Cynllun Gwers Blwyddyn 9 gan ddefnyddio Data SHRN

Lawrlwytho’r adnoddau

You can download the full resource pack below:
Cynllun gwers a chynllun dysgu llawn.
Taflenni gwaith.
Cyflwyniad MS PowerPoint i’w ddefnyddio mewn gwers.
Cardiau cynorthwyol i’w defnyddio mewn gwersi.   

Trowch ddata SHRN Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) eich Ysgol yn wers fyw.

Mae ‘Byddwch yn Wyddonydd Data Lleol gan Ddefnyddio Data SHRN eich Ysgol’ yn wers Blwyddyn 9 barod i’w defnyddio lle mae dysgwyr yn gweithio gyda’u data SHRN eu hunain, gan nodi patrymau, gofyn cwestiynau a gwneud synnwyr o faterion go iawn.

Cyflym i’w defnyddio

✔️ Sleidiau, taflenni gwaith ac awgrymiadau wedi’u cynnwys

✔️ Nid oes angen profiad blaenorol yn ymdrin â data

✔️ Cwbl ddwyieithog

Yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud

Mae’r ffocws yn syml: sef helpu pobl ifanc i feddwl fel gwyddonwyr data. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu y bydd dysgwyr yn gwneud y canlynol:

  • Nodi patrymau mewn data go iawn
  • Egluro beth sy’n digwydd (gyda thystiolaeth)
  • Cwestiynu a dehongli canfyddiadau
  • Awgrymu camau gweithredu realistig

Mae’r wers hefyd yn cysylltu yn uniongyrchol â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn cefnogi’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, gan helpu ysgolion i gysylltu’r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â blaenoriaethau ehangach ynghylch lles, llais y disgybl a sgiliau digidol.

Dolenni cwricwlwm

Mae’r wers wedi’i llunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, gyda dolenni amlwg ar draws y meysydd canlynol:

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Iechyd a Lles
  • Cymhwysedd Digidol
  • Y Dyniaethau a Llythrennedd

Mae’n gweithio’n dda fel rhan o faes y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, amser tiwtor neu addysgu pwnc lle mae data a thystiolaeth eisoes yn rhan o’r sgwrs.

Adborth

Os byddwch chi’n defnyddio’r deunyddiau, hoffen ni glywed sut aeth pethau – beth weithiodd yn dda, beth wnaethoch chi ei addasu, a beth gafodd y dysgwyr ohono. Anfonwch e-bost at SHRN@cardiff.ac.uk.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ein blog

Mae data SHRN eisoes yn chwarae rhan allweddol mewn llawer o ysgolion – gan gefnogi’r gwaith o gynllunio gwelliannau a gwaith lles. Ond beth sy’n digwydd pan mae dysgwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r data hwnnw?  Darllenwch ein blog i weld y ffordd y mae’r dull hwn yn cael ei brofi mewn ystafelloedd dosbarth a sut gall gefnogi llythrennedd data a’r Cwricwlwm i Gymru a gwneud data SHRN yn fwy ystyrlon i ddysgwyr.