Mae cyhoeddiad cyntaf dangosfwrdd data ysgolion cynradd Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN), a ddadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod mwy na hanner (53.3 y cant) o ferched ym mlwyddyn chwech ysgolion cynradd – sef rhai 10 ac 11 oed – yn nodi eu bod yn defnyddio gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, ynghyd â 49.7 y cant o fechgyn yr un oed. Yn ogystal, mae tri chwarter o blant yr oedran hwn yn berchen ar ffonau clyfar.
Mae’r data, sy’n dod o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN mewn Ysgolion Cynradd a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, yn dangos bod cynnydd cyson yn y defnydd rheolaidd o safleoedd cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ysgol gynradd, gyda 20.4 y cant o fechgyn a 18.6 y cant o ferched yn eu defnyddio ym mlwyddyn tri, ac mae’r nifer yn codi bob blwyddyn wrth i blant symud ymlaen drwy’r ysgol gynradd.
Dangosodd yr arolwg hefyd fod mwy o blant ysgol gynradd yn berchen ar ffonau clyfar wrth iddynt fynd yn hŷn, gyda thua 39 y cant o blant ym mlwyddyn tri (saith i wyth oed) yn berchen ar ffôn clyfar a mwy na thri chwarter ym mlwyddyn chwech (75 y cant o fechgyn a 77.2 y cant o ferched). Mae twf cyson yn y nifer sy’n berchen ar ffôn clyfar drwy gydol blynyddoedd yr ysgol gynradd, gyda thua 47 y cant o blant blwyddyn pedwar yn berchen ar y dyfeisiau, a 58-60 y cant ym mlwyddyn pump.
Mae’r data wedi’i gasglu o arolygon a atebwyd gan blant ysgol gynradd ym mlynyddoedd tri i chwech yn ystod oriau ysgol yn 2024. Cwblhaodd dros 50,000 o blant o fwy na 500 o ysgolion cynradd ym mhob rhan o Gymru yr arolwg, gan ei wneud yr arolwg mwyaf o iechyd a lles plant oedran cynradd yng Nghymru. Nod y data SHRN yw cefnogi ysgolion drwy ddarparu data cadarn ar lefel genedlaethol ar iechyd a lles plant, fel y gall athrawon a llunwyr polisi sicrhau eu bod yn darparu’r gefnogaeth orau i ddisgyblion ac yn ymateb i ddylanwadau sy’n dod i’r amlwg ar iechyd a lles dysgwyr.
Gofynnodd yr arolwg i blant a oeddent wedi defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Tiktok, Snapchat neu Facebook, ac os oeddent wedi gwneud hynny pa mor aml roeddent yn tueddu i’w defnyddio bob wythnos. Mae’r rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr yn gosod isafswm oedran o 13 ar gyfer defnyddwyr.
Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Lleoliadau Addysgol) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae lefel y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ymhlith plant mor ifanc fel y dangosir gan arolwg SHRN yn bryder posibl gan fod tystiolaeth y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol fod yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd meddwl i rai plant.
“Gall dod i gysylltiad rheolaidd â gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol gael effaith negyddol ar bobl ifanc. Gall ymgysylltu’n aml gynyddu pwysau cymdeithasol canfyddedig a chymariaethau cymdeithasol a all effeithio’n negyddol ar les a delwedd y corff.
“Mae bod ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â pherygl o ddod i gysylltiad â chynnwys niweidiol a chyswllt amhriodol ag oedolion, ac mae plant ifanc yn llai abl i benderfynu beth yw cyswllt priodol neu asesu risgiau posibl. Mae cysylltiad â nodweddion caethiwus, fel sgrolio diddiwedd, a all ymestyn yr amser y mae plant yn ei dreulio ar apiau, yn eu tynnu i ffwrdd o weithgareddau eraill, fel gweithgarwch corfforol neu hobïau a diddordebau eraill. Mae pryderon cynyddol hefyd y gallai nodweddion caethiwus ddylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd ac ymddygiadau fel rheoli ysgogiad a chyfnod canolbwyntio.
“Yn ogystal, mae perygl o ddod i gysylltiad â hysbysebu a chynnwys amhriodol nad yw wedi’i gynllunio ar gyfer eu grŵp oedran. Bydd popeth y byddant yn ei rannu, ei bostio neu’n ymgysylltu ag ef ar-lein ar gael am byth, a gellir ei ddefnyddio i greu proffiliau digidol a fydd yn aros gyda nhw am oes, gan achosi problemau yn y dyfodol o bosibl.
“O ystyried nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n berchen ar ffonau clyfar, mae’r cyhoeddiad am waharddiad sydd ar ddod ar bobl dan 16 oed rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol risg uchel, a chyfyngiadau ar bobl ifanc hŷn rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn hwyr yn y nos, yn gamau pwysig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i elwa o dechnoleg wrth gael eu cadw’n ddiogel ar-lein.”
“Byddem yn cynghori rhieni a gofalwyr i fonitro’n ofalus a chyfyngu ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant ifanc yn unol â chyfyngiadau’r platfformau, ac i sicrhau bod plant yn profi amrywiaeth o wahanol weithgareddau y tu allan i oriau ysgol.”
Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr Rhwydwaith SHRN, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r canfyddiadau hyn, sydd wedi’u gosod o fewn cyd-destun ehangach lle mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio dyfeisiau digidol yn rheolaidd ar gyfer adloniant, yn tynnu sylw at fater sydd angen ei fonitro’n barhaus mewn amgylchedd digidol sy’n newid yn gyflym. Mae SHRN yn casglu gwybodaeth ar amrywiaeth eang o feysydd sy’n ymwneud ag iechyd a lles plant. Mae’r data cadarn, ar lefel genedlaethol hwn yn helpu ysgolion i ddeall profiadau eu dysgwyr yn well. Bwriad y mewnwelediadau yw cefnogi athrawon, a’u galluogi i ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg a chryfhau’r gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig i blant a phobl ifanc.
DIWEDD
CYSYLLTU Â NI: Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0277 (24 awr)
Nodiadau’r golygydd
Mae’r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan Brifysgol Caerdydd drwy’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN). Mae SHRN yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur(on) a fynegir ac nid o reidrwydd rhai SHRN, Prifysgol Caerdydd, na’i phartneriaid.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru.
- Ni yw eich prif ffynhonnell o ran gwybodaeth iechyd y cyhoedd, arbenigedd annibynnol ac ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang y gellir ymddiried ynddi, i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach.
- Mae ein timau’n gweithio gyda’n partneriaid ar draws y llywodraeth, y trydydd sector a chymunedau lleol i atal clefydau, diogelu iechyd a darparu arbenigedd.
- Ein nod yw lleihau anghydraddoldebau, cynyddu disgwyliad oes iach a gwella iechyd a lles i bawb yng Nghymru gyda’n gilydd, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru Iachach.
Mae rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael o https://icc.gig.cymru/ble at https://phw.nhs.wales/
