Categorïau
Blog

Myfyrdodau ar Gynnwys Ymglymiad gan y Cyhoedd mewn Cais am Gymrodoriaeth – Gwersi o Ysgolion Uwchradd Cymru

Yn haf 2025, ymwelais â chwe ysgol uwchradd ym mhob rhan o Gymru i archwilio barn pobl ifanc am gysylltedd â’r ysgol fel rhan o waith datblygu cais am gymrodoriaeth ôl-ddoethur. Cymerodd dros 100 o ddisgyblion Blynyddoedd 7–12 ran mewn sesiynau trafod. A minnau’n ymchwilydd gyrfa gynnar, dyma oedd y tro cyntaf i mi gynnwys ymglymiad gan y cyhoedd mewn cais am gyllid a dysgais lawer ar y daith. Dyma ychydig fyfyrdodau fydd, gobeithio, yn helpu eraill sy’n dechrau arni…

Gall fod angen cyllid arnoch cyn y gallwch wneud cais am gyllid

Dechreuais i gyda sgyrsiau ar-lein gydag ymarferwyr sy’n gweithio mewn ysgolion a chydag ysgolion i helpu llunio syniadau cychwynnol fy ymchwil. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn ac fe wnaeth fy ngalluogi i i gyfyngu cwmpas fy mhrosiect arfaethedig. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg yn eithaf cyflym bod angen i mi glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc mewn ysgolion. I wneud hynny’n gywir, roedd angen cyllid arna’ i, o leiaf i dalu fy nghostau teithio ac, yn ddelfrydol, i gynnig rhywbeth i’r ysgolion am gefnogi’r gwaith.


Yn ffodus, roeddwn i’n gallu gwneud cais am grant bach trwy raglen diwylliant ymchwil Ignite Prifysgol Caerdydd, a ddyfarnodd £2,000 i mi. Hebddo, byddwn i wedi chwilio am gyllid sbarduno gan sefydliadau fel Rhwydwaith Gyrfa Gynnar yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn aml hefyd, mae rhywfaint bach o arian ar gael gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer gwaith ymglymiad y cyhoedd.

Mae cael at gyfranogwyr yn mynnu creadigrwydd a chysylltiadau

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) oedd fy ngham cyntaf tuag at gymorth a chyngor. Mae rhwydwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cynnwys pob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru ac fe helpon nhw fi i gysylltu ag ysgolion a oedd yn barod i gymryd rhan. Cynigiais £100 i bob ysgol i gefnogi’r ymweliad a thalu unrhyw gostau staff/costau eraill. Hefyd, roedd recriwtio’n haws gan fod y pwnc yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau ysgolion o ran cysylltedd â’r ysgol a llais y disgybl.

Roedd gweithio gydag ysgolion yn fuddiol tu hwnt ond roedd yn mynnu hyblygrwydd, hefyd. Roedd ar rai ysgolion angen mwy o amser i feddwl nag eraill. Roedd meithrin perthynas a bod yn glir am y gofynion wedi helpu’n fawr. Hefyd, ystyriwch pryd byddwch yn cynnwys y cyhoedd yn ofalus – roeddwn i am siarad â myfyrwyr blynyddoedd 7-9 yn bennaf, a weithiodd yn dda yn ystod tymor yr haf, ond byddai siarad â myfyrwyr blwyddyn 11, a oedd yn sefyll arholiadau neu a oedd eisoes wedi gadael yr ysgol, wedi bod yn anodd.

Mae’n bwysig ystyried sut gallwch chi wneud eich sesiynau yn gynhwysol ac yn hygyrch. Sicrhewch fod gweithgareddau’n briodol i oedran a meddyliwch sut byddwch chi’n annog myfyrwyr sy’n fwy tawedog neu’n llai hyderus i gyfrannu – efallai trwy roi cyfleoedd i roi sylw ar nodiadau post-it yn ogystal ag ar lafar. Os ydych chi’n gweithio gyda grwpiau amrywiol neu trwy sefydliadau partner, neilltuwch gyllid nid yn unig i dalu cyfranogwyr, ond hefyd am wasanaethau cyfieithu a ffioedd sy’n helpu i dalu am amser staff a chostau cymorth eraill. Yn aml, mae’r rhain yn hanfodol ar gyfer gwneud cynnwys y cyhoedd yn wirioneddol gynhwysol a phosibl i’r rhai rydych chi’n gofyn iddynt gymryd rhan.

Er nad oes angen cymeradwyaeth foesegol yn nodweddiadol ar gyfer gweithgareddau cynnwys y cyhoedd, mae’n hanfodol bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal yn foesegol. Wrth gynllunio’ch ymglymiad, dylech ystyried yn ofalus faterion fel cydsyniad gwybodus, diogelu a chyfrinachedd. Ceisiwch gyngor os nad ydych chi’n siŵr.

Hefyd, cynhaliais i sesiynau ar-lein gyda grwpiau cynghori ieuenctid o’r Rhwydwaith Maethu a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol. Os ydych chi’n gweithio mewn maes penodol, mae’n werth estyn allan i sefydliadau trydydd sector i weld a oes ganddynt eisoes grwpiau ymglymiad y cyhoedd y gallech fanteisio arnynt. Talais i £25 i bob cyfranogwr am awr o’u hamser.

Dechreuwch yn gynnar… mae’n cymryd mwy o amser nag y byddwch chi’n ei feddwl!

Dechreuais i ysgrifennu’r cais ymglymiad y cyhoedd ym mis Ionawr, ei gyflwyno ym mis Chwefror, clywed yn ôl ym mis Mawrth, recriwtio ysgolion ym mis Ebrill/Mai a chynnal sesiynau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf. Cyflwynwyd y cais terfynol am gymrodoriaeth ym mis Medi. Dyna gyfnod arwain o naw mis. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gynnwys amser ar gyfer mwy nag un sesiwn gyda’r un grŵp wrth i’ch syniadau ddatblygu.

Gofynnwch gwestiynau sy’n helpu i lywio’ch cais

Nid yw bob amser yn amlwg beth i’w ofyn mewn sesiynau ymglymiad y cyhoedd, yn enwedig ar y cychwyn pan fyddwch chi o hyd yn llunio’ch syniadau. Roedd neilltuo amser rhwng yr ymweliadau ag ysgolion yn ddefnyddiol i mi fel y gallwn fyfyrio a newid fy ffocws wrth i fy nghais ddatblygu.

Yn fy nghais am gymrodoriaeth, defnyddiais i’r adborth gan bobl ifanc i gyfiawnhau penderfyniadau allweddol, fel pam y dewisais i grŵp oedran penodol, ddull penodol, neu amseriad casglu’r data. Er enghraifft, un cipolwg allweddol o’r sesiynau oedd pa mor wahanol yr oedd pobl ifanc yn teimlo am gysylltedd â’r ysgol wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol. O ganlyniad i hyn, newidiais i amrediad yr oedrannau roeddwn i’n canolbwyntio arnynt yn y cais terfynol. Meddyliwch am y cwestiynau y bydd angen i chi eu hateb yn ystod eich cais am gyllid neu’ch cyfweliad, a gweithiwch am yn ôl i sicrhau eich bod yn gofyn i gyfranogwyr am gyfraniad ynghylch y meysydd hynny – a’ch bod chi’n gwrando arnynt.

Ac yn olaf… ysgrifennwch y cais!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio beth ddysgoch chi a’ch bod yn ysgrifennu’r cynnig. Mae rhoi gwybod i gyfranogwyr sut gwnaeth eu cyfraniad lywio’ch cais, a ph’un a oedd yn llwyddiannus, yn arfer da. Lluniais i adroddiad byr a rannwyd gyda’r ysgolion a gymerodd ran.

Os gallwn roi un gair o gyngor, dyma fe: dechreuwch yn gynnar a pheidiwch â bod ofn gofyn am help. Mae llawer i’w ddysgu o gynnwys y cyhoedd, ond mae’n werth yr ymdrech, heb os!