Categorïau
Blog

Sut gwnaeth Data’r Rhwydwaith am Ein Hysgol Wella Arferion Cysgu Ein Dysgwyr: Safbwynt Athro  

Yn Ysgol Aberconwy, mae ein hymrwymiad i ddatblygiad cyfannol ein dysgwyr – yn academaidd, yn emosiynol ac yn gorfforol – bob amser wedi bod wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae gweithio gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) wedi’n helpu ni i gynhyrchu data cadarn, y gallwn weithredu arno, sydd wedi caniatáu i ni ddeall iechyd a lles ein dysgwyr yn llawn. Gyda’r wybodaeth werthfawr hon, roeddem wedi gallu nodi problemau penodol a chymryd camau targedig, effeithiol i wella iechyd a lles ein dysgwyr. 

Un o agweddau mwyaf buddiol ein menter gwsg fu clywed straeon personol ein dysgwyr.  

James, Blwyddyn 10:

“Cyn y fenter gwsg, roeddwn i’n arfer cael trafferth mynd i gysgu ac roeddwn i’n teimlo’n flinedig yn ystod y dydd, yn aml. Ar ôl dysgu am bwysigrwydd cwsg a gosodiadau ac apiau hidlo golau glas ar fy ffôn a fy llechen, rwy wedi sylwi ar wahaniaeth enfawr. Rwy’n mynd i gysgu’n gynt ac yn dihuno’n teimlo’n fwy effro. Rwy’n canolbwyntio’n well yn y dosbarth ac yn teimlo’n fwy egnïol drwy’r dydd.”

Sophie, Blwyddyn 8:

“Roedd y rheol ‘Dim technoleg ar ôl 9pm’ yn anodd i ddechrau, ond fe wnaeth fy helpu i’n fawr. Roeddwn i’n arfer aros i fyny’n hwyr ar fy ffôn, ond nawr rwy’n darllen llyfr cyn mynd i’r gwely yn lle hynny. Rwy’n cysgu’n well ac mae gen i fwy o ffocws yn yr ysgol. Mae fy ngraddau wedi gwella ac rwy’n teimlo’n hapusach, ar y cyfan..”

Liam, Blwyddyn 11:

“Mae cadw at drefn cysgu gyson wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi. Rwy’n mynd i’r gwely ac yn dihuno’r un amser bob dydd, hyd yn oed ar y penwythnos. Mae’r arfer hon wedi fy helpu i deimlo’n fwy effro a theimlo llai o straen. Rwy’n gallu canolbwyntio’n well yn y dosbarth ac mae gen i fwy o egni ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol.”

Emily, Blwyddyn 9

“Mae defnyddio larwm codiad yr haul wedi trawsnewid popeth i fi. Mae’n fy nihuno i’n araf gyda golau ac rwy’n teimlo’n fwy effro a pharod i ddechrau’r diwrnod. Rwy’n sylwi fy mod i’n canolbwyntio’n well mewn gwersi ac yn llai pigog. Mae’n anhygoel cymaint yn well rwy’n teimlo wrth gysgu’n dda.”

Mae’r tystebau personol hyn yn amlygu effaith go iawn ein hymdrechion ac maen nhw’n ein symbylu i barhau â’n gwaith. 


Strategaethau Effeithiol: Sut Gwnaethom Ni Fynd i’r Afael â Heriau Cwsg Dysgwyr

I fynd i’r afael â’r heriau cwsg a nodom drwy ddata’r Rhwydwaith am yr ysgol, rhoesom nifer o strategaethau ar waith. Fe wnaethom addysgu dysgwyr am rythmau beunyddiol (patrwm mae’r corff dynol yn ei ddilyn sy’n seiliedig ar gloc 24 awr naturiol a mewnol) a’u hannog i ddefnyddio offer fel gosodiadau hidlo golau glas a larymau codiad yr haul. Mae’r rhain yn helpu i reoleiddio patrymau cwsg trwy leihau amlygiad i olau glas ac ysgogi heulwen naturiol yn y bore.  

Hefyd, datblygom sloganau ac ymgyrchoedd gweledol i gadw cwsg ar flaen meddyliau pawb. Er enghraifft, fe wnaeth grŵp iACh dan arweiniad dysgwyr (dysgwyr sy’n ymwneud â datblygu a chyflwyno amrywiol fentrau iechyd a lles) greu cefndiroedd awtomatig bwrdd gwaith i holl gyfrifiaduron y staff a dysgwyr. Fe wnaeth y rhain gynnwys sloganau bachog, sy’n gwneud i chi feddwl, fel “Y traean hwn o’r diwrnod fydd yn cael yr effaith fwyaf ar weddill y diwrnod” i ddeall effaith cwsg ar iechyd a lles dysgwyr. 

Yn ogystal, roedd gan Huw Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy y Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) ran hanfodol wrth ein helpu i ymhél â’n data gan y Rhwydwaith. O ganlyniad i hyn, nodom fod cwsg yn faes blaenoriaeth ac fe gynorthwyodd ni i archwilio amrywiaeth o strategaethau gweithredu. 

Goresgyn Rhwystrau: Troi Her yn Gyfranogiad Gweithgar 

Nid oedd gweithredu’r mentrau hyn heb ei heriau. I ddechrau, roedd rhai dysgwyr yn amharod i newid eu harferion, yn enwedig o ran lleihau amser o flaen sgrin. I fynd i’r afael â hyn, fe wnaethom eu cynnwys yn y data a’r drafodaeth, gan eu helpu i ddeall pwysigrwydd cwsg ac a’u hannog i gymryd rhan yn weithgar yn y mentrau. 

Effaith Dreigl: Buddion Ehangach Cwsg Gwell i Iechyd a Lles  

Mae gwell cwsg wedi cael effaith dreigl ar agweddau eraill ar fywyd ein dysgwyr. Yn ôl athrawon, mae ffocws ac ymgysylltu yn y dosbarth yn well, gydag un athro’n datgan “Ers i’n myfyrwyr wella’u harferion cysgu, rydym ni wedi gweld hwb amlwg yn eu ffocws, eu cyfranogiad a’u diddordeb cyffredinol mewn gwersi. Maen nhw’n fwy effro, dan lai o straen ac mae fel petaent yn mynd ati i ddysgu gydag agwedd fwy cadarnhaol. Mae cysgu gwell wedi gwella’u lles emosiynol hefyd, gan eu helpu i fod yn bwyllog dan bwysau a dangos mwy o gymhelliad. Ar y cyfan, maen nhw’n iachach, yn fwy cytbwys, ac yn barod i lwyddo yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt. Mae’n amlwg bod cwsg yn chwarae rôl hanfodol yn eu hiechyd a’u lles ac yn eu llwyddiant academaidd.” 

Mae’r buddion cyfannol hyn yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â chwsg fel elfen allweddol o iechyd a lles dysgwyr. 

Edrych tua’r dyfodol: Cynlluniau yn y dyfodol i wella iechyd a lles dysgwyr  

Wrth edrych tua’r dyfodol, edrychwn ymlaen at barhau i ddefnyddio ein data gan y Rhwydwaith i lywio ein penderfyniad ar sut gallwn wella iechyd a lles ein dysgwyr ymhellach. Bwriadwn archwilio agweddau eraill ar iechyd a lles, fel maeth a gweithgarwch corfforol, a gweithredu mentrau targedig seiliedig ar ein cipolygon data. 

Gwaith Tîm ar ei Orau: Sut gwnaeth cydweithredu bweru ein llwyddiant  

Ni fyddai ein llwyddiant wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid allanol, gan gynnwys sefydliadau iechyd lleol a Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), a sefydliadau trydydd sector fel The Sleep Charity. Mae eu harbenigedd a’u hadnoddau wedi bod yn amhrisiadwy wrth gyflwyno cymorth effeithiol i’n dysgwyr. 

Fe wnaeth rhieni a gofalwyr hefyd chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r ymgyrch i wella arferion cwsg dysgwyr, gan gymryd rhan yn weithgar mewn sesiynau ymgysylltu dan arweiniad dysgwyr eu hunain. Gyda’i gilydd, datblygont gyngor ymarferol ar sut gallai teuluoedd gefnogi cwsg yn well gartref, gan helpu i atgyfnerthu arferion iach. Fe wnaeth argymhellion allweddol gynnwys sefydlu amserlen gwsg gyson, creu trefn amser gwely orffwysol, a chyfyngu ar amser o flaen sgrin cyn mynd i’r gwely i sicrhau gwell ansawdd cwsg. Pwysleisiodd arweiniad ychwanegol bwysigrwydd amgylchedd cysgu cyfforddus, addysgu eu plant am hylendid cwsg ac annog gweithgarwch corfforol i hybu cwsg gorffwysol. Hefyd, cafodd rhieni a gofalwyr eu hannog i osod esiampl gadarnhaol trwy arddangos arferion cysgu da eu hunain. Amlygwyd bod cyfathrebu a chydweithredu â mentrau’r ysgol yn hanfodol i gefnogi’r ymdrechion hyn gartref, gan bwysleisio’r cysylltiad rhwng cwsg, iechyd a lles, a llwyddiant academaidd. 

Dyma beth roedd gan un rhiant i’w ddweud am eu hymglymiad a sut mae agwedd y teulu cyfan at gwsg wedi elwa: 

“Mae bod y rhan o’r sesiynau hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i arferion cwsg ein teulu. Mae’r awgrymiadau a’r strategaethau ymarferol a ddysgom wedi’n helpu i sefydlu trefn fwy cyson amser gwely ac rydym ni wedi sylwi bod pawb yn cysgu’n well. Mae’r plant wedi ymlacio’n fwy gyda’r nos ac rydym ni i gyd yn fwy ystyriol o gyfyngu ar amser sgrin cyn mynd i’r gwely. Nid dim ond gwell cwsg yw hyn – mae wedi dwyn ein teulu’n agosach at ei gilydd hefyd gan ein bod ni nawr yn blaenoriaethu ymlacio gyda’n gilydd a chefnogi ein hiechyd a’n lles ein gilydd. Rydym ni wir yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol ar ein hegni, ein hwyliau a’n hiechyd a’n lles cyffredinol.”

Camau Syml, Effaith Fawr: Awgrymiadau Ymarferol er Cwsg Gwell  

I’r rheiny sy’n awyddus i wella’u harferion cwsg eu hunain, rydym ni’n argymell canolbwyntio ar arferion hylendid cwsg (arferion iach y gallwch eu hymarfer yn ystod y dydd i’ch helpu i gael noson dda o gwsg). Mae hyn yn cynnwys cynnal amserlen gwsg gyson, gan greu trefn amser gwely sy’n orffwysol a lleihau amlygiad i sgriniau cyn mynd i’r gwely. Gall deall pwysigrwydd cwsg a chymryd camau rhagweithiol arwain at welliannau sylweddol mewn iechyd a lles cyffredinol. 

Annog Ysgolion i Flaenoriaethu Cwsg ac Iechyd a Lles  

Rydym ni’n annog ysgolion eraill i ystyried mentrau tebyg ac i ddefnyddio data’u hysgol gan y Rhwydwaith i lywio’u strategaethau iechyd a lles. Trwy rannu ein profiadau a’n gwybodaeth, ein gobaith yw annog symud yn fwy tuag at gymunedau ysgol iach a chadarnhaol. 

Meddyliau Terfynol: Sut mae data’r Rhwydwaith yn llywio dyfodol iachach i ddysgwyr  

I gloi, mae ein gwaith gyda’n data gan y Rhwydwaith wedi bod yn hynod fuddiol ac rydym yn gyffrous am y dyfodol. Trwy flaenoriaethu iechyd a lles ein dysgwyr, yn ein barn ni, rydym nid yn unig yn gwella’u llwyddiant academaidd ond hefyd yn meithrin cenhedlaeth iachach, fwy gwydn, o ddysgwyr. 

Adnoddau Pellach: Cipolygon newydd i bŵer cwsg i iechyd a lles  

Mae ymchwil newydd gan #BeeWell wedi amlygu pwysigrwydd arferion cysgu da i iechyd cyffredinol pobl ifanc. Datgelodd yr astudiaeth fod cysylltiad agos rhwng cwsg a lles meddyliol merched. Pan ddywedodd merched eu bod yn cael digon o gwsg, dywedont fod eu lles meddyliol yn well flwyddyn yn ddiweddarach. Darllenwch fwy am yr astudiaeth yma.  

Sylwer: Mae’r enwau a ddefnyddir yn y blog hwn wedi’u newid i ddiogelu preifatrwydd unigolion. 


Gwybodaeth am yr Awdur   

Rhydian yw Cyfarwyddwr Dysgu Ysgol Uwchradd Aberconwy, lle mae’n gyfrifol am iechyd a lles dysgwyr a staff.

Mae’n cydlynu’r cwricwlwm Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (PSHE), ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac mae’n goruchwylio system Tai elusennol yr ysgol. (Sylwch, er mai Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) a ddefnyddir yng Nghymru, mae’n well gan Ysgol Aberconwy ddefnyddio PSHE i adlewyrchu bod iechyd wedi’i gynnwys yn eu cwricwlwm ABCh).

A chanddo 19 blynedd o brofiad fel athro Addysg Gorfforol, mae Rhydian yn angerddol am hybu ffyrdd iach o fyw sy’n gwella rhychwant iechyd cymuned gyfan yr ysgol.