
Cryfhau Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc trwy Gydweithredu
Mae ein partneriaeth strategol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) wedi grymuso’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) i ehangu’n rhwydwaith cenedlaethol pwrpasol ar gyfer ymchwil a gwerthuso.
Mae’r Rhwydwaith wedi dod yn rhan hanfodol ac unigryw o’r seilwaith iechyd a lles addysg yng Nghymru.
Gwybodaeth am Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHWPS)
Nod WNHWPS yw cadw pawb yng nghymuned yr ysgol yn iach. Mae’n gwneud hyn trwy addysgu byw’n iach a grymuso dysgwyr a staff i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu hamgylchedd. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol trwy bolisïau, cynllunio a hyfforddiant staff. Mae hyn yn effeithio ar y cwricwlwm, ar ddiwylliant ysgolion, ar yr amgylchedd ffisegol, ac ar berthnasoedd â’r gymuned. Dysgwch ragor yma.
Mae defnyddio data’r Rhwydwaith yn helpu’r cynllun i dargedu ymyriadau yn fwy effeithiol, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae’r angen fwyaf a lle mae’r dystiolaeth fwyaf o effaith.
Cyflawniadau ein Partneriaeth
Darllenwch sut mae’r Rhwydwaith a WNHWPS yn trawsnewid iechyd a lles ysgolion trwy integreiddio data, cydweithredu ar bolisi a datblygu’r gweithlu:

Data Hanfodol i Ysgolion
Mae’r Rhwydwaith yn darparu data hanfodol sy’n helpu ysgolion i ddeall anghenion iechyd a lles eu dysgwyr. Darllenwch fwy.

Gwell Rhannu Data
Mae’r Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu dangosfwrdd iechyd cyhoeddus i ddilyn trywydd iechyd a lles dysgwyr uwchradd yng Nghymru. Mae’r dangosfwrdd hwn yn cwmpasu meysydd fel gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl, bwlio a deiet. Mae’n defnyddio darluniau rhyngweithiol i ddangos tueddiadau a phatrymau yn nata’r Rhwydwaith. Mae’r diweddariadau wedi gwella sut caiff data ei rannu rhwng ysgolion uwchradd, gan roi darlun llawnach o iechyd pobl ifanc. Mae hyn yn helpu i fonitro a gwerthuso polisïau iechyd a lles yn fwy effeithiol. Darllenwch fwy.

Cymorth ag Ymarfer i Ysgolion
Mae Cydlynwyr Ysgolion Iach WNHWPS yn gweithio’n agos gydag ysgolion i gymryd rhan yn arolwg y Rhwydwaith, dehongli’r canfyddiadau a datblygu cynlluniau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r anghenion a nodwyd. Mae hyn yn sicrhau bod ymyriadau’n cael eu targedu’n effeithiol a’u bod yn cael yr effaith fwyaf. Darllenwch astudiaeth achos.

Cipolygon Rhanbarthol a Chenedlaethol
Mae Arolwg Iechyd a Lles Ysgolion y Rhwydwaith yn helpu ein partneriaid i ddeall anghenion iechyd a lles plant a phobl ifanc oed ysgol. Trwy nodi tueddiadau dros gyfnod ac ar draws grwpiau gwahanol, mae’r arolwg yn llywio polisi a gweithredu ar bob lefel.

Cydweithredu ar Bolisi ac Ymarfer
Trwy gydweithio, rydym yn sicrhau bod strategaethau iechyd a lles wedi’u seilio ar dystiolaeth a’u bod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon. Darllenwch astudiaeth achos.

Gweithio Cydweithredol
Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, a gynhelir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn cefnogi mentrau gwaith clwstwr ysgolion. Mae ein data yn helpu i ddatblygu cwricwlwm a arweinir gan anghenion ac mae’n mynd i’r afael ag anghenion pontio dysgwyr o addysg gynradd i uwchradd.

Monitro ac Asesu
Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith yn cefnogi WNHWPS trwy asesu a monitro polisïau ac ymarfer ysgolion yn gysylltiedig ag iechyd a lles. Mae’n hyrwyddo dull ysgol gyfan, gan lywio sut caiff adnoddau eu dyrannu, a helpu ysgolion i baratoi ar gyfer arolygiadau. Mae data’r Holiadur yn llywio datblygiad polisi ac mae’n meithrin cydweithredu ymhlith ysgolion, gan sicrhau amgylchedd iachach a mwy cefnogol i ddysgwyr. Darllenwch fwy am Holiadur Amgylchedd yr Ysgol.

Datblygu’r Gweithlu
Mae ein rhaglen hyfforddiant, ADEPT, yn helpu Cydlynwyr WNHWPS i ddysgu sut i ddefnyddio data iechyd a lles yn fwy effeithiol. Mae ein hyfforddiant yn helpu ysgolion i ddeall a defnyddio data i nodi anghenion, gosod blaenoriaethau, cynllunio gweithredoedd a gwerthuso canlyniadau. Trwy wella’u gallu i gymhwyso tystiolaeth, mae ADEPT yn helpu ysgolion i greu gwell rhaglenni iechyd a lles, gan arwain at amgylchedd ysgol iachach. Darllenwch fwy.

Pontio Ymarfer ac Ymchwil er Deilliannau Iechyd Gwell
‘Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles ac mae wedi gweithio gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i integreiddio’r ddau rwydwaith yn agosach: mae un yn canolbwyntio ar ymarfer ac un yn canolbwyntio ar ymchwil, felly gall y naill a’r llall fanteisio ar eu hasedau a’u harbenigedd ei gilydd er mwyn creu gwelliannau mwy effeithiol a pharhaus yn iechyd a lles dysgwyr’.
– Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd,
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Trwy gydweithio, mae’r Rhwydwaith a WNHWPS yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles myfyrwyr ar draws Cymru, gan feithrin amgylchedd addysgol iachach a mwy cefnogol i bawb.
Dysgwch Ragor am Ein Heffeithiau
I ddysgu mwy am yr amryw ffyrdd rydym ni’n gwneud gwahaniaeth, dychwelwch i’n tudalen ‘Prif Effaith’ i gael cipolygon a diweddariadau manwl am ein heffeithiau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Diweddariadau
Cadwch i fyny â’r newyddion, yr ymchwil a’r cipolygon diweddaraf gan y Rhwydwaith trwy gofrestru ar gyfer ein Crynhoad Misol. Dysgwch am ein datblygiadau diweddaraf, digwyddiadau sydd ar ddod a mentrau newydd sy’n anelu at wella iechyd a lles dysgwyr.
Ymunwch â’n cymuned a byddwch yn rhan o’r newid cadarnhaol!