
Yn y blog hwn, mae’r myfyriwr PhD, Sophie Borgia, sydd wedi’i lleoli yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd, yn esbonio sut mae ei hymchwil yn datgelu anghydraddoldebau iechyd a lles gan ddefnyddio data’r Rhwydwaith, a sut y bydd hi’n archwilio beth gall ysgolion ei wneud i gefnogi dysgwyr trawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn well mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru.
Helo, Sophie Borgia ydw i, myfyriwr PhD yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd. Rwy’n defnyddio data Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i archwilio’r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn cael profiad ohonynt yng Nghymru. Mae fy astudiaeth hefyd yn bwrw golwg ar sut mae polisïau, arferion ac amgylcheddau cyffredin ysgolion yn llywio’r deilliannau hyn. I wneud hyn, rwy’n cyfuno dadansoddiadau ansoddol ar raddfa fawr gydag ymchwil ansoddol sy’n cynnwys staff ysgol, dysgwyr TGD a gwneuthurwyr penderfyniadau‑ymarferwyr.
Pam mae’r Ymchwil hon yn bwysig
Gall pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol[1] (TGD) wynebu anghydraddoldebau iechyd o gymharu â chyfoedion cisryweddol[2]. Tra bod gwahaniaethau mewn iechyd meddwl wedi’u cofnodi’n helaeth, mae llawer llai yn hysbys am ddeiliannau iechyd eraill, fel gweithgarwch corfforol, defnyddio sylweddau a bwyta’n iach, a’r rôl mae ysgolion yn ei chwarae yn llywio’r rhain. Mae fy ymchwil yn dechrau mynd i’r afael â’r bylchau hyn gan ddefnyddio data 2021 y Rhwydwaith i archwilio anghydraddoldebau posibl ar draws amrediad ehangach o ddeilliannau iechyd a lles. Mae hefyd yn archwilio sut mae cyd-destunau ysgolion uwchradd yn dylanwadu ar y deilliannau hyn. Nod fy ngwaith yw darparu tystiolaeth a all helpu ysgolion i greu amgylcheddau mwy cynhwysol a chefnogol.
Beth mae tystiolaeth yn ei ddweud wrthym
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn profi iechyd meddwl gwaeth o lawer na phobl ifanc cisryweddol (Wittlin, Kuper & Olson 2023; White et al. 2023; White, Trinh & Reynolds 2023). Hefyd, mae ymchwil sy’n awgrymu bod profiad pobl ifanc TGD yn yr ysgol yn gysylltiedig â’u hiechyd meddwl (Horton 2023; Kelley et al. 2022; Johns et al. 2021).
Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil sy’n archwilio p’un a yw pobl ifanc TGD yn profi anghydraddoldebau mewn deilliannau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles, a sut mae ysgolion yn dylanwadu ar y rhain.
Defnyddio Data’r Rhwydwaith ar gyfer Mewnwelediadau Newydd
Gan adeiladu ar y dystiolaeth hon, mae fy astudiaeth PhD yn defnyddio data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith i archwilio anghydraddoldebau cysylltiedig ag iechyd y mae pobl ifanc TGD yn cael profiad ohonynt. Rwy’n archwilio p’un a yw’r anghydraddoldebau hyn yn mynd y tu hwnt i iechyd meddwl, i feysydd fel gweithgarwch corfforol, defnyddio sylweddau a bwyta’n iach. Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn archwilio sut mae polisïau ac arferion ysgolion uwchradd yn dylanwadu ar iechyd dysgwyr TGD trwy siarad â staff ysgol, pobl ifanc TGD, ac ymarferwyr sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg. Y nod yw cynhyrchu tystiolaeth a all helpu ysgolion i greu amgylcheddau mwy cynhwysol a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gyda’i gilydd, bydd hyn yn helpu i adeiladu darlun llawnach o ble mae anghydraddoldebau yn bodoli a pham.
Gall fod yn heriol i ymchwilwyr ddeall p’un a yw pobl ifanc TGD yn profi gwahaniaethau mewn deilliannau cysylltiedig ag iechyd o gymharu â’u cyfoedion cisryweddol. Un rheswm yw bod astudiaethau’n aml yn cael trafferth recriwtio sampl digon mawr ac amrywiol o bobl ifanc â hunaniaethau rhywedd gwahanol.
Dyma ble mae data’r Rhwydwaith yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal arolwg o filoedd o bobl ifanc ar draws Cymru bob dwy flynedd ac mae’n gofyn cwestiynau am amrediad eang o ddeilliannau iechyd a lles. Hefyd, gall pobl ifanc ddewis rhannu eu hunaniaeth rhywedd, sy’n golygu bod data’r Rhwydwaith yn darparu cyfle unigryw i astudio gwahaniaethau mewn deilliannau cysylltiedig ag iechyd rhwng grwpiau hunaniaeth rhywedd.
Mae fy PhD yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol:
- Iechyd meddwl
- Lles
- Defnyddio sylweddau
- Gweithgarwch corfforol
- Bwyta’n iach
Trwy ddefnyddio data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith, rwy’ wedi gallu cymharu’r deilliannau hyn ar draws pobl ifanc sydd â hunaniaethau rhywedd gwahanol.
Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod pobl ifanc TGD yn adrodd am lai o weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl a lles gwaeth o gymharu â chyfoedion cisryweddol. Rwy’n parhau â’r dadansoddiad a byddaf yn rhannu canlyniadau manwl mewn papur ymchwil sydd ar ddod.
Sut gall ysgolion uwchradd gymryd rhan
Mae’r patrymau hyn yn codi cwestiynau pwysig: Sut mae amgylcheddau ysgolion yn dylanwadu ar ymddygiadau a deilliannau iechyd? A beth gall ysgolion ei wneud – yn ymarferol ac yn gynaliadwy – i gefnogi iechyd a lles dysgwyr TGD?

I ateb y rhain, rwy’n gwahodd ysgolion uwchradd a gweithwyr iechyd ac addysg i gymryd rhan yn y cam nesaf o fy PhD. Byddaf yn gweithio gyda phedair ysgol uwchradd ar draws Cymru i recriwtio staff a dysgwyr.
Bydd fy ymchwil yn defnyddio:
- Grwpiau ffocws gyda staff ysgol (gan gynnwys uwch rolau arwain, rolau addysgu a rolau bugeiliol)
- Grwpiau ffocws creadigol gyda phobl ifanc trawsryweddol, anneuaidd a rhywedd-amrywiol
- Cyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes addysg ac iechyd (e.e. rolau addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, cydlynwyr ysgolion sy’n hyrwyddo iechyd a lles, a rolau iechyd cyhoeddus eraill sy’n gysylltiedig â lleoliadau addysg uwchradd).
Y nod yw darparu mewnwelediadau ymarferol i staff ysgol a llunwyr polisi i greu amgylcheddau ysgol mwy cynhwysol a chefnogol i ddysgwyr TGD, ac i nodi beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei newid.
Edrych tua’r dyfodol: Sut gall ysgolion wneud gwahaniaeth
Mae data 2021 y Rhwydwaith wedi rhoi darlun cliriach i ni o’r heriau iechyd a lles sy’n cael eu hwynebu gan bobl ifanc TGD. Nesaf, byddaf i’n archwilio sut mae polisïau ysgol ac arferion dydd i ddydd yn cyfrannu at y deilliannau hyn, a pha ddulliau cynhwysol all wneud gwahaniaeth mesuradwy. Mae pobl ifanc TGD yn haeddu amgylcheddau ysgol lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel, yn cael eu gweld ac yn cael eu cefnogi, a gall eich mewnwelediadau wir helpu i wireddu hynny.
Mae cam nesaf fy PhD yn dibynnu ar brofiad bywyd ac arbenigedd proffesiynol pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn addysg uwchradd ac iechyd. Trwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i lywio argymhellion realistig, ymarferol y gall ysgolion ar draws Cymru eu defnyddio i wella iechyd a lles dysgwyr TGD.
Rwy’n awyddus i weithio gyda phedair ysgol uwchradd ar draws Cymru i gynorthwyo â recriwtio staff a dysgwyr i gymryd rhan.
Os ydych chi’n gweithio, neu’n adnabod rhywun sy’n gweithio, mewn ysgol uwchradd yng Nghymru a allai gyfrannu at hyn, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych. Byddwn hefyd yn awyddus i siarad â phobl sy’n gweithio ym meysydd addysg ac iechyd (megis rolau addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, cydlynwyr ysgolion sy’n hyrwyddo iechyd a lles, a rolau iechyd cyhoeddus eraill sy’n ymwneud â lleoliadau addysg uwchradd).
Mae eich safbwyntiau a’ch profiadau yn hanfodol; gallant ddylanwadu’n uniongyrchol ar sut rydym ni’n deall yr heriau hyn a sut rydym ni’n adeiladu dulliau mwy cynhwysol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc TGD.
Diddordeb mewn cymryd rhan? Cysylltwch â mi schoolhealth_phd@cardiff.ac.uk
[1] TGD: Trawsryweddol a rhywedd-amrywiol. Defnyddir y term hwn i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni.
[2] Cisryweddol: Mae’n disgrifio pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni.
