
Yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd, mae Dr. Rebecca Anthony a’i chydweithwyr wedi darparu cipolygon gwerthfawr i’r cysylltiad hwn, gan ddefnyddio data’r Rhwydwaith yn eu hastudiaeth: Young People’s Online Communication and its Association with Mental Well-being: Results from the 2019 Student Health and Well-being Survey.
Dyma Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith, yn bwrw golwg fanylach ar gipolygon yr astudiaeth hon, sy’n amlygu pwysigrwydd deall y berthynas gynnil rhwng y cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl pobl ifanc

Sut gwnaeth Data’r Rhwydwaith am Ein Hysgol Wella Arferion Cysgu Ein Dysgwyr: Safbwynt Athro
Yn y blog hwn, mae Rhydian Jones, Cyfarwyddwr Dysgu yn Ysgol Aberconwy, yn disgrifio sut mae defnyddio data’r Rhwydwaith am eu hysgol wedi annog ymagwedd ragweithiol at wella iechyd a lles dysgwyr yr ysgol. Trwy asesu canfyddiadau a thueddiadau allweddol, nododd yr ysgol fod cwsg yn flaenoriaeth arwyddocaol, gan arwain at gamau targedig i wella arferion cysgu dysgwyr. Nod y blog yw ysbrydoli cam ehangach tuag at gymunedau ysgol iachach a hapusach trwy rannu llwyddiant a gwybodaeth a gafwyd o ddefnyddio data’r Rhwydwaith a mentrau’r ysgol.

Edrych tua’r Dyfodol: Gweledigaeth Gyffredin ar gyfer Pennod Nesaf y Rhwydwaith
Wrth i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion groesawu Dr. Kelly Morgan yn Gyfarwyddwr Newydd arno, yn y blog hwn, mae Kelly yn myfyrio ar lwyddiannau’r gorffennol ac yn amlinellu cynlluniau i ehangu partneriaethau ysgolion, ymgysylltu ag ysgolion cynradd a lansio dangosfwrdd lefel ysgol.

Myfyrdodau gan y Cyfarwyddwr: Deuddeg Mlynedd o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Wrth i’r Athro Simon Murphy baratoi i roi’r gorau i swydd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion arôl 12 o flynyddoedd trawsnewidiol, mae’n myfyrio ar y daith o adeiladu rhwydwaith arloesol sydd wedi dod yn fodel byd-eang. Yn Myfyrdodau gan y Cyfarwyddwr: Deuddeg Mlynedd o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae’n rhannu ei feddyliau am waddol y Rhwydwaith, y partneriaethau a ddiffiniodd ei lwyddiant, a’i obeithion at ddyfodol y Rhwydwaith. Ymunwch â ni i ddathlu ei arweinyddiaeth nodedig a’r bennod nesaf i’r Rhwydwaith

Cysylltiadau Creadigol: Defnyddio Dulliau Celfyddydol i Ennyn Diddordeb Dysgwyr yn Nata’r Rhwydwaith ar Les Emosiynol a Meddyliol
Darganfyddwch sut mae’r Rhwydwaith yn ysgogi diddordeb dysgwyr mewn data ar les emosiynol a meddyliol yn greadigol! Yn ein blog diweddaraf, mae aelodau tîm y Rhwydwaith – Max R. Ashton a Charlotte Wooders – yn rhannu eu profiadau o ddigwyddiadau diweddar Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Dysgwch sut mae dulliau yn seiliedig ar y celfyddydau yn cael eu defnyddio i ddwyn data’r Rhwydwaith yn fyw, gan helpu ysgolion i ddeall a chefnogi lles eu dysgwyr yn well
Cynnydd mewn Pwysau Gwaith Ysgol: Tuedd Dau Ddegawd ymhlith Dysgwyr Cymru
Yn y blog hwn, mae Dr. Jess Armitage o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio sut mae problemau emosiynol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae astudiaethau sy’n ymchwilio i’r rhesymau wrth ei wraidd yn brin ac mae dirfawr angen amdanynt. Mewn astudiaeth ddiweddar a ddefnyddiodd ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae hi’n archwilio tueddiadau mewn problemau emosiynol ac amgyffredion am bwysau gwaith ysgol.
Archwilio’r Berthynas Rhwng Pontio Ysgol, Iechyd Meddwl a Bwlio
Gall pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd fod yn garreg filltir arwyddocaol ym mywyd person ifanc. Er bod llawer o fyfyrwyr yn mynd trwy’r newid hwn yn hwylus, gall fod yn heriol i eraill. Mae astudiaeth ddiweddar sy’n defnyddio data’r Rhwydwaith yn treiddio i sut y gall statws economaidd gymdeithasol, h.y. sefyllfa economaidd a chymdeithasol teulu, sy’n cael ei phenderfynu gan ffactorau fel incwm, addysg a galwedigaeth, fod yn gysylltiedig â’r profiad pontio ac iechyd meddwl pobl ifanc a’u profiadau o fwlio.

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith: Golwg Gynhwysfawr ar Iechyd y Glasoed yng Nghymru
Mewn cyfnod pan mae iechyd meddwl a lles corfforol pobl ifanc yn aml dan y chwyddwydr, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion mewn safle blaenllaw o ran darparu data cadarn, y gellir gweithredu arno, i ysgolion a llunwyr polisi i gynorthwyo â rhoi datrysiadau wedi’u llywio gan dystiolaeth ar waith.
Yn y Blog hwn, mae’r Dr. Nick Page, Cymrawd Ymchwil DECIPHer, ac Uwch Ddadansoddwyr ar gyfer y Rhwydwaith, yn rhoi cipolwg i’r data a gasglwn a sut mae’n helpu i lunio dyfodol iachach i’r genhedlaeth nesaf.

Adeiladu Dyfodol Gwell: Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Fod Mewn Gofal mewn Ysgolion ac wrth Bontio i AB
I lawer o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae pontio rhwng ysgolion yn anodd oherwydd trawma cynnar, problemau iechyd meddwl a chymorth ansefydlog. Mae llawer yn cael trafferth gyda heriau cymdeithasol ac emosiynol, arferion newydd a phryderon ariannol. Mae gadael yr ysgol yn aml yn golygu gadael gofal a symud i fyw’n annibynnol. Mae cymorth cydlynedig gan ysgolion, colegau, gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn hanfodol.
Yn y blog hwn, mae Dr. Sarah MacDonald, Cymrawd Ymchwil DECIPHer, yn treiddio i ganfyddiadau astudiaeth WiSC er mwyn deall sut gallwn ni gefnogi lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn well.

Ffeithluniau: Gwneud Data’r Rhwydwaith yn Hygyrch ac yn Ddiddorol i Gynulleidfaoedd Ehangach
Mae ffeithluniau yn adnodd grymus ar gyfer gweddnewid data cymhleth yn ddarluniau diddorol sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd amrywiol. Yn y blog hwn, mae Huw Eifion Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy, yn rhannu ei Ddeg Awgrym Gorau ar gyfer defnyddio ffeithluniau i ddod â chipolygon o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fyw. P’un a ydych chi’n anelu at gyfleu canfyddiadau allweddol i ddysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr neu lywodraethwyr ysgol, gall y syniadau hyn helpu i sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn cael effaith ac yn hawdd ei ddeall.

Dyblu’r Weledigaeth, Dwbl yr Effaith: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN a Holiadur Amgylchedd Ysgolion SHRN (SEQ)
Yn y blog hwn, mae Maria yn archwilio buddion sylweddol arolygon y Rhwydwaith i ysgolion a sut gallant drawsnewid yr amgylchedd addysgol er gwell.

Chwalu rhwystrau rhag ymarfer corff – yn barhaol
Darganfu astudiaeth ddiweddar fod merched a menywod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd na bechgyn a dynion ar draws Cymru. Ond beth yw rôl y mislif yn hyn o beth?
Aeth Dr Kelly Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, i weithdy yn ddiweddar i ddysgu rhagor am fynd i’r afael â thlodi mislif a deall effaith y mislif ar weithgarwch corfforol merched.

Gwneud Data’n Anhysbys ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) mewn Ysgolion Cynradd
Yn yr erthygl hon, mae Maria Boffey (Rheolwr Gwybodaeth a Chyfnewid SHRN) yn egluro manteision data anhysbys yr SHRN, a sut y gall ysgolion, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ddatblygu polisïau ac arferion i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc.