
Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn cael trafferth dod o hyd i ddata. Os rhywbeth, y gwrthwyneb sy’n wir. Yr her yw gwybod beth i’w wneud gydag ef mewn ymarfer ystafell ddosbarth.
Mae adroddiadau lefel ysgol y Rhwydwaith yn enghraifft dda o hyn. Maent yn cynnig darlun clir a dibynadwy iawn o’r hyn sy’n digwydd ar draws ysgol o ran iechyd a lles. Maent yn cael eu defnyddio mewn cynllunio, maent yn llywio trafodaethau ac, yn aml, maent wrth wraidd penderfyniadau ehangach. Ond nid ydynt bob amser yn gwneud eu ffordd i’r ystafell ddosbarth ei hun.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn archwilio beth sy’n digwydd pan fyddwch yn addasu hynny, rhyw fymryn. Yn hytrach nag ystyried bod data’r Rhwydwaith yn fater i uwch arweinwyr neu adroddiadau, beth sy’n digwydd os bydd dysgwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r data? Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â’r Cwricwlwm i Gymru, lle mae disgwyl i ddysgwyr ymhél â data go iawn, datblygu dealltwriaeth foesegol, a chysylltu dysgu ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Mae’r man cychwyn wedi bod yn fwriadol syml. Gan ddefnyddio adroddiad y Rhwydwaith ar yr ysgol, dewiswch ychydig o siartiau sy’n teimlo’n berthnasol, ac adeiladu un wers o’u cwmpas nhw. I athrawon, bwriedir i gynllun y wers fod yn barod i’w ddefnyddio, gan fynnu bach iawn o waith paratoi, gydag arweiniad clir ar ddewis data addas a chyflwyno’r sesiwn o fewn gwers arferol. Nid oes set ddata newydd, system newydd, na disgwyl bod athrawon yn ailgynllunio beth maen nhw eisoes yn ei wneud. Dim ond defnyddio beth sydd eisoes yno mewn ffordd fwy gweladwy fydd ei angen.
Yn ymarferol, mae’r wers yn creu gofod i ddysgwyr edrych ar ddata eu hysgol a gwneud synnwyr ohono mewn ffordd strwythuredig. Gofynnir iddynt sylwi ar beth sy’n sefyll allan, ystyried pam y gallai patrwm fodoli, ystyried beth nad yw’r data’n gallu ei ddweud wrthynt, ac awgrymu un cam gweithredu realistig y gallai ysgol ei gymryd. Mae’n addasiad bach, ond mae’n newid y dynamig. Mae hyn yn cefnogi dull ysgol gyfan, yn enwedig yn gysylltiedig ag iechyd a lles, trwy gysylltu dysgu’r ystafell ddosbarth â blaenoriaethau’r ysgol a’i chynllunio ar gyfer gwella. Mae’r dasg yn symud y tu hwnt i ddarllen siart, i feddwl sut gallai gwybodaeth gael ei defnyddio go iawn.
Un o’r pethau sydd wedi sefyll allan wrth weithio gydag ysgolion yw faint o wahaniaeth y mae’n ei wneud pan fydd y data’n lleol. Mae sgyrsiau’n tueddu i deimlo’n fwy cadarn. Yn aml, mae dysgwyr yn fwy parod i gyfrannu gan fod yr enghreifftiau’n gysylltiedig â’u hamgylchedd eu hunain yn hytrach na rhywbeth mwy haniaethol. Nid yw’n golygu bod y trafodaethau bob amser yn syml, ac mae angen ymdrin yn ofalus â rhai pynciau, ond mae’n creu ymdeimlad bod y gwaith yn gysylltiedig â rhywbeth real.
O safbwynt addysgu, mae cadw pethau’n hylaw wedi bod yn allweddol. Bwriedir i’r wers ddigwydd yn gyfforddus o fewn awr safonol, gyda strwythur clir nad yw’n dibynnu ar lawer o waith paratoi. Caiff athrawon gefnogaeth trwy gyfrwng canllawiau cam wrth gam, cwestiynau ysgogi, a sgaffaldio y gellir ei addasu i grwpiau cymysg eu gallu, felly mae’n wers ymarferol i’w chyflwyno ar draws cyd-destunau ystafelloedd dosbarth gwahanol. Y sgaffaldio sy’n gwneud llawer o’r gwaith caled, yn enwedig i grwpiau gallu cymysg. Yn hytrach na disgwyl i ddysgwyr dehongli data yn annibynnol, mae’n rhoi ffordd i mewn i’r dasg iddynt, sy’n teimlo’n gyflawnadwy ac yn gyson.
Bu’n ddiddorol gweld nad dehongli siartiau oedd pen draw’r dysgu. Gydag amser, dechreuodd dysgwyr gwestiynu beth roeddent yn edrych arno yn fwy. Dechreuant adnabod bod data’n dangos patrymau ar draws grwpiau yn hytrach nag unigolion, a bod ganddo ei gyfyngiadau bob amser. Mae’r ymwybyddiaeth hwnnw’n ddefnyddiol ynddo’i hun, yn enwedig mewn cyd-destun lle mae data ac ystadegau yn ymddangos mor fynych mewn bywyd bob dydd. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Cwricwlwm i Gymru ar feddwl yn feirniadol, ymholi moesegol a defnyddio data yn gyfrifol.
Yn aml, mae’n teimlo mai’r cam olaf yn y wers, sef pan fydd dysgwyr yn awgrymu cam gweithredu posibl, yw’r cam pwysicaf. Hyd yn oed pan fydd y syniadau’n fach, mae’n symud y dasg o arsylwi i gymhwyso. Hefyd, mae’n agor dolen, er yn fach, rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gwneud penderfyniadau ehangach yr ysgol. Nid yw’r cysylltiad hwnnw bob amser yn weladwy i ddysgwyr a dyma un ffordd o’i wneud rywfaint yn gliriach.
Ni fwriadwyd i’r ymagwedd hon fod yn ymyrraeth ar raddfa fawr. Mae’n ffordd gymharol syml o wneud defnydd gwell o rywbeth sydd eisoes ym meddiant ysgolion. Mewn ambell achos, mae wedi dechrau cyfrannu at feysydd eraill, fel amser tiwtor neu waith llais y disgybl, ond ni orfodwyd hynny. Mae wedi datblygu’n naturiol lle’r oedd yn teimlo’n ddefnyddiol.
Mae llawer o drafodaeth ar hyn o bryd am sgiliau data, cymhwysedd digidol, a thechnolegau newydd. Mae’r rheiny i gyd yn bwysig, ond mae rhywfaint o’r dysgu mwyaf gwerthfawr yn perthyn i lefel fwy sylfaenol. Gallu darllen gwybodaeth, ei chwestiynu a’i defnyddio’n ofalus sydd wrth wraidd popeth arall o hyd.
Mae data’r Rhwydwaith yn rhoi sylfaen gadarn i ysgolion at y diben hwnnw. Ond weithiau, mae angen ei ddwyn ychydig yn agosach at y man lle mae’r dysgu’n digwydd.
Hoffem ddiolch i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, am eu cefnogaeth a’u mewnwelediad wrth ddatblygu’r gwaith hwn.rdiff for their support and insight in developing this work.
