
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad newydd, Health, wellbeing and school life of young carers in Wales: Findings from the School Health Research Network (SHRN).
Mae’r adroddiad yn ffurfio Cam Un o raglen ehangach tair cam i wella data a dealltwriaeth o ofalwyr ifanc yng Nghymru.
Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ymatebion gan dros 65,000 o bobl ifanc a gymerodd ran yn Arolygon Iechyd a Lles Disgyblion Ysgolion Uwchradd SHRN 2021 a 2023, gan gynnwys cwestiwn ynghylch a oeddent yn adnabod eu hunain fel gofalwr ifanc.
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan Ed Janes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Ed hefyd yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ym meysydd gofalwyr ifanc a mabwysiadu. Darparodd tîm SHRN fynediad at y data arolwg; fodd bynnag, nid oeddem yn rhan o’r dadansoddiad na’r gwaith o ysgrifennu’r adroddiad.
Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
- Nododd 18% o ddysgwyr eu bod yn ofalwyr ifanc, mwy nag 1 o bob 6.
- Roedd lefel y gofalu yn amrywio: roedd gan tua 9% rolau â rheoleidd-dra uchel, gyda grwpiau llai yn darparu gofal â rheoleidd-dra cymedrol neu isel.
- Roedd gan ofalwyr ifanc iechyd a lles cyffredinol ychydig yn waeth, gyda’r bylchau mwyaf i’w gweld mewn iechyd meddwl.
- Roedd cyfrifoldebau gofalu mwy yn gysylltiedig â heriau mwy o ran iechyd a lles.
- Dangosodd gofalwyr ifanc â rolau gofalu rheolaidd gryfderau cymdeithasol uwch hefyd, gan gynnwys aeddfedrwydd a chyfeillgarwch.

Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr SHRN:
“Ein nod yw darparu data cadarn o ansawdd uchel sy’n cefnogi sefydliadau i ddeall ac ymateb i anghenion pobl ifanc. Rydyn ni’n croesawu defnydd Llywodraeth Cymru o ddata arolwg SHRN yn y maes pwysig hwn, ac rydyn ni’n falch y gall y dystiolaeth gyfrannu at ddarlun cliriach a mwy manwl o anghenion gofalwyr ifanc yng Nghymru.”
Am ragor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cysylltwch â: CYP.RightsInEducation@llyw.cymru
