
Pam mae SaFE yn bwysig
Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i’r afael â’r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, hyrwyddo’r gwasanaethau hyn a hyfforddi staff AB i gefnogi iechyd rhywiol ac adnabod ac ymateb i achosion o drais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.
A all SaFE ffynnu mewn lleoliadau AB?
Prif gwestiwn yr ymchwil oedd a oes modd gweithredu ymyrraeth SaFE mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB). Roedd hyn yn golygu gwerthuso pa mor dderbyniol oedd yr ymyrraeth a dulliau’r astudiaeth i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid eraill.
Saernïo a phrofi SaFE
I fireinio a phrofi ymyrraeth SaFE, gweithiom yn agos gyda myfyrwyr AB, staff AB, llunwyr polisi, ysgolheigion a grŵp cynghori DECIPHer o bobl ifanc, sef (ALPHA). Fe wnaethom addasu deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyfforddiant staff presennol fel eu bod yn cyd-fynd â chyd-destun AB. Yna, cynhaliom astudiaeth beilot mewn wyth lleoliad AB (gan gynnwys cyfuniad o ddosbarthiadau chwech sy’n aelod o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a cholegau cymunedol) ar draws Cymru a Lloegr. Dewiswyd chwech o’r lleoliadau hyn ar hap i dderbyn ymyrraeth SaFE ac roedd y ddau leoliad arall yn rheolyddion. Cynhaliom arolwg o fyfyrwyr ar ddechrau’r astudiaeth ac, eto, ymhen 12 mis. Hefyd, cynhaliom gyfweliadau â staff, myfyrwyr a nyrsys iechyd rhywiol, ac arsylwom sut cafodd yr ymyrraeth ei chyflwyno.
Beth ddarganfuom ni
- Cyfranogi ac Ymgysylltu: Cytunodd yr holl leoliadau AB i gyfranogi ac arhosont yn yr astudiaeth. Yn gyfan gwbl, fe wnaeth 56.3% o’r myfyrwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr arolwg wneud hynny. Fe wnaeth 60.7% gymryd rhan yn yr arolwg cychwynnol, a 51.9% wrth ddilyn i fyny ymhen 12 mis. Roedd hyn ychydig islaw’r targed o 60% ar gyfer y ddau bwynt.
- Gwelededd y Gwasanaeth a’r Defnydd Ohono: Roedd cyhoeddusrwydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle yn weladwy ym mhob lleoliad. Roedd nyrsys yn bresennol mewn dros 80% o sesiynau’r gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle a chafodd 137 aelod o staff hyfforddiant.
- Pryderon Myfyrwyr: Mynegodd tua chwarter o fyfyrwyr bryderon am roi caniatâd i gael mynediad i’w cofnodion iechyd a’u cysylltu.
Llwyddiant SaFE, ei chyfeiriad yn y dyfodol a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Rhoddwyd ymyrraeth SaFE ar waith yn llwyddiannus a chafodd ei derbyn yn gadarnhaol gan fyfyrwyr AB, staff AB a nyrsys. Fodd bynnag, teimlont fod angen mwy o amser arni i integreiddio’n llawn mewn lleoliadau AB.
Mae cynyddu cyfraddau’r myfyrwyr sy’n ateb yr arolwg yn hanfodol ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol, yn ogystal â dod o hyd i’r man cywir mewn lleoliad AB i fod yn gartref i wasanaeth iechyd rhywiol ar y safle. Mae angen astudiaeth fwy o faint i benderfynu a all SaFE wella iechyd rhywiol yn effeithiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.
Yn ogystal, mae gan lwyddiant SaFE oblygiadau i’r Rhwydwaith, gan ei bod yn:
- Gwella Hygrededd ac Enw Da’r Rhwydwaith: Mae arddangos hyfywedd a derbynioldeb ymyrraeth SaFE yn hybu statws y Rhwydwaith mewn iechyd cyhoeddus ac addysg. Hefyd, gall y llwyddiant hwn ddenu mwy o gyllid i brosiectau ymchwil mwy.
- Eiriol integreiddio: Gallai’r canfyddiadau cadarnhaol hyn, a chanlyniadau treial effeithiolrwydd ymyrraeth SaFE ar raddfa lawn, helpu’r Rhwydwaith i eiriol dros ymyriadau tebyg mewn ysgolion, gan arwain o bosibl at welliannau helaeth mewn iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys rhai dysgwyr ôl-16 os oes chweched dosbarth mewn ysgol. Felly, os bydd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yn gadarnhaol, gallant helpu i eiriol dros yr ymyriadau hyn mewn dosbarthiadau chwech.
At hynny, mae cyfle sylweddol gan y Rhwydwaith i wella seilwaith AB. Trwy integreiddio galluoedd casglu a dadansoddi data cadarn y Rhwydwaith, gall sefydliadau AB ddeall a mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles eu myfyrwyr yn well. Gall yr integreiddio hwn arwain at lunio polisïau yn fwy gwybodus, gwell gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, ac amgylchedd addysgol iachach yn gyffredinol.
- Meithrin Partneriaethau Newydd: Mae gweithredu peilot ymyrraeth SaFE yn llwyddiannus wedi creu partneriaethau newydd gyda llunwyr polisi, sefydliadau addysgol dosbarth chwech a choleg, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo iechyd a lles ym mhob cyd-destun addysgol.
Ar y cyfan, mae llwyddiant y treial peilot hwn yn hybu ymdrechion y Rhwydwaith yn sylweddol i wella iechyd a lles pobl ifanc trwy ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.
Rhowch y gair ar led: Rhannwch y blog hwn i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd rhywiol a pherthnasoedd iach mewn lleoliadau Addysg Bellach.
I ddarllen am yr astudiaeth, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Honor youngh6@cardiff.ac.uk.

Gwybodaeth am yr Awdur
Rwy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a DECIPHer, lle rwy’n gyd-arweinydd y Rhaglen Lleoliadau a Sefydliadau Iach. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac yn gyd-ymchwilydd grantiau mawr, fel Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (WAVU). A minnau’n Seicolegydd Siartredig (CPsychol) ac yn Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig gyda Chyngor y Proffesiynau Gofal Iechyd, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar seicoleg iechyd ac iechyd cyhoeddus. O ddiddordeb arbennig i mi y mae penderfynyddion cymdeithasol iechyd pobl ifanc, ymyriadau mewn lleoliadau addysgol a materion fel iechyd rhywiol, trais mewn perthnasoedd, a thrais ar sail rhywedd ymhlith pobl ifanc. Rwy’n ymroi hefyd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.