
Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith
Yn y blog hwn, rwy’n defnyddio datblygiadau’r Rhwydwaith ac ymchwil ddiweddar yng Nghymru a’r Alban sy’n bwrw golwg ar sut gall ysgolion ddefnyddio’u data yn fwy ystyrlon. Beth wnaeth sefyll allan i mi yn yr astudiaeth oedd sut gall dangosfyrddau rhyngweithiol wneud tystiolaeth yn haws i staff weithio gyda hi, nid dim ond mewn egwyddor, ond yn realiti bywyd ysgol o ddydd i ddydd. Yn y blog hwn, rwy’n amlinellu’r canfyddiadau allweddol ac yn dangos sut mae dangosfwrdd ysgolion uwchradd y Rhwydwaith, sydd ar ddod, yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith hwn sy’n dod i’r amlwg.
Gofynnir i ysgolion ymgymryd â rôl gynyddol arwyddocaol wrth gefnogi iechyd a lles dysgwyr. Mae datblygiadau polisi diweddar yn gwneud hyn yn glir: mae’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol yn gosod disgwyliad statudol ar ysgolion i ddeall anghenion eu dysgwyr, gweithredu ar yr anghenion a monitro cynnydd dros gyfnod. Ar yr un pryd, mae Cwricwlwm i Gymru yn gwreiddio lles yn ddiben craidd, gan ofyn bod ysgolion yn dylunio dysgu sy’n cefnogi unigolion iach a hyderus. Ochr yn ochr â hyn, mae amrywiaeth o fframweithiau a chanllawiau cenedlaethol bellach yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio data o ansawdd uchel i ddeall angen lleol, targedu cymorth a darparu tystiolaeth o welliant.
Er bod polisïau diweddar yn gosod mwy o ddisgwyliadau ar ysgolion i fabwysiadu ymagwedd seiliedig ar ddata at les dysgwyr, saif hyn ochr yn ochr â’r holl waith maen nhw eisoes yn ei wneud o ddydd i ddydd. Y gwir yw bod ysgolion yn aml yn wynebu amserlenni prysur, blaenoriaethau sy’n cystadlu a lefel gynyddol o wybodaeth i’w dehongli. Yn y cyd-destun hwn, nid yw nodi ble i ganolbwyntio egni na pha feysydd sydd angen sylw gyntaf yn syml.
Mae astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr o’r Alban a Chymru yn amlygu rhywbeth sy’n gwneud y gwaith gymaint yn haws: dangosfyrddau data rhyngweithiol. Mae’r offer hyn yn rhoi ffordd syml a gweladwy i ysgolion archwilio’u data eu hunain a gwneud penderfyniadau ar sail beth sy’n digwydd mewn gwirionedd yn eu hystafelloedd dosbarth a’u cymunedau. Darganfu’r astudiaeth fod dangosfyrddau’n helpu staff i brosesu gwybodaeth yn gynt ac yn cefnogi trafodaethau wedi’u llywio gan dystiolaeth ar draws amrywiaeth o rolau ysgol. Yr hyn a’m tarodd i yn yr astudiaeth oedd pa mor gyson roedd staff yn disgrifio dangosfyrddau fel rhywbeth a oedd yn gwneud data yn ‘ddefnyddiadwy’ yn hytrach na dim ond ‘bod ar gael’.
Pam Mae Dangosfyrddau’n Bwysig i Ysgolion
Darganfu’r astudiaeth fod athrawon, staff awdurdodau lleol a hyd yn oed dysgwyr o’r farn bod dangosfyrddau yn:
- Hawdd eu dehongli, gan leihau dibyniaeth ar adroddiadau maith neu daenlenni cymhleth.
- Defnyddiol ar gyfer cynllunio, gan helpu ysgolion i nodi blaenoriaethau ar gyfer cynlluniau gweithredu ar iechyd a lles.
- Defnyddiol ar gyfer sgyrsiau gyda staff, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr.
- Cefnogi dysgu trawsgwricwlaidd, yn enwedig mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles.
- Pont rhwng bywyd cartref a bywyd ysgol gan fod teuluoedd yn gallu meddu ar fwy o ddealltwriaeth o brofiad plant a phobl ifanc.
Mae’r astudiaeth yn cofnodi’n benodol fod dangosfyrddau’n hybu “prosesu gwybodaeth yn gyflym a gwneud penderfyniadau yn effeithiol”, sy’n cryfhau’r buddion hyn. Hynny yw, mae dangosfyrddau’n trawsnewid data craidd yn fewnwelediadau clir, y mae’n bosibl gweithredu arnynt. Maen nhw’n caniatáu i staff nodi tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn gyflym, amlygu meysydd o bryder, ac adnabod cryfderau ar draws cymuned yr ysgol. Trwy droi gwybodaeth sy’n aml yn ddwys, yn ddelweddau syml, mae dangosfyrddau’n helpu athrawon i weld pethau y gallent fel arall eu colli mewn adroddiadau hir. Oherwydd hyn, mae dadansoddi’n teimlo’n hylaw, nid yn llethol, sy’n gryfder allweddol yn ôl yr astudiaeth.
Trwy gyflwyno gwybodaeth yn weledol, maent yn ategu gwneud penderfyniadau wedi’u llywio gan dystiolaeth yn fwy hyderus ymhlith arweinwyr ac athrawon ysgol.
Hefyd, mae’r astudiaeth yn pwysleisio bod rhaid i anghenion ysgol yrru dyluniad dangosfyrddau. Mae’r Rhwydwaith mewn sefyllfa unigryw i wneud hyn oherwydd ei fodel partneriaeth hirdymor gydag ysgolion ar draws Cymru.
Ar ddod cyn hir: Dangosfwrdd Lefel Uwchradd y Rhwydwaith

Mae dangosfwrdd digidol ysgolion uwchradd newydd y Rhwydwaith yn lansio ddiwedd 2026. Bydd yr holl ysgolion uwchradd sy’n aelod o’r rhwydwaith yn cael mynediad i’r dangosfwrdd data newydd hwn, a fydd yn rhoi’r modd i ysgolion archwilio eu data eu hunain ar iechyd a lles, dros sawl cylch arolwg. Dim ond data crynswth lefel ysgol fydd yn cael ei ddarparu, yn unol ag arferion adrodd presennol y Rhwydwaith, gyda phob ysgol yn cael mynediad i’w data eu hunain yn unig.
Bydd y dangosfwrdd hwn, sy’n cael ei adeiladu fel rhan o raglen barhaus y Rhwydwaith i wella mynediad ysgolion at ddata, yn caniatáu i ysgolion graffu ar eu canlyniadau yn fwy hyblyg a rhyngweithiol nag adroddiadau copi caled traddodiadol. Bydd ysgolion yn gallu gweld canlyniadau anhysbys fesul grŵp blwyddyn a rhywedd, gan ei gwneud hi’n haws iddynt ddehongli patrymau a chynllunio gweithredu targedig.
Beth Fydd y Dangosfwrdd yn Galluogi Ysgolion i’w Wneud
Ar ôl ei lansio, bydd y dangosfwrdd yn caniatáu i ysgolion uwchradd:
- Ddilyn trywydd tueddiadau lles dros gyfnod, gan ddefnyddio data ailadroddol arolwg y Rhwydwaith.
- Nodi materion sy’n dod i’r amlwg yn gynnar, trwy archwilio dangosyddion penodol i bwnc fesul rhywedd a grŵp blwyddyn
- Cymharu eu canlyniadau lefel ysgol â phatrymau cenedlaethol
- Cynnwys dysgwyr mewn sgyrsiau ystyrlon, wedi’u llywio gan ddata, am eu profiadau ac amgylchedd yr ysgol, gan gefnogi ymagwedd ysgol gyfan at wella iechyd a lles.
- Galluogi Cydlynwyr WNHWPS i weithio’n rhagweithiol gydag ysgolion, gan ddefnyddio data hygyrch, lefel ysgol, i lywio sgyrsiau, nodi blaenoriaethau a chefnogi cynllunio targedig ar gyfer gwella.
Mae’r dulliau defnyddio hyn yn mapio’n agos at botensial dangosfyrddau, yn ôl yr astudiaeth, yn enwedig eu defnydd mewn cynllunio, ymgysylltu â disgyblion a chydweithredu traws sector.
Beth Ddywedodd Ysgolion Wrth Ymchwilwyr
Dywedodd athrawon a staff awdurdodau lleol y gallai dangosfyrddau eu helpu i:
- Bennu bod lles yn gyfrifoldeb ysgol gyfan gyffredin, yn hytrach nag yn dasg i un aelod staff.
- Cryfhau partneriaethau ar draws y sectorau addysg, iechyd a chymunedol.
- Cynnwys dysgwyr a llais y disgybl mewn penderfyniadau mewn ffyrdd mwy ystyrlon.
Yn ddiddorol, roedd dysgwyr yn hoffi’r ffordd yr oedd dangosfyrddau’n gwneud lles yn “weladwy” ac yn “real”. Roeddent yn teimlo ei bod yn eu helpu i ddeall sut roedd eu profiadau nhw yn cyd-fynd â phatrymau ehangach. Mae hyn yn adleisio canfyddiad yr arolwg, sef bod dangosfyrddau’n gallu cefnogi galluogedd myfyrwyr trwy wneud data yn fwy hygyrch.
Pam Mae Hyn yn Bwysig Nawr
Gyda lles wedi’i wreiddio’n elfen ganolog o gwricwlwm Cymru, mae ar ysgolion angen offer ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n cefnogi gweithredu heb gynyddu baich gweinyddol. Mae dangosfyrddau rhyngweithiol yn cynnig ffordd effeithlon, hawdd ei defnyddio, i fodloni’r disgwyliadau hyn gan leihau baich gwaith ar yr un pryd.
Ar gyfer ysgolion sy’n aelodau o’r Rhwydwaith, mae’n bosibl mai dyma’r cam mawr nesaf: troi data’r arolwg yn rhywbeth rhyngweithiol, wedi’i deilwra, sy’n ddefnyddiol ar unwaith. Mae’r astudiaeth yn pwysleisio bod dangosfyrddau nid yn unig yn offer data, maent hefyd yn gatalyddion ymagweddau mwy cydgysylltiedig a chydweithredol at les ar draws systemau ysgol. Felly, nid yn unig y mae dangosyddion yn ateb technolegol, maent yn ateb strategol.
Gair i Gloi
Fel y mae’r astudiaeth yn ei amlygu, mae gwerth dangosfyrddau rhyngweithiol nid yn unig yn eu swyddogaethau technegol, mae hefyd yn eu gallu i alluogi ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r Rhwydwaith, â’i bartneriaethau hen-sefydledig a’i set ddata gynhwysfawr, mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu dangosfyrddau sy’n darparu cymorth ymarferol ystyrlon i athrawon, dysgwyr a theuluoedd. Os gall ysgolion weld eu data lles eu hunain yn glir, maent mewn sefyllfa gymaint cryfach i wneud penderfyniadau gwybodus ac, yn y pen draw, creu amgylcheddau lle gall pobl ifanc ffynnu.
Cofrestrwch ar gyfer e-newyddion y Rhwydwaith i gadw i fyny â’n cynnydd, gan gynnwys diweddariadau i ddod am ddangosfwrdd y Rhwydwaith a gwaith sy’n mynd rhagddo gyda dangosfwrdd data’r Rhwydwaith, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
