Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi sicrwydd bod Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr dwyflynyddol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data, 2018.
Cysylltu â ni:SHRN@cardiff.ac.uk
Pwy ydym ni?
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff ei arwain gan Dr. Kelly Morgan yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bob dwy flynedd, mae ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n aelodau o’r Rhwydwaith yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr. Bydd data cyfanredol anhysbys myfyrwyr yn cael ei adrodd yn ôl i ysgolion trwy Adroddiadau Data Iechyd a Lles Myfyrwyr pwrpasol y Rhwydwaith. Gall yr adroddiadau data hyn gael eu defnyddio at ddiben gweithgareddau cynllunio gweithredu gan yr ysgol a hunanwerthuso’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles. Mae data cyfanredol anhysbys hefyd yn cael ei adrodd yn ôl i Awdurdodau Lleol i gynorthwyo â chynllunio gweithredu, ac mae data ar gael yn gyhoeddus ar lefel awdurdod lleol, bwrdd iechyd a chenedlaethol trwy ddangosfwrdd data Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru:https://phw.nhs.wales/services-and teams/observatory/data-and-analysis/shrn-data-dashboard/
Datblygwyd hyn yn gydweithredol rhwng y Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth, Ymchwil a Gwerthuso Iechyd y Cyhoedd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a DECIPHer.
Mae data hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben ymchwilio i iechyd a lles plant yn yr ysgol.
Ariennir yr arolwg gan Lywodraeth Cymru.
Sut rydym ni’n casglu ymatebion i’r arolwg?
• Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd yn cael ei reoli gan Ipsos (prosesydd y data) ar ran Prifysgol Caerdydd (rheolydd y data). Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd.
• Ysgolion sy’n trefnu cyflwyno’r arolygon, gan ddilyn canllawiau wedi’u darparu gan y Rhwydwaith.
• Mae myfyrwyr ym mlynyddoedd 3 i 6 yn ymgymryd â’r arolwg o fewn yr ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth staff yr ysgol.
Mae’r arolwg yn cael ei gyflawni ar-lein a’i gwblhau ar gyfrifiaduron neu lechi yn yr ysgol. Mae cymorth a diogelu yn cael eu darparu gan yr ysgol yn rhan o’u gwaith arferol.
Pa wybodaeth bersonol ydym ni’n ei chasglu?
Mae’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn gofyn i bobl ifanc am amrywiaeth eang o ymddygiadau iechyd, sut maent yn teimlo am yr ysgol, ac am wybodaeth ddemograffig. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth adnabyddadwy ac ni fyddwn yn gofyn am enwau dysgwyr ar unrhyw adeg.
Mae’r wybodaeth sensitif ganlynol yn cael ei chasglu oddi wrth bob dysgwyr: Ethnigrwydd
Am ba hyd ydym ni’n storio ac yn defnyddio data?
Mae data’n cael ei gasglu gan Ipsos ac wedyn ei drosglwyddo’n ddiogel i Brifysgol Caerdydd. Mae holl atebion dysgwyr yn gwbl anhysbys. Ni fydd y tîm ymchwil yn gwybod pwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg.
Gall data gael ei ddefnyddio gan y tîm ymchwil hefyd, neu ymchwilwyr cymeradwy eraill, at ddibenion ymchwil anfasnachol yn y dyfodol. Gall data anhysbys yr arolwg gael ei gadw am gyfnod amhenodol pan fydd ganddo werth at ddibenion ymchwil wyddonol, er enghraifft fel y gallwn gyfuno data gydag arolygon cynt a diweddarach i ddeall newidiadau mewn lles plant dros gyfnod.
Hawl i gwyno
Prifysgol Caerdydd yw Rheolydd y Data ac mae’n ymrwymo i barchu ac amddiffyn eich data personol yn unol â’ch disgwyliadau a deddfwriaeth Diogelu Data. Mae gan y Brifysgol Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu ag ef ar inforequest@cardiff.ac.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddiogelu Data, gan gynnwys eich hawliau a manylion am sut i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth petaech chi eisiau cwyno, ar gael yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection
Hawliau unigol
Mae gennych nifer o hawliau o dan gyfraith diogelu data a gallwch ddysgu rhagor am y rhain ar ein gwefan.
Sylwch fod eich hawliau i gael mynediad at eich data personol, ei newid neu ei symud yn gyfyngedig, gan fod angen i ni reoli eich gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd penodol fel y bydd yr ymchwil yn ddibynadwy ac yn gywir. Os byddwch yn tynnu’n ôl o’r astudiaeth, byddwn yn cadw’r wybodaeth a gawsom amdanoch eisoes. I ddiogelu eich hawliau, byddwn yn defnyddio cyn lleied o wybodaeth adnabyddadwy yn bersonol â phosibl.
