Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Gyrru Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesedd mewn Gwella Iechyd a Lles Ysgolion

Ein cenhadaeth yw cynnal ymchwil effeithiol sy’n mynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ein hysgolion yn eu hwynebu, i gefnogi datblygiad amgylcheddau sy’n hybu iechyd i ddysgwyr ledled Cymru a’r tu hwnt.

Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi cymuned fywiog o ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu datrysiadau seiliedig ar dystiolaeth, y gellir eu rhoi ar waith mewn lleoliadau addysgol. Ein nod yw meithrin partneriaethau a chydweithrediadau sy’n pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer, gan sicrhau bod ein canfyddiadau’n arwain at welliannau go iawn yn iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Ochr yn ochr â’n seilwaith cyd-gynhyrchu a chyfnewid gwybodaeth flaengar, mae ein harolygon dwyflynyddol i ddysgwyr ac ar amgylchedd yr ysgol wedi helpu i sefydlu adnodd data unigryw yng Nghymru. Mae arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, sy’n cael eu gweinyddu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn darparu dangosyddion cenedlaethol a rhanbarthol i amrywiaeth o bartneriaid polisi ac ymarfer, yn ogystal â darparu data monitro rheolaidd i ysgolion i gynllunio gweithredu ynghylch iechyd a lles a gwerthuso iechyd a lles.


I ymchwilwyr, mae data’r Rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd i ymchwilio i dueddiadau ac anghydraddoldebau mewn iechyd a lles ymhlith plant a phobl ifanc (gan gynnwys grwpiau lleiafrifol), nodi ffactorau risg ac amddiffynnol posibl, a deall rôl ysgolion mewn helpu i hybu iechyd a lles yn well. Mae amlder casglu data gennym a chryfder ein perthnasoedd ag ysgolion eisoes yn cynnig seilwaith ymchwil parod ar gyfer gwerthuso a monitro polisïau newydd wrth iddynt gael eu gweithredu mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol.



Mae eu proffiliau staff academaidd yn cynnig gwybodaeth fanylach am bob un o’u rolau, eu harbenigedd a’u gwybodaeth gyswllt, gan sicrhau eich bod yn gallu cysylltu â’r person cywir i’ch anghenion.

Rydym yn cefnogi pum thema ymchwil allweddol wedi’u hanelu at wella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r themâu hyn yn cynnwys:

  1. Iechyd Meddwl a Lles: Ymchwil i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi iechyd meddwl dysgwyr.
  2. Gweithgarwch Corfforol a Maeth: Astudiaethau ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac arferion bwyta’n iach ymhlith dysgwyr.
  3. Defnyddio Sylweddau: Ymchwil i atal a lleihau’r defnydd o sylweddau fel tybaco, alcohol a chyffuriau.
  4. Iechyd Rhywiol: Astudiaethau ar addysg ac ymddygiadau iechyd rhywiol.
  5. Perthnasoedd Cymdeithasol: Ymchwil i effaith perthnasoedd cymdeithasol ar iechyd a lles dysgwyr

Mae’r themâu hyn yn cael eu harchwilio trwy’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, sy’n casglu data oddi wrth ysgolion bob dwy flynedd.

Mae cysylltiad annatod rhwng ffocws ein hymchwil o fewn y themâu hyn â diddordebau ymchwilwyr iechyd a lles unigol a blaenoriaethau ein partneriaid – Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Llywodraeth Cymru. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i ni addasu a chysoni ein hymchwil ag anghenion sy’n esblygu a materion sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau bod ein gwaith yn parhau’n berthnasol ac yn effeithiol. Trwy beidio â diffinio ein meysydd ymchwil yn gaeth, rydym yn cofleidio ein natur unigryw, gan feithrin amgylchedd cydweithredol lle gall diddordebau ymchwil amrywiol ffynnu a chyfrannu’n uniongyrchol at iechyd a lles cymunedau ysgolion ar draws Cymru a thu hwnt. Trwy gyfuno’r dulliau hyn, gall y Rhwydwaith gynnal cydbwysedd rhwng mynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd sefydledig a bod yn hyblyg yn wyneb heriau newydd.


Mae nifer gynyddol o ymchwilwyr yn defnyddio data’r Rhwydwaith:

Astudiaeth ddoethurol sy’n ceisio deall rôl ysgolion mewn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwroamrywiol.

Miss Abbey Rowe

Astudiaeth sy’n asesu p’un a yw pwysau gwaith ysgol wedi newid dros gyfnod o ugain mlynedd yng Nghymru, a’r graddau y gall unrhyw newidiadau fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn problemau emosiynol.

Dr Jessica Armitage

Astudiaeth sy’n archwilio cysylltiadau rhwng rhagfynegyddion lefel unigol a lefel ysgol a chyfranogiad myfyrwyr mewn gweithgareddau wedi’u trefnu yn 2017/2018.

Dr-Britt-Hallingberg

Astudiaeth ddoethurol sy’n edrych ar ffactorau sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau atal cenhedlu ai peidio, yn benodol, dulliau atal cenhedlu gwrthdoradwy hirdymor, ymhlith y glasoed sy’n mynd i ysgolion yng Nghymru.

Kara Smythe

Ymchwil sy’n bwrw golwg ar ba mor gyffredin yw Poen Mislif Difrifol a’i effaith ar iechyd meddwl, gweithgarwch corfforol ac agweddau ac ymgysylltu mewn ysgolion. Mae’r astudiaeth hefyd yn mynd ati i fwrw golwg ar ddylanwad cymorth a pholisïau ysgolion, gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth am natur ac effaith y broblem er dylunio a chynllunio ymyriadau yn y dyfodol.

Dr Robyn Jackowich

Ymchwil sy’n archwilio proffil emosiynol-gymdeithasol plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, o gymharu â’u cyfoedion nad ydynt mewn gofal a chyfoedion mewn lleoliadau eraill (gofal gan berthynas, gofal maeth, preswyl). Un amcan yw edrych ar iechyd meddwl a lles, a’r ail yw bywyd ysgol. Bydd yr astudiaeth yn archwilio gwahaniaethau rhwng ysgolion sydd â chymorth dynodedig ac sydd heb gymorth dynodedig ar gyfer iechyd meddwl a lles pobl ifanc e.e. cymorth iechyd meddwl, cwnsela, ac ati. Hefyd, gall fod cyfleoedd am ymchwil pellach i gamddefnyddio sylweddau, a chymharu’r teulu a chyfoedion fel cyd-destunau perthynol i ddeall iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dr Edward Janes a Dr Rebecca Anthony

Ar ôl lansio Dangosfwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023, cafwyd gostyngiad sylweddol mewn ceisiadau i’n tîm ymchwil am ddangosyddion penodol. Rydym yn parhau i gael ceisiadau penodol am ddangosyddion nad ydynt ar gael eto ar y dangosfwrdd gan bartneriaid sy’n defnyddio’r data hwn, i gynllunio, arwain a gwerthuso ymyriadau. Mae’r rhain yn cynnwys timau penodol o fewn Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill sy’n gweithio ar lefel y bwrdd iechyd.


Cliciwch yma i archwilio ein hymchwil a’n hastudiaethau diweddar. Cadwch i fyny â’r canfyddiadau a’r cipolygon diweddaraf.

Cadwch mewn cysylltiad i gael y newyddion diweddaraf. Rydym ni’n rhannu cyhoeddiadau pwysig, datblygiadau ymchwil a llawer o ddatblygiadau nodedig eraill yn rheolaidd.

Ein hadran Newyddion Diweddaraf yw eich ffynhonnell ar gyfer dysgu am ein gweithgareddau a’n cyflawniadau. Cadwch lygad yn rheolaidd am y wybodaeth a’r cipolygon diweddaraf.