Recriwtio ysgolion

Recriwtio ar waith i gael ysgolion uwchradd ac ysgolion canol i ymuno â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yw’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n dod ag ysgolion uwchradd, ymchwilwyr, llunwyr polisi, ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd i wella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cydweithio’n agos â Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach, a rhanddeiliaid eraill ym meysydd iechyd ac addysg.

Mae ysgolion sy’n ymuno â’r Rhwydwaith yn cael cyfle i gael Adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr unigol bob dwy flynedd, sy’n darparu data ar y pynciau iechyd emosiynol a chorfforol allweddol canlynol:

  • Bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol
  • Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol
  • Ysmygu a’r defnydd o alcohol
  • Y defnydd o sylweddau ac addysg rhyw a chydberthynas

Mae’r ysgolion sy’n aelodau ar hyn o bryd wedi amlygu gwerth y data hwn ar gyfer:

  • Hunanasesu lles
  • Cynllunio a chyfoethogi’r cwricwlwm a hwyluso mentrau ysgolion iach
  • Ymgysylltu aelodau o’r gymuned ysgol ag anghenion iechyd eu dysgwyr.

Llyfryn ysgolion

Adroddiad enghreifftiol – Ysgol Owain Glyndwr 2016

Cais rhwydwaith