
Mae’r astudiaeth hon yn dechrau o rywbeth digon syml – mae sut mae plant a phobl ifanc yn cyrraedd yr ysgol yn bwysig. Nid dim ond o safbwynt eu symud o A i B, ond i’w hiechyd, eu lles a sut mae ysgolion yn cefnogi arferion iach o ddydd i ddydd.
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, gyda chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a DECIPher, yn defnyddio data’r Rhwydwaith i archwilio sut mae plant a phobl ifanc yn teithio i’r ysgol yng Nghymru. Mae’r papur “Policy on the move: active travel to school among 7–16-year-olds in Wales…”, yn helpu i ddangos beth sydd wir yn digwydd o ran teithio llesol ar draws Cymru.
Felly, beth wnaethant ei ddarganfod?
Wrth edrych ar ddata dros 170,000 o ddysgwyr 7–16 oed, dywed tua thraean (34%) o blant a phobl ifanc eu bod yn teithio’n llesol i’r ysgol e.e. cerdded neu feicio.
Ar yr olwg gyntaf, mae hynny’n swnio’n weddol gadarnhaol, ond mae’r manylion yn dangos nad yw mor syml â hynny.
- Mae plant iau yn fwy tebygol o deithio’n llesol na dysgwyr uwchradd
- Mae gwahaniaethau clir yn ôl rhywedd ac ethnigrwydd
- Mae dysgwyr mewn cyd-destunau ysgol mwy cyfoethog yn fwy tebygol o gerdded neu feicio
- Mae dysgwyr gwledig yn llai tebygol o deithio’n llesol na dysgwyr mewn ardaloedd trefol
Felly, nid yw’n fater o ddewis unigol yn unig. Mae’r man lle mae plant a phobl ifanc yn byw wir yn llunio’r hyn sy’n bosibl. I ysgolion, mae’n codi rhai cwestiynau gwirioneddol am yr hyn sydd wir yn helpu a ph’un a yw dulliau presennol yn cyrraedd y dysgwyr sydd leiaf tebygol o deithio’n llesol. Dyma pan fydd llais y disgybl yn bwysig, yn enwedig i ddysgwyr hŷn pan mae’n ymddangos eu bod yn cael llai o effaith.
Beth am ysgolion – a ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth?
Mae’r astudiaeth hefyd yn bwrw golwg ar beth mae ysgolion yn ei wneud i gefnogi teithio llesol. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion eisoes yn gwneud rhywbeth, o newid seilwaith a chamau diogelwch i hyrwyddo a phartneriaethau.
Mae’n codi cwestiwn pwysig i ysgolion… A yw ymagweddau presennol at deithio llesol yn cyrraedd y dysgwyr sydd fwyaf eu hangen?
Nid yw bodolaeth polisïau bob amser yn golygu y bydd dysgwyr yn newid sut maent yn teithio. Yn achos dysgwyr oed cynradd, roedd cysylltiad bach; roedd lefelau teithio llesol yn tueddu i fod yn uwch mewn ysgolion â mwy o bolisïau. Yn achos ysgolion uwchradd, roedd y patrwm hwnnw yn llai eglur o lawer. Mae hyn yn awgrymu nad yw ychwanegu mwy o fentrau ynddo’i hun yn ddigon, yn enwedig i ddysgwyr hŷn. Hefyd, mae’n amlygu y gall y ffordd y mae’r mentrau hyn yn cael eu cyflwyno a sut brofiad mae pobl ifanc yn ei gael ohonynt, fod yr un mor bwysig.
Beth yw rhan y Rhwydwaith yn hyn?
Defnyddiodd yr astudiaeth hon ddata’r Rhwydwaith gan ddysgwyr o bob cwr o Gymru, ochr yn ochr â gwybodaeth o Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, sy’n cael ei ateb gan ysgolion. Dyma enghraifft dda o’r hyn y sefydlwyd y Rhwydwaith i’w wneud – cysylltu data adroddiadau dysgwyr â gwybodaeth gan ysgolion er mwyn deall sut mae ymddygiadau’n cael eu llunio.
Yn ehangach, mae data’r Rhwydwaith yn helpu i adeiladu darlun cenedlaethol o iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae’n cipio ystod eang o bynciau iechyd a lles, o weithgarwch corfforol i iechyd meddwl i berthnasoedd, gyda bron pob ysgol uwchradd a 42% o ysgolion cynradd prif ffrwd yng Nghymru’n cymryd rhan. O ganlyniad i’r raddfa honno, mae’n bosibl edrych ar batrymau ac anghydraddoldebau ar draws Cymru.
Pam mae hyn yn bwysig i iechyd a lles
Yn aml, mae teithio llesol yn cael ei ystyried yn fater cludiant, ond mae’n fwy na hynny. I lawer o ddysgwyr, gallai cerdded neu feicio i’r ysgol fod yn un o’r ffyrdd hawsaf o gynnwys gweithgarwch corfforol mewn bywyd bob dydd. Hefyd, gall gefnogi annibyniaeth, cysylltiadau cymdeithasol, a lles. Ond mae’r astudiaeth yn amlygu nad yw mynediad i’r buddion hynny yn gyfartal. Os ydych chi’n hŷn, yn byw mewn ardal wledig, neu’n mynd i ysgol mewn cyd-destun llai cefnog, rydych chi’n llai tebygol o deithio’n llesol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yr un grwpiau yn aml yn wynebu anghydraddoldebau iechyd ehangach, hefyd. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau ehangach o ddata’r Rhwydwaith, pan fydd gwahaniaethau yn ôl oedran a chefndir economaidd gymdeithasol i’w gweld ar draws llawer o feysydd iechyd a lles.
Mae’r gwerth ehangach hwn sydd gan deithio llesol yn cael ei adlewyrchu hefyd mewn gwaith iechyd cyhoeddus cenedlaethol:
“Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cydnabod bod teithio llesol i’r ysgol yn ffordd wych i bobl ifanc gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eu bywyd. Mae teithio llesol yn fuddiol i iechyd a lles corfforol a meddyliol ac mae ganddo fuddion ehangach i gymunedau trwy annog pobl i ddefnyddio’u ceir yn llai – gan felly wella ansawdd aer, lleihau allyriadau carbon a chyfrannu at strydoedd mwy diogel i bawb.”
John Bradley,
Arweinydd Rhaglen Gweithgarwch Corfforol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn datblygu ymagwedd seiliedig ar le at deithio llesol i’r ysgol, sy’n ennyn sylw ysgolion (athrawon, disgyblion a rhieni) a phartneriaid lleol eraill i nodi camau gweithredu sy’n gallu cael eu cymryd ar lefel leol i helpu mwy o ddisgyblion i gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol ac adref. Yn dilyn canfyddiadau cynnar addawol, rydym am annog mabwysiadu’r ymagwedd hon ar draws Cymru gyfan, fel y gall plant yn enwedig helpu i lunio gwaith ar deithio llesol i’r ysgol.”
Dr Paul Pilkington,
Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Beth allai hyn ei olygu yn ymarferol?
Un neges o’r astudiaeth hon yw y gall fod angen i ni ailfeddwl ein hymagwedd at deithio llesol.
Yn hytrach na chanolbwyntio dim ond ar newid ymddygiad unigol, mae hyn yn pwyntio tuag at bethau fel:
- Ymagweddau mwy targedig, penodol i gyd-destun.
- Mwy o sylw i seilwaith ac opsiynau cludiant gwledig.
- Deall beth sy’n atal dysgwyr hŷn rhag cerdded neu feicio.
- Gwreiddio llais y dysgwyr yn fwy uniongyrchol yn y ffordd y caiff polisïau eu dylunio.
O safbwynt y Rhwydwaith, mae hyn yn amlygu gwerth cyfuno data’r arolwg â phrofiadau bywyd pobl ifanc. Mae’r “beth” yn bwysig, ond felly hefyd y “pam”.
I ysgolion, gallai hyn ymwneud yn llai ag ychwanegu mwy o fentrau a mwy am adolygu beth sydd eisoes ar waith. Er enghraifft:
- A yw mentrau teithio llesol presennol yn cyrraedd dysgwyr hŷn?
- A yw dysgwyr yn teimlo’n ddiogel yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol?
- A oes rhwystrau’n gysylltiedig â phellter, cludiant neu fywyd gwledig sydd angen ymagwedd wahanol?
- Sut mae dysgwyr yn ymwneud â llunio’r ymagweddau hyn?
Meddyliau i gloi
Mae’r astudiaeth hon yn dda i’n hatgoffa nad yw’r ymddygiadau hyn yn sefyll ar eu pen eu hunain. Maent yn cael eu llunio gan ysgolion, cymunedau a’r amgylchedd o gwmpas plant a phobl ifanc. Nid dim ond cynyddu niferoedd yw’r her nawr, ond sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael cyfle i deithio’n llesol i’r ysgol. Dyma’r math o fater y mae’r Rhwydwaith mewn sefyllfa dda i ymchwilio ymhellach iddo. Fel y daw mwy o ddata i’r fei, dylem ennill ymdeimlad cliriach o’r hyn sy’n cefnogi teithio llesol i wahanol grwpiau o ddysgwyr. I ysgolion, gallai hyn olygu ystyried beth sy’n realistig i’ch lleoliad chi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu i ddysgwyr hŷn.
I ddarllen mwy am yr astudiaeth hon, cliciwch yma.
Adnoddau pellach i ysgolion:
- Deunyddiau ymgyrchu teithio llesol i’r ysgol https://activeschooltravel.brandbag.io/
- Adnoddau’r Ymddiriedolaeth Cerdded, Beicio, Olwyno i athrawon: https://www.walkwheelcycletrust.org.uk/about-us/our-work-with-schools-in-wales/active-travel-school-plan-resources/
