
Gwybodaeth am Ein Hymchwil
Ein cenhadaeth yw cynnal ymchwil effeithiol sy’n mynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ein hysgolion yn eu hwynebu, i gefnogi datblygiad amgylcheddau sy’n hybu iechyd i ddysgwyr ledled Cymru a’r tu hwnt.
Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi cymuned fywiog o ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu datrysiadau seiliedig ar dystiolaeth, y gellir eu rhoi ar waith mewn lleoliadau addysgol. Ein nod yw meithrin partneriaethau a chydweithrediadau sy’n pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer, gan sicrhau bod ein canfyddiadau’n arwain at welliannau go iawn yn iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Seilwaith Data’r Rhwydwaith
Ochr yn ochr â’n seilwaith cyd-gynhyrchu a chyfnewid gwybodaeth flaengar, mae ein harolygon dwyflynyddol i ddysgwyr ac ar amgylchedd yr ysgol wedi helpu i sefydlu adnodd data unigryw yng Nghymru. Mae arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, sy’n cael eu gweinyddu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn darparu dangosyddion cenedlaethol a rhanbarthol i amrywiaeth o bartneriaid polisi ac ymarfer, yn ogystal â darparu data monitro rheolaidd i ysgolion i gynllunio gweithredu ynghylch iechyd a lles a gwerthuso iechyd a lles.
I ymchwilwyr, mae data’r Rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd i ymchwilio i dueddiadau ac anghydraddoldebau mewn iechyd a lles ymhlith plant a phobl ifanc (gan gynnwys grwpiau lleiafrifol), nodi ffactorau risg ac amddiffynnol posibl, a deall rôl ysgolion mewn helpu i hybu iechyd a lles yn well. Mae amlder casglu data gennym a chryfder ein perthnasoedd ag ysgolion eisoes yn cynnig seilwaith ymchwil parod ar gyfer gwerthuso a monitro polisïau newydd wrth iddynt gael eu gweithredu mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol.
Trosolwg o Ddata Ysgolion Uwchradd a’u Cyfranogiad
- Casglu a Storio Data: Mae data’r Rhwydwaith gan ddysgwyr oed uwchradd yn cael ei storio ym manc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn caniatáu am gysylltu ymatebion i’r arolwg gan ddysgwyr sy’n cydsynio gyda deilliannau iechyd ac addysgol rheolaidd.
- Cyfraddau Ymateb Ysgolion a Dysgwyr Uwchradd: Mae mwy na 90% o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cymryd rhan yn rheolaidd. Mae cyfraddau ymateb dysgwyr wedi cynyddu o 65% yn 2017 i 75% erbyn 2023.
- Uchafbwyntiau Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2023 y Rhwydwaith: Dyma’r nifer uchaf eto i gymryd rhan, gyda 129,761 o ddysgwyr 11-16 oed o 201 o ysgolion. Cydsyniodd 43,730 o ddysgwyr (72.4% o’r cyfranogwyr cymwys) i gysylltedd data.
- Dyluniad a Chyd-destun Hanesyddol yr Arolwg Iechyd a Lles: Mae’r Arolwg yn arolwg trawstoriadol a ailadroddir, gan gasglu data yn 2017 (n=103,971), 2019 (n=119,388), 2021 (n=123,204), ac yn 2023 (n=129,761). Gall data’r Arolwg Iechyd a Lles, a ddatblygwyd o’r arolwg HBSC rhyngwladol sydd wedi’i gynnal yng Nghymru ers canol y 1980au, gael ei gyfuno â setiau data hanesyddol HBSC i greu cyfres amser hirsefydledig ar gyfer gwerthuso polisi ar raddfa fawr.
- Casgliad Data Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith: Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn casglu data gan arweinwyr ysgolion ar bolisïau ac ymarfer, y gellir ei gyfuno ag ymatebion dysgwyr i archwilio effeithiau amgylchedd yr ysgol ar ddeilliannau dysgwyr. Mae’r Holiadur wedi’i gynnal ochr yn ochr â’r Arolwg ers 2017. Yn 2023, fe wnaeth 191 o ysgolion (90% o’r ysgolion sy’n aelodau o’r Rhwydwaith) gymryd rhan yn yr Holiadur. Darllenwch ein hadroddiadau diweddaraf ar yr Holiadur.
Trosolwg o Gasglu Data mewn Ysgolion Cynradd a’u Cyfranogiad
- Yn ogystal, mae data wedi cael ei gasglu gan dros 35,000 o ddisgyblion oed cynradd o 389 ysgol, trwy waith hyfywedd a pheilota fesul cam. Darllenwch ein hadroddiad.
- Ymgymerwyd â’r arolwg cyntaf mewn ysgolion cynradd yn 2024 a chaiff y data ei ryddhau yn haf 2025.
- Gyda’i gilydd, mae’r setiau data cynradd ac uwchradd yn helpu i ddeall llwybrau iechyd a lles disgyblion ar draws system addysg Cymru ac maent yn cynnig golwg ar effeithiau pontio rhwng ysgolion ar ddeilliannau disgyblion.
Er mwyn cael trosolwg o’r data rydym yn ei gasglu, gweler ein proffil adnodd data a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn yr International Journal of Epidemiology a darllenwch ein Blog.
Ewch i dudalen ein hanes i ddeall ein taith, ennill cipolwg i’r egwyddorion sy’n ein harwain a gweld sut mae ein hymdrechion yn y gorffennol yn llywio ein prosiectau presennol a’n prosiectau yn y dyfodol.
Mae eu proffiliau staff academaidd yn cynnig gwybodaeth fanylach am bob un o’u rolau, eu harbenigedd a’u gwybodaeth gyswllt, gan sicrhau eich bod yn gallu cysylltu â’r person cywir i’ch anghenion.
Ein Hymchwil
Rydym yn cefnogi pum thema ymchwil allweddol wedi’u hanelu at wella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r themâu hyn yn cynnwys:
- Iechyd Meddwl a Lles: Ymchwil i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi iechyd meddwl dysgwyr.
- Gweithgarwch Corfforol a Maeth: Astudiaethau ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac arferion bwyta’n iach ymhlith dysgwyr.
- Defnyddio Sylweddau: Ymchwil i atal a lleihau’r defnydd o sylweddau fel tybaco, alcohol a chyffuriau.
- Iechyd Rhywiol: Astudiaethau ar addysg ac ymddygiadau iechyd rhywiol.
- Perthnasoedd Cymdeithasol: Ymchwil i effaith perthnasoedd cymdeithasol ar iechyd a lles dysgwyr
Mae’r themâu hyn yn cael eu harchwilio trwy’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, sy’n casglu data oddi wrth ysgolion bob dwy flynedd.
Mae cysylltiad annatod rhwng ffocws ein hymchwil o fewn y themâu hyn â diddordebau ymchwilwyr iechyd a lles unigol a blaenoriaethau ein partneriaid – Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Llywodraeth Cymru. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i ni addasu a chysoni ein hymchwil ag anghenion sy’n esblygu a materion sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau bod ein gwaith yn parhau’n berthnasol ac yn effeithiol. Trwy beidio â diffinio ein meysydd ymchwil yn gaeth, rydym yn cofleidio ein natur unigryw, gan feithrin amgylchedd cydweithredol lle gall diddordebau ymchwil amrywiol ffynnu a chyfrannu’n uniongyrchol at iechyd a lles cymunedau ysgolion ar draws Cymru a thu hwnt. Trwy gyfuno’r dulliau hyn, gall y Rhwydwaith gynnal cydbwysedd rhwng mynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd sefydledig a bod yn hyblyg yn wyneb heriau newydd.
Ein Portffolio Ymchwil
Mae nifer gynyddol o ymchwilwyr yn defnyddio data’r Rhwydwaith:
Astudiaeth ddoethurol sy’n ceisio deall rôl ysgolion mewn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwroamrywiol.
Astudiaeth sy’n asesu p’un a yw pwysau gwaith ysgol wedi newid dros gyfnod o ugain mlynedd yng Nghymru, a’r graddau y gall unrhyw newidiadau fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn problemau emosiynol.
Astudiaeth sy’n archwilio cysylltiadau rhwng rhagfynegyddion lefel unigol a lefel ysgol a chyfranogiad myfyrwyr mewn gweithgareddau wedi’u trefnu yn 2017/2018.
Astudiaeth ddoethurol sy’n edrych ar ffactorau sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau atal cenhedlu ai peidio, yn benodol, dulliau atal cenhedlu gwrthdoradwy hirdymor, ymhlith y glasoed sy’n mynd i ysgolion yng Nghymru.
Ymchwil sy’n bwrw golwg ar ba mor gyffredin yw Poen Mislif Difrifol a’i effaith ar iechyd meddwl, gweithgarwch corfforol ac agweddau ac ymgysylltu mewn ysgolion. Mae’r astudiaeth hefyd yn mynd ati i fwrw golwg ar ddylanwad cymorth a pholisïau ysgolion, gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth am natur ac effaith y broblem er dylunio a chynllunio ymyriadau yn y dyfodol.
Ymchwil sy’n archwilio proffil emosiynol-gymdeithasol plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, o gymharu â’u cyfoedion nad ydynt mewn gofal a chyfoedion mewn lleoliadau eraill (gofal gan berthynas, gofal maeth, preswyl). Un amcan yw edrych ar iechyd meddwl a lles, a’r ail yw bywyd ysgol. Bydd yr astudiaeth yn archwilio gwahaniaethau rhwng ysgolion sydd â chymorth dynodedig ac sydd heb gymorth dynodedig ar gyfer iechyd meddwl a lles pobl ifanc e.e. cymorth iechyd meddwl, cwnsela, ac ati. Hefyd, gall fod cyfleoedd am ymchwil pellach i gamddefnyddio sylweddau, a chymharu’r teulu a chyfoedion fel cyd-destunau perthynol i ddeall iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Ar ôl lansio Dangosfwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023, cafwyd gostyngiad sylweddol mewn ceisiadau i’n tîm ymchwil am ddangosyddion penodol. Rydym yn parhau i gael ceisiadau penodol am ddangosyddion nad ydynt ar gael eto ar y dangosfwrdd gan bartneriaid sy’n defnyddio’r data hwn, i gynllunio, arwain a gwerthuso ymyriadau. Mae’r rhain yn cynnwys timau penodol o fewn Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill sy’n gweithio ar lefel y bwrdd iechyd.
Cliciwch yma i weld astudiaethau a fabwysiadwyd gennym

Darllenwch ein Cyhoeddiadau Academaidd Diweddaraf
Cliciwch yma i archwilio ein hymchwil a’n hastudiaethau diweddar. Cadwch i fyny â’r canfyddiadau a’r cipolygon diweddaraf.

Ein Partneriaid a’n Cydweithredwyr
- Darllenwch fwy am ein partneriaid â’n cydweithredwyr
- Dysgwch fwy am ein partneriaeth ag Astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC)

Newyddion Diweddaraf
Cadwch mewn cysylltiad i gael y newyddion diweddaraf. Rydym ni’n rhannu cyhoeddiadau pwysig, datblygiadau ymchwil a llawer o ddatblygiadau nodedig eraill yn rheolaidd.
Ein hadran Newyddion Diweddaraf yw eich ffynhonnell ar gyfer dysgu am ein gweithgareddau a’n cyflawniadau. Cadwch lygad yn rheolaidd am y wybodaeth a’r cipolygon diweddaraf.

Tanysgrifiwch i’n e-grynhoad i gael y newyddion diweddaraf a bod yn rhan o daith barhaus y Rhwydwaith i wella iechyd a lles mewn ysgolion yn fyd-eang.