
Mae canfyddiadau newydd sy’n defnyddio data’r Rhwydwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd yn datgelu bod dros 20% o ferched o deuluoedd incwm is yng Nghymru yn adrodd am ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaeth Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith 2023, a wnaeth gynnwys bron i 130,000 o ddysgwyr, ganfod bod gan ferched o aelwydydd cyfoeth isel a chanolig gyfraddau uwch o lawer o ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol o gymharu â bechgyn.
Mynegodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bryder am effaith y cyfryngau cymdeithasol ar berthnasoedd ac iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig ymhlith grwpiau cyfoeth is. Pwysleisiodd Dr. Kelly Morgan, [MB1] Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, bwysigrwydd monitro tueddiadau i ddeall sut mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ymddygiadau iechyd.