Categorïau
Newyddion

Diweddariad Dangosfwrdd i Ddod ar 22 Hydref: Ychwanegwyd Data Arolwg 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn falch o gyhoeddi y bydd y diweddariad diweddaraf i Ddangosfwrdd Data Iechyd a Llesiant Plant Ysgolion Uwchradd SHRN yn mynd yn fyw ar 22 Hydref.

Bydd y diweddariad hwn yn ymgorffori canfyddiadau o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr Ysgolion Uwchradd 2025 SHRN. Bydd yn diweddaru’r dangosfwrdd gyda’r data diweddaraf sydd ar gael. Bydd defnyddwyr yn gallu archwilio canlyniadau newydd ar draws pob dangosydd ar y dangosfwrdd. Bydd yn rhoi mewnwelediadau newydd ar iechyd a llesiant dysgwyr ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Beth sy’n Newydd?

Mae’r dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru i gynnwys data arolwg 2025 SHRN ar draws yr holl ddangosyddion sydd ar gael. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i wneud y canlynol:

  • Archwilio’r tueddiadau iechyd a llesiant diweddaraf ymhlith dysgwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru
  • Cymharu canlyniadau 2025 â blynyddoedd arolwg blaenorol
  • Nodi newidiadau dros amser ar draws ystod eang o fesurau iechyd, ymddygiad a llesiant
  • Cael mynediad at ddata wedi’u diweddaru ar gyfer dadansoddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol

Gydag ychwanegu blwyddyn arolwg 2025, gall defnyddwyr nawr archwilio tueddiadau tymor hwy a chael darlun mwy cyflawn o sut mae canlyniadau wedi newid dros amser.

Mynediad at y Dangosfwrdd

Mae’r dangosfwrdd yn parhau i fod ar gael trwy’r dolenni gwefan arferol ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru a SHRN.

Edrych tua’r Dyfodol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau â’i waith ar ddatblygiadau pellach i adrodd a lledaenu data SHRN. Mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at rannu mwy wrth i ni barhau i wella’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a phartneriaid eraill sy’n gweithio tuag at wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu data hygyrch o ansawdd uchel i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a gwella iechyd y cyhoedd.

Gwnewch nodyn yn eich calendrau – bydd y dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru yn mynd yn fyw ar 22 Hydref.

Categorïau
Newyddion

Sbotolau Newydd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn Archwilio Defnydd Problematig o’r Cyfryngau Cymdeithasol ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru

Mae sbotolau newydd gan y Rhwydwaith yn archwilio defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru, gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 y Rhwydwaith.


Ar sail ymatebion gan fwy na 130,000 o ddysgwyr 11 i 16 oed ledled Cymru, mae’r ddogfen friffio yn bwrw golwg ar ba mor gyffredin yw defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol a’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hynny. Mae defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddefnydd mynych. Mae’n cyfeirio at arfer a all deimlo’n anodd ei reoli, pan fydd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn dechrau ymyrryd â bywyd bob dydd, fel ysgol, gwaith, perthnasoedd neu les.

Mae’r canfyddiadau’n dangos bod oddeutu un o bob 10 dysgwr yn bodloni’r meini prawf ar gyfer defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol yn 2025. Roedd cyfraddau’n uwch ymhlith merched, dysgwyr a nododd nad oedd bachgen na merch yn eu disgrifio nhw, a dysgwyr o deuluoedd cyfoeth is.

Mae’r ddogfen friffio hefyd yn amlygu cysylltiadau rhwng defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ac amrywiaeth o ddeilliannau iechyd a lles. Roedd dysgwyr a adroddodd am iechyd meddwl gwaeth, profiadau o fwlio, lefelau uwch o bwysau yn yr ysgol, a thrafferthion cysgu, yn fwy tebygol o adrodd am ddefnydd problematig. I’r gwrthwyneb, roedd teimladau cryfach o berthyn i’r ysgol, lefelau uwch o gefnogaeth gymdeithasol, a gweithgarwch corfforol rheolaidd, yn gysylltiedig â lefelau is o ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol.

Ymhlith y profiadau yr adroddodd pobl ifanc amdanynt amlaf oedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddianc rhag teimladau negyddol a’i bod yn her iddynt leihau faint o amser yr oeddent yn ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Meddai Dr. Kelly Morgan, Prif Gymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr y Rhwydwaith:

“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig ym mywyd llawer o bobl ifanc. Er nad yw’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn profi heriau sylweddol, mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallai oddeutu un o bob deg fod yn cael trafferth ag agweddau ar eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Gall deall y patrymau hyn helpu i lywio sut rydym ni’n cefnogi iechyd a lles pobl ifanc.”

Cafodd y briff ei arwain gan Dr Shujun Liu o DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gofodol Prifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 y Rhwydwaith. Mae’r arolwg yn rhan o raglen barhaus y Rhwydwaith o fonitro iechyd a lles cenedlaethol, gan ddarparu tystiolaeth am brofiadau plant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Mae’r canfyddiadau’n cynnig cipolwg newydd i ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru a’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hynny.

Mae’r data hefyd yn cyfrannu at Ddangosfwrdd data’r Rhwydwaith, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o fonitro iechyd a lles pobl ifanc yn barhaus yng Nghymru.

Categorïau
Newyddion

Mae data SHRN yn helpu i nodi ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc

Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio data o Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) i nodi ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles gwaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Gan dynnu ar ymatebion gan fwy na 100,000 o ddysgwyr a gymerodd ran yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ffactorau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau iechyd meddwl gwaeth, gan gynnwys cysgu’n wael, bwlio, agwedd negyddol at y corff, anawsterau gyda chyfeillgarwch a phwysau academaidd.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd amgylcheddau ysgol cefnogol ac ymagwedd sy’n cwmpasu’r system gyfan at hyrwyddo iechyd meddwl a lles. Yn bwysig, mae’r adroddiad yn nodi nifer o feysydd lle gallai cymorth ac ymyrraeth gynnar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ifanc.

Mae’r adroddiad yn dangos sut y gellir defnyddio data SHRN y tu hwnt i adrodd ar lefel ysgol i gynnig tystiolaeth werthfawr er mwyn deall tueddiadau ehangach o ran iechyd a lles pobl ifanc ledled Cymru

Darllenwch stori newyddion ac adroddiad llawn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Categorïau
Newyddion

Dangosfwrdd Data Ysgolion Cynradd SHRN Newydd i’w Lansio 18 Mehefin 2026

Rydym yn gyffrous i rannu y bydd Dangosfwrdd Ysgolion Cynradd newydd SHRN yn cael ei ryddhau ar 18 Mehefin 2026. Bydd yr offeryn ar ei newydd wedd yn cynnig mewnwelediadau mwy hygyrch i lesiant dysgwyr, gan alw ar ddata SHRN cynrychioliadol yn genedlaethol gyda’r gallu i weld canfyddiadau ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol.

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu’r bartneriaeth gref a pharhaus rhwng SHRN ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Drwy ddod â data cynrychioliadol cenedlaethol SHRN ac arbenigedd iechyd y boblogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru at ei gilydd, rydym yn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar y cyd i gefnogi cynllunio a gwneud penderfyniadau gwybodus yn well ledled Cymru.

Pam dangosfyrddau?

  • Mae dangosfyrddau’n cyflwyno data cymhleth mewn ffordd glir, weledol sy’n hawdd ei ddeall
  • Yn darparu data cyson, cymharol ar draws lefelau cenedlaethol a rhanbarthol
  • Yn cynnig platfform hawdd ei ddefnyddio i archwilio canfyddiadau
  • Yn helpu i amlygu blaenoriaethau – gan ddangos ble mae pethau’n mynd yn dda a ble mae angen cefnogaeth
  • Yn arbed amser – maent yn dod â mewnwelediadau allweddol at ei gilydd yn yr un lle, gan leihau’r angen am chwilio ar draws gwahanol adroddiadau neu fformatau

Rhowch nodyn yn eich calendrau – mae’r dangosfwrdd yn mynd yn fyw ar 18 Mehefin! Rydym yn annog ysgolion a phartneriaid i archwilio’r dangosfwrdd a defnyddio’r mewnwelediadau i lywio eu gwaith.

Categorïau
Newyddion

Llywodraeth Cymru yn Cyhoeddi Adroddiad Newydd ar Ofalwyr Ifanc sy’n Defnyddio Data y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN)

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad newydd, Health, wellbeing and school life of young carers in Wales: Findings from the School Health Research Network (SHRN).
Mae’r adroddiad yn ffurfio Cam Un o raglen ehangach tair cam i wella data a dealltwriaeth o ofalwyr ifanc yng Nghymru.


Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ymatebion gan dros 65,000 o bobl ifanc a gymerodd ran yn Arolygon Iechyd a Lles Disgyblion Ysgolion Uwchradd SHRN 2021 a 2023, gan gynnwys cwestiwn ynghylch a oeddent yn adnabod eu hunain fel gofalwr ifanc.

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan Ed Janes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Ed hefyd yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ym meysydd gofalwyr ifanc a mabwysiadu. Darparodd tîm SHRN fynediad at y data arolwg; fodd bynnag, nid oeddem yn rhan o’r dadansoddiad na’r gwaith o ysgrifennu’r adroddiad.

Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

  • Nododd 18% o ddysgwyr eu bod yn ofalwyr ifanc, mwy nag 1 o bob 6.
  • Roedd lefel y gofalu yn amrywio: roedd gan tua 9% rolau â rheoleidd-dra uchel, gyda grwpiau llai yn darparu gofal â rheoleidd-dra cymedrol neu isel.
  • Roedd gan ofalwyr ifanc iechyd a lles cyffredinol ychydig yn waeth, gyda’r bylchau mwyaf i’w gweld mewn iechyd meddwl.
  • Roedd cyfrifoldebau gofalu mwy yn gysylltiedig â heriau mwy o ran iechyd a lles.
  • Dangosodd gofalwyr ifanc â rolau gofalu rheolaidd gryfderau cymdeithasol uwch hefyd, gan gynnwys aeddfedrwydd a chyfeillgarwch.

Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr SHRN:

“Ein nod yw darparu data cadarn o ansawdd uchel sy’n cefnogi sefydliadau i ddeall ac ymateb i anghenion pobl ifanc. Rydyn ni’n croesawu defnydd Llywodraeth Cymru o ddata arolwg SHRN yn y maes pwysig hwn, ac rydyn ni’n falch y gall y dystiolaeth gyfrannu at ddarlun cliriach a mwy manwl o anghenion gofalwyr ifanc yng Nghymru.”

Am ragor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cysylltwch â: CYP.RightsInEducation@llyw.cymru

Categorïau
Newyddion

Lansio Adroddiad Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2024 y Rhwydwaith ar gyfer ysgolion cynradd

Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansio Adroddiad Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2024 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae’r adnodd hwn yn cynnig cipolygon gwerthfawr i sut mae ysgolion ledled Cymru’n rhoi polisïau ac ymarfer iechyd a lles ar waith.

Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol hefyd yn llywio datblygiad polisi ar lefelau lleol a chenedlaethol, gan hyrwyddo Dull Ysgol Gyfan ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd emosiynol. Hefyd, mae’n offeryn asesu i Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), gan arwain ysgolion wrth weithredu eu mentrau iechyd a lles a’u gwerthuso. Trwy nodi meysydd i’w gwella a meithrin cydweithrediad, mae’r Holiadur yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu hymarfer a rhannu strategaethau blaengar.

Meddai Dr. Kelly Morgan, cyfarwyddwr y Rhwydwaith:

“Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn fwy nag offeryn casglu data, mae’n gatalydd ar gyfer newid. Trwy ddeall sut mae amgylcheddau ysgolion cynradd yn dylanwadu ar iechyd a lles dysgwyr, rydym ni’n grymuso ysgolion a’n partneriaid yn y Rhwydwaith i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gyrru gwelliant. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â throi tystiolaeth yn weithredu, meithrin cydweithrediad, a sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i ffynnu mewn amgylchedd ysgol iach a chefnogol.”

Mae’r Holiadur yn cael ei ateb gan aelod o dîm arwain yr ysgol bob dwy flynedd, ochr yn ochr ag Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith. Gyda’i gilydd, mae’r offer hyn yn creu set ddata unigryw sy’n cysylltu polisïau ac ymarfer ysgolion, fel arweinyddiaeth, ethos, y cwricwlwm, ac ymgysylltu â’r gymuned, â deilliannau iechyd a lles dysgwyr.

Mae data’r Holiadur yn helpu i:

  • Fonitro a meincnodi amgylcheddau ysgol yn erbyn safonau cenedlaethol.
  • Nodi bylchau a blaenoriaethau ar gyfer cymorth targedig a dyrannu adnoddau.
  • Llywio cynllunio strategol i gryfhau dulliau ysgol gyfan ar gyfer iechyd a lles.
  • Darparu tystiolaeth ar gyfer datblygiad polisïau ac adrodd i randdeiliaid.

Ar lefel genedlaethol, mae data’r Holiadur yn ategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, Ysgolion Bro, Hawliau Plant, a Balch o’r Mislif Cymru. Hefyd, mae’n cyfrannu at ddiwygio’r cwricwlwm a sicrhau ansawdd ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles.-being Promoting Schools.

Gallwch fynd at yr adroddiad fan hyn:

Adroddiad Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2024 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

Categorïau
Newyddion

Data SHRN wedi’i gynnwys yn Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2024–25

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol “Myfyrio ar ein Hiechyd” ym mis Rhagfyr 2025, gan gydnabod mai SHRN yw’r brif ffynhonnell data ar ymddygiadau iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae arolygon SHRN yn cwmpasu pob ysgol uwchradd a bron i hanner yr ysgolion cynradd yng Nghymru, gyda chyfraddau ymateb dysgwyr tua 75%. Mae’n parhau i fod y brif ffynhonnell yng Nghymru o ddata o ansawdd uchel, seiliedig ar ysgolion, ar ymddygiadau iechyd a lles ymhlith plant a phobl ifanc. Drwy gyfranogiad gan 100% o ysgolion uwchradd a bron i 50% o ysgolion cynradd, mae SHRN yn galluogi monitro parhaus o ffactorau fel iechyd meddwl a lles, arferion deietegol a gweithgarwch corfforol.

Dyma a ddywedodd Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr SHRN:

‘Mae’r gydnabyddiaeth o SHRN yn adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol wir yn dilysu ein cenhadaeth: sef bod y ffynhonnell flaenllaw ar gyfer data ar ymddygiadau iechyd a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Drwy ddarparu syniadau cynhwysfawr a dibynadwy, mae SHRN yn galluogi llunio polisïau ar anghydraddoldebau iechyd a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu ymyriadau wedi’u targedu, ac yn cefnogi strategaethau atal cenedlaethol, gyda’r nod o greu gwelliannau parhaol yn iechyd a lles dysgwyr.

Mae data SHRN yn helpu i lunio dyfodol iachach i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan rymuso ysgolion, arwain llunwyr polisïau, a sicrhau bod atal yn cael lle canolog ym maes iechyd y cyhoedd.’

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.

Categorïau
Newyddion

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn tynnu sylw at ymchwil diweddaraf yn nigwyddiad y Farchnad yn y Senedd


o’r chwith i’r dde: Maria Boffey (Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol), Lynne Neagle AS (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg), Freya Pryce (Uwch-swyddog Ymchwil, Llywodraeth Cymru), Charlotte Wooders (Rheolwr Ymgysylltu), Nick Page (Uwch Ddadansoddwr), Rory Chapman (Swyddog Cyfathrebu Digidol a Digwyddiadau)

Roedd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn falch o gymryd rhanyn nigwyddiad Y Farchnad yn y Senedd, i dynnu sylw at ein hymchwil diweddaraf a’n adnoddau ar iechyd a lles dysgwyr. Cafodd y digwyddiad ei ariannu’n hael gan Lynne Neagle, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae ei chymorth wedi helpu igreu awyrgylch groesawgar a diddorol drwy gydol y dydd.

Ysgogodd y digwyddiad sgyrsiau gydag arweinwyr ysgolion, ymchwilwyr, a llunwyr polisïau ynghylch sut gall data’r Rhwydwaith arwain at newid go iawn mewn ysgolion a helpu i gefnogi’r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol.  

Meddai Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion:


‘Mae’r grym yn nwylo llunwyr polisïau i greu’r amgylchedd y mae ysgolion yn gweithredu ynddo, ac mae hynny’n cael effaith uniongyrchol ar les dysgwyr. Roedd digwyddiad Y Farchnad yn y Senedd yn werthfawr iawn gan ei fod yn gyfle i gael sgyrsiau go iawn gan rannu beth sy’n digwydd mewn ysgolion ar lefel ymarferol a dangos sut mae data’n gallu helpu i wneud penderfyniadau gwell’.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cysylltiadau a wnaed yn Y Farchnad yn y Senedd a pharhau i weithio gyda phartneriaid i wella iechyd a lles dysgwyr ym mhob rhan o Gymru.

Diolch o galon unwaith eto i Ysgrifennydd y Cabinet am ei chefnogaeth barhaus a’i hymrwymiad amlwg i waith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

Categorïau
Newyddion

Diweddariad Dangosfwrdd Data SHRN gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Archwiliwch Ddata a Nodweddion Newydd!

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn falch o gyhoeddi y bydd y diweddariad nesaf i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd wedi mynd yn fyw ar 27 Tachwedd.

Mae yna ystod o bynciau newydd wedi’u hychwanegu at y dangosfwrdd presennol ar welliannau blaenorol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddioldeb – gan wneud y dangosfwrdd yn haws i’w lywio ac yn fwy greddfol i ddefnyddwyr ledled Cymru.

Rydyn ni’n cyflwyno 11 pwnc newydd o arolwg 2023, gan gynnwys:

  • Cyfeillgarwch a chefnogaeth i’r teulu
  • Gwaharddiadau ysgol a thriwantiaeth

Er mwyn helpu defnyddwyr i edrych ar dueddiadau hirdymor, rydyn ni hefyd wedi ychwanegu data hanesyddol o flynyddoedd arolwg 2017–2021 (lle bo ar gael).

  • Mae dadansoddiadau ethnigrwydd bellach ar gael ar draws y pedair blynedd o ddata
  • Dadansoddiad Grŵp Blwyddyn yn ôl Awdurdod Lleol—un o’n nodweddion mwyaf poblogaidd!

Mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu data o ansawdd uchel a hygyrch i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid sy’n gweithio i wella iechyd a lles pobl ifanc.

Nodwch y dyddiad yn eich calendr – mae’r dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru yn mynd yn fyw ar 27 Tachwedd!

Categorïau
Newyddion

Holl Ysgolion Uwchradd Cymru yn Cofrestru ar gyfer Arolwg 2025 y Rhwydwaith

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod pob ysgol uwchradd yng Nghymru bellach wedi cofrestru ar gyfer casgliad data 2025 y Rhwydwaith. Dyma garreg filltir enfawr – ac mae’n dyst go iawn i’r ymroddiad a’r gwaith tîm ar draws y rhwydwaith.

Meddai Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith:

‘Mae cyrraedd 100% mewn cofrestriadau yn dangos cymaint o bwys y mae ysgolion yn ei roi ar rôl y Rhwydwaith yn cefnogi iechyd a lles dysgwyr, a gwella ysgolion. Mae’n eiliad falch i bawb sy’n gysylltiedig.

Diolch enfawr i bawb sydd wedi helpu i wireddu hyn. Mae eich cefnogaeth barhaus yn helpu i lywio dyfodol iachach yng Nghymru.

Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol cryfach, iachach i bobl ifanc yng Nghymru. Gadewch i ni barhau i yrru newid cadarnhaol gyda’n gilydd.’

Caewyd cofrestru yn swyddogol ar 18 Gorffennaf, ac rydym ni bellach yn gofyn i ysgolion gwblhau dwy ran yr arolwg:

Bydd casglu data’r arolwg ar agor tan 19 Rhagfyr 2025, gan roi amser i ysgolion gasglu cipolygon ystyrlon a fydd yn helpu i lywio cynllunio a pholisi yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch ein Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth, Maria Boffey.