Mae Ysgol Gynradd Abbey yng Nghastell-nedd Port Talbot yn enghraifft gryf o sut gall data gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) symud ysgolion o gael cipolwg i ddata, i weithredu. Datgelodd eu hadroddiad lefel ysgol gan y Rhwydwaith fod lefel uwch o ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6 yn berchen ar ddyfeisiau digidol a’u bod yn defnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol o gymharu â chyfartaledd Cymru. O hyn, cydnabu’r ysgol sut gallai ymgysylltu ar-lein cynnar ddylanwadu ar feysydd fel lles emosiynol, hunanddelwedd, llythrennedd digidol a gwneud penderfyniadau, gan ysgogi cwestiynau am ddylanwad digidol a gwydnwch.
I ymateb i hynny, cychwynnodd yr ysgol ymchwiliad dan arweiniad y dysgwyr a phrosiect o’r enw ‘Pŵer a Dylanwad mewn Mannau Digidol’, gan osod llais y dysgwr yn ganolog i’r broses. Nid yn unig aeth y dull hwn i’r afael â lles digidol fel blaenoriaeth iechyd a lles allweddol, fe wnaeth hefyd rymuso dysgwyr i ddod yn feddylwyr critigol ac yn ddinasyddion digidol cyfrifol.
Trwy wreiddio’i data o’r Rhwydwaith mewn cynllunio a chysoni ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, fe wnaeth ysgol Gynradd Abbey gryfhau ei Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol a chreu diwylliant lle mae tystiolaeth yn llywio gweithredu a dysgwyr sy’n arwain.

