweddol Holiadur Amgylchedd yr Ysgol
Dull Ysgol Gyfan: Mae data’r Holiadur yn helpu ysgolion i wreiddio Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, gan ategu monitro a gweithredu polisïau gan WNHWPS ac amlygu arfer arloesol.
Hunanwerthuso a Chymharu: Mae ysgolion yn defnyddio data’r Holiadur i asesu a gwella lles dysgwyr; cymharu eu data â data cenedlaethol yr Holiadur a monitro eu polisïau ac ymarfer lefel ysgol. Darllenwch gopi o adroddiad 2024 yr Holiadur.
Cymorth ar gyfer Arolygiadau Estyn: Mae data’r Rhwydwaith yn ffynhonnell allweddol ar gyfer arolygiadau ysgol Estyn. Mae’r Holiadur yn cynnig gwybodaeth fanwl am bolisïau ac ymarfer ysgolion, gan hwyluso hunanwerthuso a chymharu â data cenedlaethol. Mae’r data cynhwysfawr hwn yn helpu arolygwyr i werthuso amgylchedd yr ysgol a’i effeithiolrwydd.
Dysgwch ragor trwy ddarllen ffeithlen Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith.

Darganfyddwch ein storïau llwyddiant ac astudiaethau achos ysgolion.

Mynnwch gip ar ein llyfryn gwybodaeth