Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansio Adroddiad Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2024 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae’r adnodd hwn yn cynnig cipolygon gwerthfawr i sut mae ysgolion ledled Cymru’n rhoi polisïau ac ymarfer iechyd a lles ar waith.
Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol hefyd yn llywio datblygiad polisi ar lefelau lleol a chenedlaethol, gan hyrwyddo Dull Ysgol Gyfan ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd emosiynol. Hefyd, mae’n offeryn asesu i Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), gan arwain ysgolion wrth weithredu eu mentrau iechyd a lles a’u gwerthuso. Trwy nodi meysydd i’w gwella a meithrin cydweithrediad, mae’r Holiadur yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu hymarfer a rhannu strategaethau blaengar.
Meddai Dr. Kelly Morgan, cyfarwyddwr y Rhwydwaith:
“Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn fwy nag offeryn casglu data, mae’n gatalydd ar gyfer newid. Trwy ddeall sut mae amgylcheddau ysgolion cynradd yn dylanwadu ar iechyd a lles dysgwyr, rydym ni’n grymuso ysgolion a’n partneriaid yn y Rhwydwaith i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gyrru gwelliant. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â throi tystiolaeth yn weithredu, meithrin cydweithrediad, a sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i ffynnu mewn amgylchedd ysgol iach a chefnogol.”
Mae’r Holiadur yn cael ei ateb gan aelod o dîm arwain yr ysgol bob dwy flynedd, ochr yn ochr ag Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith. Gyda’i gilydd, mae’r offer hyn yn creu set ddata unigryw sy’n cysylltu polisïau ac ymarfer ysgolion, fel arweinyddiaeth, ethos, y cwricwlwm, ac ymgysylltu â’r gymuned, â deilliannau iechyd a lles dysgwyr.
Mae data’r Holiadur yn helpu i:
- Fonitro a meincnodi amgylcheddau ysgol yn erbyn safonau cenedlaethol.
- Nodi bylchau a blaenoriaethau ar gyfer cymorth targedig a dyrannu adnoddau.
- Llywio cynllunio strategol i gryfhau dulliau ysgol gyfan ar gyfer iechyd a lles.
- Darparu tystiolaeth ar gyfer datblygiad polisïau ac adrodd i randdeiliaid.
Ar lefel genedlaethol, mae data’r Holiadur yn ategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, Ysgolion Bro, Hawliau Plant, a Balch o’r Mislif Cymru. Hefyd, mae’n cyfrannu at ddiwygio’r cwricwlwm a sicrhau ansawdd ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles.-being Promoting Schools.
Gallwch fynd at yr adroddiad fan hyn:

