
Mae effaith y cyfryngau cymdeithasol ar les pobl ifanc wedi tanio trafodaeth eang, gan yrru ymchwilwyr i archwilio’i chymhlethdodau yn fanylach. Yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd, mae Dr. Rebecca Anthony a’i chydweithwyr wedi darparu cipolygon gwerthfawr i’r cysylltiad hwn, gan ddefnyddio data’r Rhwydwaith yn eu hastudiaeth: Young People’s Online Communication and its Association with Mental Well-being: Results from the 2019 Student Health and Well-being Survey.
Dyma Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith, yn bwrw golwg fanylach ar gipolygon yr astudiaeth hon, sy’n amlygu pwysigrwydd deall y berthynas gynnil rhwng y cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl pobl ifanc
Twf Cyfathrebu Ar-lein ymhlith Pobl Ifanc
Mae cyfathrebu ar-lein yn chwarae rôl ganolog ym mywyd pobl ifanc ar draws y DU. Mae’r ystadegau yn drawiadol – mae mwyafrif helaeth pobl ifanc 12 i 15 oed yn weithgar ar-lein, ac mae perchnogaeth ar ffôn symudol yn dod yn fwyfwy cyffredin, hyd yn oed ymhlith plant iau. Yn sgil y presenoldeb digidol cynyddol hwn daw sgyrsiau a phryderon am effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl. Yn ôl ystadegau diweddar, mae gan 99% o bobl ifanc 12 i 15 oed gysylltiad â’r rhyngrwyd a dywed 95% ohonynt eu bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol cyn ac ar ôl ysgol bob dydd (Y Swyddfa Gartref, 2020).

Tystiolaeth Gymysg am y Cyfryngau Cymdeithasol ac Iechyd Meddwl
Mae Dr. Rebecca Anthony yn amlygu pwynt allweddol: mae’r dystiolaeth ynghylch effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl yn gymysg. Er bod rhai astudiaethau’n nodi cysylltiadau bach ond arwyddocaol ag iechyd meddwl, nid yw rhai eraill yn dod o hyd i unrhyw gysylltiad sylweddol. Gellid priodoli’r anghysondeb hwn i ddulliau ymchwil amrywiol, yr esblygu cyson yn y tirlun digidol, a’r ffordd gymhleth y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhyngweithio â ffactorau fel cwsg, gweithgarwch corfforol a seiberfwlio. Mae hi’n pwysleisio bod rhaid i ymchwilwyr fynd y tu hwnt i fertigau gor-syml fel amser o flaen sgrin, ac ymchwilio i’r hyn y mae pobl ifanc yn ei wneud ar-lein, y cymhellion wrth wraidd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â nodi grwpiau bregus posibl o bobl ifanc.

Cyflwyno Data’r Rhwydwaith
Using data from The SHRN Student Health and Well-being Survey in Secondary Schools 2019, the study team explored critical topics such as mental health, online communication, cyberbullying and relationships. This data served as a foundation for her research, providing valuable insights into the health and well-being of young people, and the factors influencing it.
Canfyddiadau Allweddol am y Defnydd o’r Cyfryngau Cymdeithasol ymhlith Dysgwyr Uwchradd
Gan ddefnyddio data o arolwg 2019, archwiliodd yr astudiaeth sut mae cyfathrebu ar-lein yn gysylltiedig ag iechyd meddwl ymhlith dysgwyr uwchradd 11 i 16 oed. Datgelodd yr ymchwiliad dueddiadau pwysig:
- Ymgysylltu cryf: Mae 82% o ddysgwyr yn cysylltu â’u ffrindiau agosaf ar-lein yn ddyddiol.
- Agweddau cadarnhaol: Mae cysylltiad rhwng rhyngweithio ar-lein mynych â ffrindiau o fywyd go iawn a chylchoedd cyfeillgarwch mwy, a lles gwell.
- Effeithiau negyddol: I’r gwrthwyneb – mae cysylltiad mynych â ffrindiau rhithwir – sef cyfeillgarwch cwbl ar-lein yn unig – yn gysylltiedig â lles is, yn enwedig i ferched.
- Seiberfwlio: Adroddodd 13% o ddysgwyr eu bod yn ddioddefwyr seiberfwlio.
- Dihangfa: Cyfaddefodd 40% eu bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddianc rhag emosiynau negyddol.
Y Goblygiadau i Gefnogi Lles Pobl Ifanc
Mae’r canfyddiadau hyn yn pwysleisio natur ddeuol y cyfryngau cymdeithasol – gall feithrin cysylltiadau ystyrlon a, hefyd, peri risgiau i grwpiau penodol. Mae angen sylw yn arbennig ar ddemograffeg fregus bosibl, fel merched yn eu harddegau sy’n cyfathrebu â ffrindiau sydd ar-lein yn unig. Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn gofyn am ddull cynnil o ddeall arferion pobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol a’u heffaith ehangach ar iechyd meddwl.
Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y gall canolbwyntio dim ond ar faint o amser sy’n cael ei dreulio ar-lein orsymleiddio’r mater, gan esgeuluso nodweddion pwysig fel natur gweithgareddau a rhyngweithiadau ar-lein. Yn hytrach na gosod pwyslais gormodol ar fonitro a rheoleiddio cyfathrebu ar-lein, dylai addysgwyr, rhieni a gofalwyr gydnabod buddion posibl ymhél â grwpiau ffrindiau sefydledig ar-lein, gan weithio hefyd i leihau unrhyw risgiau cysylltiedig. Dylai ymdrechion o’r fath i wella lles pobl ifanc ystyried y cysylltiadau cadarnhaol hyn.
Ehangu Ymchwil gan ddefnyddio Data’r Rhwydwaith: Grwpiau Oedran Iau

Nod astudiaeth newydd dan arweiniad Cydymaith Ymchwil y Rhwydwaith, Shujun Liu, yw ehangu ymchwil y Rhwydwaith i ysgolion cynradd, gan ehangu ei chwmpas y tu hwnt i ddysgwyr uwchradd.
Bydd y dull cyfannol hwn yn sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffordd y mae ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn effeithio ar les plant ar draws cyfnodau gwahanol yn eu haddysg. Gwyliwch weminar Shujun yma.
Data’r Rhwydwaith: Gyrru Ymchwil sy’n cael Effaith a Newidiadau i Bolisi
Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn gonglfaen ar gyfer ymchwil sy’n cael effaith, gan gynnig cipolygon hollbwysig i fywyd pobl ifanc. Trwy ddadansoddi data’r Rhwydwaith, gall ymchwilwyr fel Dr. Rebecca Anthony archwilio:
- Sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar les meddyliol
- Tueddiadau mewn cyfathrebu ar-lein ymhlith dysgwyr uwchradd
- Ffactorau risg sy’n effeithio ar grwpiau bregus
Y tu hwnt i ymchwil academaidd, mae gan ganfyddiadau’r Rhwydwaith gymwysiadau yn y byd go iawn:
- Gall llunwyr polisi ddefnyddio’r cipolygon hyn i ddylunio ymyriadau targedig a neilltuo adnoddau yn effeithiol.
- Gall ysgolion roi mentrau addysgol ar waith i addysgu plant a phobl ifanc sut i ymrafael â’r byd digidol yn ddiogel. Er enghraifft, mae nodi merched yn eu harddegau sy’n uwch eu risg oherwydd cyfeillgarwch ar-lein yn unig yn rhoi sylfaen, wedi’i yrru gan ddata, ar gyfer datblygu rhaglenni cymorth.
Casgliad
Wrth i’r Rhwydwaith barhau â’i ymdrechion, mae’r cipolygon hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer strategaethau gwybodus i hyrwyddo arferion digidol iach a chefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws Cymru a’r tu hwnt. Yn sgil y ffocws cyfunol ar ysgolion uwchradd a chynradd, bydd y dull cynhwysfawr hwn yn cyfrannu heb os at greu amgylchedd sy’n blaenoriaethu iechyd meddwl a lles a datblygiad pob oedran addysg.

I ddarllen rhagor am yr astudiaeth, cliciwch yma.

I dreiddio’n ddyfnach i’r ymchwil bwysig hon, gwyliwch weminar Rebecca.

Cliciwch yma i fynd i blog y Rhwydwaith.