Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn Ysgolion Cynradd: 2022

Cynhelir ein Harolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr rhwng mis Medi 2022 ac Ebrill 2023. Mae rhai ysgolion wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn ein harolwg yn ystod ton yr Hydref (Medi-Rhagfyr 2022) ac ysgolion eraill yn ystod ton y Gwanwyn (Ionawr-Ebrill 2023).

Ar ôl ymgynghori ag athrawon, rhieni a phlant ar draws ysgolion yng Nghymru, rydym wedi teilwra fersiynau’r arolwg ar gyfer grwpiau blwyddyn. Tra bod disgyblion Blwyddyn 6 yn llenwi’r arolwg llawn, gofynnir fersiwn fyrrach o’r arolwg i grwpiau iau. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn agor yr arolwg cywir ar gyfer grŵp blwyddyn eich plentyn.

Diolch yn fawr,

Tîm Ehangu SHRN Cynradd.