Categorïau
Newyddion

Diweddariad Dangosfwrdd i ddod ar 27 Tachwedd: Data Newydd, Nodweddion Newydd!

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn falch o gyhoeddi y bydd y diweddariad nesaf i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd yn mynd yn fyw ar 27 Tachwedd.

Mae’r diweddariad hwn yn adeiladu ar welliannau blaenorol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddioldeb — gan wneud y dangosfwrdd yn haws i’w lywio ac yn fwy greddfol i ddefnyddwyr ledled Cymru.

Rydyn ni’n cyflwyno 11 pwnc newydd o arolwg 2023, gan gynnwys:

  • Cyfeillgarwch a chefnogaeth i’r teulu
  • Gwaharddiadau ysgol a thriwantiaeth

Er mwyn helpu defnyddwyr i edrych ar dueddiadau hirdymor, rydyn ni hefyd wedi ychwanegu data hanesyddol o flynyddoedd arolwg 2017–2021 (lle bo ar gael).

  • Mae dadansoddiadau ethnigrwydd bellach ar gael ar draws y pedair blynedd o ddata
  • Dadansoddiad Grŵp Blwyddyn yn ôl Awdurdod Lleol—un o’n nodweddion mwyaf poblogaidd!

Mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu data o ansawdd uchel a hygyrch i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid sy’n gweithio i wella iechyd a lles pobl ifanc.

Nodwch y dyddiad yn eich calendr – mae’r dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru yn mynd yn fyw ar 27 Tachwedd!