Categorïau
Blog

Sut Gall Ysgolion Uwchradd Lywio Iechyd a Lles i Bobl Ifanc Drawsryweddol a Rhywedd-Amrywiol: Defnyddio Data’r Rhwydwaith

Yn y blog hwn, mae’r myfyriwr PhD, Sophie Borgia, sydd wedi’i lleoli yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd, yn esbonio sut mae ei hymchwil yn datgelu anghydraddoldebau iechyd a lles gan ddefnyddio data’r Rhwydwaith, a sut y bydd hi’n archwilio beth gall ysgolion ei wneud i gefnogi dysgwyr trawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn well mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru.


Helo, Sophie Borgia ydw i, myfyriwr PhD yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd. Rwy’n defnyddio data Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i archwilio’r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn cael profiad ohonynt yng Nghymru. Mae fy astudiaeth hefyd yn bwrw golwg ar sut mae polisïau, arferion ac amgylcheddau cyffredin ysgolion yn llywio’r deilliannau hyn. I wneud hyn, rwy’n cyfuno dadansoddiadau ansoddol ar raddfa fawr gydag ymchwil ansoddol sy’n cynnwys staff ysgol, dysgwyr TGD a gwneuthurwyr penderfyniadau‑ymarferwyr.

Pam mae’r Ymchwil hon yn bwysig

Gall pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol[1] (TGD) wynebu anghydraddoldebau iechyd o gymharu â chyfoedion cisryweddol[2]. Tra bod gwahaniaethau mewn iechyd meddwl wedi’u cofnodi’n helaeth, mae llawer llai yn hysbys am ddeiliannau iechyd eraill, fel gweithgarwch corfforol, defnyddio sylweddau a bwyta’n iach, a’r rôl mae ysgolion yn ei chwarae yn llywio’r rhain. Mae fy ymchwil yn dechrau mynd i’r afael â’r bylchau hyn gan ddefnyddio data 2021 y Rhwydwaith i archwilio anghydraddoldebau posibl ar draws amrediad ehangach o ddeilliannau iechyd a lles. Mae hefyd yn archwilio sut mae cyd-destunau ysgolion uwchradd yn dylanwadu ar y deilliannau hyn. Nod fy ngwaith yw darparu tystiolaeth a all helpu ysgolion i greu amgylcheddau mwy cynhwysol a chefnogol.

Beth mae tystiolaeth yn ei ddweud wrthym

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ifanc drawsryweddol a rhywedd-amrywiol (TGD) yn profi iechyd meddwl gwaeth o lawer na phobl ifanc cisryweddol (Wittlin, Kuper & Olson 2023White et al. 2023White, Trinh & Reynolds 2023). Hefyd, mae ymchwil sy’n awgrymu bod profiad pobl ifanc TGD yn yr ysgol yn gysylltiedig â’u hiechyd meddwl (Horton 2023Kelley et al. 2022Johns et al. 2021).  

Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil sy’n archwilio p’un a yw pobl ifanc TGD yn profi anghydraddoldebau mewn deilliannau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles, a sut mae ysgolion yn dylanwadu ar y rhain. 

Defnyddio Data’r Rhwydwaith ar gyfer Mewnwelediadau Newydd  

Gan adeiladu ar y dystiolaeth hon, mae fy astudiaeth PhD yn defnyddio data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith i archwilio anghydraddoldebau cysylltiedig ag iechyd y mae pobl ifanc TGD yn cael profiad ohonynt. Rwy’n archwilio p’un a yw’r anghydraddoldebau hyn yn mynd y tu hwnt i iechyd meddwl, i feysydd fel gweithgarwch corfforol, defnyddio sylweddau a bwyta’n iach. Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn archwilio sut mae polisïau ac arferion ysgolion uwchradd yn dylanwadu ar iechyd dysgwyr TGD trwy siarad â staff ysgol, pobl ifanc TGD, ac ymarferwyr sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg. Y nod yw cynhyrchu tystiolaeth a all helpu ysgolion i greu amgylcheddau mwy cynhwysol a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gyda’i gilydd, bydd hyn yn helpu i adeiladu darlun llawnach o ble mae anghydraddoldebau yn bodoli a pham.

Gall fod yn heriol i ymchwilwyr ddeall p’un a yw pobl ifanc TGD yn profi gwahaniaethau mewn deilliannau cysylltiedig ag iechyd o gymharu â’u cyfoedion cisryweddol. Un rheswm yw bod astudiaethau’n aml yn cael trafferth recriwtio sampl digon mawr ac amrywiol o bobl ifanc â hunaniaethau rhywedd gwahanol.

Dyma ble mae data’r Rhwydwaith yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal arolwg o filoedd o bobl ifanc ar draws Cymru bob dwy flynedd ac mae’n gofyn cwestiynau am amrediad eang o ddeilliannau iechyd a lles. Hefyd, gall pobl ifanc ddewis rhannu eu hunaniaeth rhywedd, sy’n golygu bod data’r Rhwydwaith yn darparu cyfle unigryw i astudio gwahaniaethau mewn deilliannau cysylltiedig ag iechyd rhwng grwpiau hunaniaeth rhywedd.

Mae fy PhD yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol:

  • Iechyd meddwl
  • Lles
  • Defnyddio sylweddau
  • Gweithgarwch corfforol
  • Bwyta’n iach

Trwy ddefnyddio data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2021 y Rhwydwaith, rwy’ wedi gallu cymharu’r deilliannau hyn ar draws pobl ifanc sydd â hunaniaethau rhywedd gwahanol.

Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod pobl ifanc TGD yn adrodd am lai o weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl a lles gwaeth o gymharu â chyfoedion cisryweddol. Rwy’n parhau â’r dadansoddiad a byddaf yn rhannu canlyniadau manwl mewn papur ymchwil sydd ar ddod.

Sut gall ysgolion uwchradd gymryd rhan

Mae’r patrymau hyn yn codi cwestiynau pwysig: Sut mae amgylcheddau ysgolion yn dylanwadu ar ymddygiadau a deilliannau iechyd? A beth gall ysgolion ei wneud – yn ymarferol ac yn gynaliadwy – i gefnogi iechyd a lles dysgwyr TGD?

I ateb y rhain, rwy’n gwahodd ysgolion uwchradd a gweithwyr iechyd ac addysg i gymryd rhan yn y cam nesaf o fy PhD. Byddaf yn gweithio gyda phedair ysgol uwchradd ar draws Cymru i recriwtio staff a dysgwyr.

Bydd fy ymchwil yn defnyddio:

  • Grwpiau ffocws gyda staff ysgol (gan gynnwys uwch rolau arwain, rolau addysgu a rolau bugeiliol)
  • Grwpiau ffocws creadigol gyda phobl ifanc trawsryweddol, anneuaidd a rhywedd-amrywiol
  • Cyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes addysg ac iechyd (e.e. rolau addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, cydlynwyr ysgolion sy’n hyrwyddo iechyd a lles, a rolau iechyd cyhoeddus eraill sy’n gysylltiedig â lleoliadau addysg uwchradd).

Y nod yw darparu mewnwelediadau ymarferol i staff ysgol a llunwyr polisi i greu amgylcheddau ysgol mwy cynhwysol a chefnogol i ddysgwyr TGD, ac i nodi beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei newid.

Edrych tua’r dyfodol: Sut gall ysgolion wneud gwahaniaeth

Mae data 2021 y Rhwydwaith wedi rhoi darlun cliriach i ni o’r heriau iechyd a lles sy’n cael eu hwynebu gan bobl ifanc TGD. Nesaf, byddaf i’n archwilio sut mae polisïau ysgol ac arferion dydd i ddydd yn cyfrannu at y deilliannau hyn, a pha ddulliau cynhwysol all wneud gwahaniaeth mesuradwy. Mae pobl ifanc TGD yn haeddu amgylcheddau ysgol lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel, yn cael eu gweld ac yn cael eu cefnogi, a gall eich mewnwelediadau wir helpu i wireddu hynny.

Mae cam nesaf fy PhD yn dibynnu ar brofiad bywyd ac arbenigedd proffesiynol pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn addysg uwchradd ac iechyd. Trwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i lywio argymhellion realistig, ymarferol y gall ysgolion ar draws Cymru eu defnyddio i wella iechyd a lles dysgwyr TGD.

Rwy’n awyddus i weithio gyda phedair ysgol uwchradd ar draws Cymru i gynorthwyo â recriwtio staff a dysgwyr i gymryd rhan.   

Os ydych chi’n gweithio, neu’n adnabod rhywun sy’n gweithio, mewn ysgol uwchradd yng Nghymru a allai gyfrannu at hyn, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych. Byddwn hefyd yn awyddus i siarad â phobl sy’n gweithio ym meysydd addysg ac iechyd (megis rolau addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, cydlynwyr ysgolion sy’n hyrwyddo iechyd a lles, a rolau iechyd cyhoeddus eraill sy’n ymwneud â lleoliadau addysg uwchradd).

Mae eich safbwyntiau a’ch profiadau yn hanfodol; gallant ddylanwadu’n uniongyrchol ar sut rydym ni’n deall yr heriau hyn a sut rydym ni’n adeiladu dulliau mwy cynhwysol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc TGD.

Diddordeb mewn cymryd rhan? Cysylltwch â mi schoolhealth_phd@cardiff.ac.uk


[1] TGD: Trawsryweddol a rhywedd-amrywiol. Defnyddir y term hwn i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni. 

[2] Cisryweddol: Mae’n disgrifio pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni.