| Lawrlwytho’r adnoddau You can download the full resource pack below: Cynllun gwers a chynllun dysgu llawn. Taflenni gwaith. Cyflwyniad MS PowerPoint i’w ddefnyddio mewn gwers. Cardiau cynorthwyol i’w defnyddio mewn gwersi. |
Trowch ddata SHRN Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) eich Ysgol yn wers fyw.
Mae ‘Byddwch yn Wyddonydd Data Lleol gan Ddefnyddio Data SHRN eich Ysgol’ yn wers Blwyddyn 9 barod i’w defnyddio lle mae dysgwyr yn gweithio gyda’u data SHRN eu hunain, gan nodi patrymau, gofyn cwestiynau a gwneud synnwyr o faterion go iawn.
Cyflym i’w defnyddio
✔️ Sleidiau, taflenni gwaith ac awgrymiadau wedi’u cynnwys
✔️ Nid oes angen profiad blaenorol yn ymdrin â data
✔️ Cwbl ddwyieithog
Yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud
Mae’r ffocws yn syml: sef helpu pobl ifanc i feddwl fel gwyddonwyr data. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu y bydd dysgwyr yn gwneud y canlynol:
- Nodi patrymau mewn data go iawn
- Egluro beth sy’n digwydd (gyda thystiolaeth)
- Cwestiynu a dehongli canfyddiadau
- Awgrymu camau gweithredu realistig
Mae’r wers hefyd yn cysylltu yn uniongyrchol â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn cefnogi’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, gan helpu ysgolion i gysylltu’r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â blaenoriaethau ehangach ynghylch lles, llais y disgybl a sgiliau digidol.
Dolenni cwricwlwm
Mae’r wers wedi’i llunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, gyda dolenni amlwg ar draws y meysydd canlynol:
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mathemateg a Rhifedd
- Iechyd a Lles
- Cymhwysedd Digidol
- Y Dyniaethau a Llythrennedd
Mae’n gweithio’n dda fel rhan o faes y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, amser tiwtor neu addysgu pwnc lle mae data a thystiolaeth eisoes yn rhan o’r sgwrs.
Adborth
Os byddwch chi’n defnyddio’r deunyddiau, hoffen ni glywed sut aeth pethau – beth weithiodd yn dda, beth wnaethoch chi ei addasu, a beth gafodd y dysgwyr ohono. Anfonwch e-bost at SHRN@cardiff.ac.uk.
Rhagor o wybodaeth
Mae data SHRN eisoes yn chwarae rhan allweddol mewn llawer o ysgolion – gan gefnogi’r gwaith o gynllunio gwelliannau a gwaith lles. Ond beth sy’n digwydd pan mae dysgwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r data hwnnw? Darllenwch ein blog i weld y ffordd y mae’r dull hwn yn cael ei brofi mewn ystafelloedd dosbarth a sut gall gefnogi llythrennedd data a’r Cwricwlwm i Gymru a gwneud data SHRN yn fwy ystyrlon i ddysgwyr.
