Categorïau
Blog

Peilota Dangosfwrdd Data’r Rhwydwaith: Beth ddysgom ni oddi wrth ysgolion

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd o’r Ganolfan Treialon Ymchwil, DECIPHer, a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, wedi cydweithredu ar ddatblygu offeryn digidol newydd i gynorthwyo ysgolion uwchradd â chael at eu data iechyd a lles o’r Rhwydwaith a’i ddefnyddio’n well.  Yn rhan o’r astudiaeth, a ariannwyd gan Wellcome, fe wnaeth ymarferwyr Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) a thair ysgol uwchradd yng Nghymru helpu i beilota dangosfwrdd prototeip a oedd yn cynnwys tri chylch data’r Rhwydwaith – cyhoeddwyd y canfyddiadau yn BMC Public Health yn ddiweddar. Mae’r astudiaeth yn cynnig golwg sylfaenol ar sut mae ysgolion yn gweithio gyda data ar hyn o bryd a’r heriau ymarferol a wynebant. Yn y blog hwn, rydym yn rhannu darganfyddiadau’r ymchwil a pham mae’n bwysig i ysgolion.


Pam Dangosfwrdd Lefel Ysgol y Rhwydwaith?

Mae ysgolion yn casglu ac yn gallu cael at amrywiaeth eang o ddata yn gysylltiedig ag iechyd e.e. canfyddiadau arolygon, patrymau presenoldeb, gwybodaeth diogelu, a chofnodion lles, ond yn aml, mae staff yn cael trafferth dwyn y setiau data hyn ynghyd i gefnogi cynllunio o ddydd i ddydd. Prinder amser, capasiti a hyder oedd y rhwystrau mwyaf. Yn achos adroddiadau adborth y Rhwydwaith yn benodol, dywedodd athrawon wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r mewnwelediadau, ond roedd yn her weithiau cael amser i archwilio’r holl siartiau a phatrymau grŵp blwyddyn mor llawn ag y byddent yn dymuno gwneud.

Yn rhan o’r astudiaeth, mae Dangosfwrdd Digidol Ysgolion Uwchradd newydd y Rhwydwaith wedi cael ei ddylunio ar y cyd â dysgwyr, staff ysgolion a chydlynwyr ysgolion iach WNHWPS i liniaru’r pwysau hyn. Mae’n dwyn setiau data’r Rhwydwaith ynghyd mewn un lle, gan roi ffordd weledol a syml i staff archwilio patrymau, cymharu grwpiau blwyddyn a sylwi ar anghenion sy’n dod i’r amlwg, heb fod angen plymio i daenlenni. Darganfu’r astudiaeth beilot hon, ar raddfa fach, fod y dangosfwrdd yn helpu staff i gyflymu’r broses o gael at y data iechyd a lles oedd o ddiddordeb iddynt.

Beth ddywedodd ysgolion wrthym

Trwy ddefnyddio lens Systemau Addasol Cymhleth, archwiliodd yr ymchwil sut mae’r dangosfwrdd yn ffitio i amgylcheddau ysgol prysur, sy’n newid yn gyson. Dywedodd staff yn yr ysgolion peilot ei bod hi’n hawdd dod i ddeall y dangosfwrdd a’i fod, mewn gwirionedd, yn arbed amser iddynt. Roedd gallu gweld “cipolwg” ar ddata yn ei gwneud hi’n haws nodi problemau’n gynnar a deall tueddiadau ar draws grwpiau blwyddyn.

Pwysleisiodd ysgolion hefyd fod yn rhaid i unrhyw ddangosfwrdd cenedlaethol gefnogi eu baich gwaith presennol – nid ychwanegu ato. Amlygodd cyfranogwyr y gallai’r offeryn helpu gydag adrodd addysgol ehangach, gan hwyluso cynllunio ar draws feysydd lles, diogelu a’r cwricwlwm.

Roedd hyder yn thema allweddol o hyd. Er bod staff yn gwerthfawrogi gallu cael at ddata’n haws, roedd llawer ohonynt yn poeni o hyd am ei ddehongli’n gywir. Gofynnont am ganllawiau byr, enghreifftiau ymarferol ac, yn achos staff sy’n llai cyfarwydd â’r Rhwydwaith a defnyddio data, hyfforddiant i’w helpu i deimlo’n gymwys i wneud. Mae hyn yn adleisio adborth ehangach ar draws y Rhwydwaith: mae ysgolion eisiau data sydd wir yn gallu cael ei ddefnyddio ac sy’n darparu mewnwelediadau clir, y gellir gweithredu arnynt, i gynorthwyo â hybu iechyd gan ysgolion.

Lansio Dangosfwrdd Digidol Newydd y Rhwydwaith ym mis Rhagfyr 2026

Gan adeiladu ar ganfyddiadau’r peilot a blynyddoedd o waith arolygon y Rhwydwaith, bydd Dangosfwrdd Digidol Ysgolion Uwchradd newydd y Rhwydwaith yn lansio ym mis Rhagfyr 2026. Bydd y fersiwn ddiweddaredig hon, yn dwyn nifer o gylchoedd yr arolwg ynghyd, gan gynnig ffordd fwy hyblyg a rhyngweithiol o lawer i ysgolion ddeall iechyd a lles dysgwyr.

Mae’r astudiaeth yn awgrymu bod gan y dangosfwrdd newydd botensial cadarn i gynorthwyo â chynllunio’r cwricwlwm, a gwaith lles ysgol gyfan – ond dim ond os yw’n cyd-fynd yn hwylus â sut mae ysgolion eisoes yn gweithredu a’r pwysau presennol a wynebant.

Beth fydd y Dangosfwrdd yn helpu ysgolion i’w wneud

Pan fydd yn fyw, bydd y dangosfwrdd yn galluogi ysgolion i:

  • Olrhain newidiadau mewn ymddygiadau iechyd a lles gydag amser.
  • Sylwi ar broblemau sy’n dod i’r amlwg ar draws grwpiau gwahanol.
  • Cymharu eu canlyniadau â phatrymau cenedlaethol.
  • Cefnogi sgyrsiau wedi’u llywio gan ddata gyda dysgwyr.

Dyma’r union fathau o nodweddion y gofynnodd ysgolion amdanynt: mewnwelediadau cliriach, gallu symud o gwmpas y dangosfwrdd yn symlach, a chynllunio haws. Ac yn anad dim, ni fydd angen meddalwedd ychwanegol na sgiliau arbenigol.

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r peilot yn dangos bod ysgolion eisiau defnyddio data yn ystyrlon ond mae angen offer arnynt sy’n arbed amser, gyda chefnogaeth syml. Mae’r dangosfwrdd newydd yn gam i’r perwyl hwnnw. Hefyd, mae’r astudiaeth yn cynnig mewnwelediad prin, yn seiliedig ar ymarfer, i systemau iechyd cyhoeddus sy’n gweithio gydag ysgolion ar wella yn seiliedig ar ddata. Bellach, mae’r canfyddiadau hyn yn llywio’r cam datblygu nesaf, i sicrhau bod ysgolion a staff yn gallu defnyddio’r dangosfwrdd yn effeithiol i gefnogi iechyd a lles dysgwyr.