Categorïau
Flog

Troi Data’n Weithredu: Defnyddio Dangosfwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i Gefnogi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yn y blog hwn gan Zoe Strawbridge, (Dadansoddwr Gwybodaeth Uwch ar Iechyd y Cyhoedd), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Maria Boffey, (Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion) a Charlotte Wooders, (Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion), cewch ddysgu sut mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion: Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion – a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – i gefnogi’r sector ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru.

Mae’r blog hwn yn tynnu sylw at y modd y mae data iechyd a lles sydd ar gael yn rhwydd yn gallu helpu’r sector greu rhaglenni wedi’u targedu, i ddatblygu partneriaethau, a galw am adnoddau, a hynny oll ar sail safbwyntiau phobl ifanc.

Mae’r sector ieuenctid gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc. Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mae Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cynnig adnodd ymarferol i gryfhau’r gwaith hwnnw.

Ar sail y data o bob un o’r ysgolion uwchradd yng Nghymru a gymerodd rhan yn  Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae’r dangosfwrdd yn gwneud data rhanbarthol yn fwy hygyrch, yn helpu i gynllunio ar sail data, ei gyflawni’n effeithiol, ac mewn partneriaeth ag eraill. Mae’n helpu i gyd-fynd a Strategaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 gan ddefnyddio data i gynllunio a chanolbwyntio ar anghenion pobl ifanc.

Ers 2013, mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Uwchradd wedi chwarae rhan allweddol yn deall ac yn gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.

Bob dwy flynedd, mae disgyblion ysgolion uwchradd yn llenwi arolwg Iechyd a Lles y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, gweithgarwch corfforol a maeth, defnyddio sylweddau, iechyd rhywiol, a pherthnasoedd cymdeithasol.

Dechreuodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion weithio gydag ysgolion cynradd ym mhob rhan o Gymru yn 2024, gan weithio gyda dros hanner ysgolion cynradd Cymru yn y broses o gasglu data. Mae’r twf hwn yn gam pwysig tuag at ddeall iechyd a lles plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan helpu i roi cefnogaeth wedi’i deilwra sy’n canolbwyntio ar brofiadau allweddol mewn bywyd, fel trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Er nad yw’r dangosfwrdd ar gyfer data ysgolion cynradd ar gael eto, cewch weld yr adroddiadau am y cam hwn  yma sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr i unigolion sy’n gweithio gyda phlant iau.

Dros y blynyddoedd, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion wedi helpu i lunio dull cenedlaethol o gasglu a defnyddio data mewn ysgolion. Mae wedi bod yn bwysig wrth lunio polisïau iechyd ac addysg, rhaglenni ac ymyriadau sy’n ceisio gwella bywydau plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r dangosfwrdd hwn yn arddangos data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r dangosfwrdd yn rhad ac am ddim ac wedi’i gynllunio i fod yn hawdd i’w ddefnyddio.

Mae defnyddwyr yn gallu edrych ar dueddiadau yn ôl grŵp blwyddyn, rhywedd, oedran, awdurdod lleol, bwrdd iechyd, a mwy. Bydd dadansoddiad o’r data yn ôl ethnigrwydd ar gael cyn bo hir. Mae’r holl ddata yn ddienw ac yn cael eu cyfuno.

Mae’r dangosfwrdd yn gallu eich helpu chi yn eich gwaith yn y meysydd canlynol:

  • Helpu i gael gwell dealltwriaeth o dueddiadau iechyd a lles ymhlith pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, er enghraifft iechyd meddwl, ymarfer corff, arferion bwyta, defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, eu teimladau tuag at yr ysgol, iechyd rhywiol, defnydd o sylweddau a pherthnasoedd cymdeithasol – er mwyn datblygu cymorth mwy perthnasol ac ymatebol i’w hanghenion.
  • Helpu i nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg mewn cymunedau neu grwpiau oedran penodol, gan alluogi ymyrraeth gynnar a mwy o raglenni wedi’u targedu.
  • Helpu i wella ceisiadau am gyllid a gwaith cynllunio prosiectau drwy gefnogi’r cynigion gyda data a thystiolaeth ddibynadwy a chyfoes.
  • Cydweithio’n fwy effeithiol gydag ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a phartneriaid eraill gan sicrhau bod pawb yn defnyddio’r un data i weithio.

P’un a ydych chi’n cynllunio prosiect newydd, gwerthuso effaith, neu’n gwneud cais am adnoddau, mae’r dangosfwrdd yn cynnig sylfaen dystiolaeth ddibynadwy i lywio eich gwaith ac i wneud mwy o wahaniaeth..

Mae’r canfyddiadau canlynol yn dod o sampl o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sydd ar gael ar y dangosfwrdd. Maen nhw’n dangos crynodeb o dueddiadau allweddol ynghylch iechyd emosiynol, ymarfer corff, ac unigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r wybodaeth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae ffactorau er enghraifft rhywedd ac incwm y cartref yn cael dylanwad ar les, ac yn rhoi man cychwyn gwerthfawr i gynnal rhagor o ymchwil a thrafodaethau.

Iechyd Emosiynol

  • Dywedodd dros hanner o’r merched (54%) yng Nghymru eu bod wedi teimlo’n isel, yn fyr eu tymer, yn nerfus, neu eu bod wedi cael trafferth yn syrthio i gysgu, ond dim ond tua traean o’r bechgyn (32%) ddywedodd yr un peth. 
  • Roedd merched o gartrefi ag incwm is (61%) yn fwy tebygol o deimlo’r uchod o gymharu â merched o gartrefi ag incwm uwch (49%). 

Ymarfer corff 

  • Yn 2023, roedd 45% o blant o gartrefi ag incwm uwch yn cymryd rhan mewn ymarfer corff egnïol y tu allan i’r ysgol o leiaf pedair gwaith yr wythnos, ond 32% o blant o gartrefi ag incwm is oedd yn gwneud.
  • Ar y cyfan, roedd bwlch mawr o ran y nifer o fechgyn a merched oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff y tu allan i’r ysgol, gyda 49% o’r bechgyn yn cymryd rhan o gymharu â 31% o’r merched. 

Unigrwydd

  • Yn 2023, nododd 35% o blant rhwng 11 a 16 oed eu bod wedi teimlo’n unig o leiaf rhywfaint o’r amser yn ystod y gwyliau haf diwethaf. Pan ydyn ni’n edrych ar y data hwn yn ôl rhywedd, gwelwn fod hyn yn fwy cyffredin ymhlith y merched. Dywedodd bron i 42% o ferched eu bod yn teimlo’n unig, o gymharu â 27% o fechgyn.

Gallwch chi gyrchu’r dangosfwrdd yma. Ar ôl gwneud hyn, defnyddiwch y nodweddion hidlo i fwrw golwg ar bynciau megis “Bywyd yn yr Ysgol” a “Gweithgarwch Corfforol a Deiet.”

Mae modd edrych ar y data fesul ardal, grŵp blwyddyn neu rinweddau eraill, a gweld canlyniadau ar ffurf siartiau bar neu linell. Gellir hefyd lawrlwytho data ar ffurf MS Excel.

  • Dechreuwch gydag un maes pwnc sy’n cyd-fynd â’ch gwaith presennol.
  • Defnyddiwch yr hidlwyr i edrych ar wahaniaethau yn ôl ardal, oedran neu ryw.
  • Ystyriwch flynyddoedd sengl o ddata neu dueddiadau dros amser.
  • Lawrlwythwch siartiau neu ddata i gefnogi eich cais cyllid nesaf neu sesiwn cynllunio tîm.

Mae arddangosiadau gweminar a chanllawiau i ddefnyddiwr ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er mwyn gwneud ymholiadau neu ofyn am gymorth pellach, anfonwch e-bost at: publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk.

Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mae Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn offeryn ymarferol a phwerus i helpu’r sector ieuenctid gwirfoddol i ddeall anghenion pobl ifanc yn well.

Os ydych chi eisoes yn defnyddio’r dangosfwrdd, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi! Mae rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu a syniadau yn ein helpu ni i gyd i wella!

E-bostiwch Charlotte Wooders, Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

Categorïau
Flog

Edrych tua’r Dyfodol: Gweledigaeth Gyffredin ar gyfer Pennod Nesaf y Rhwydwaith



Categorïau
Flog

Myfyrdodau gan y Cyfarwyddwr: Deuddeg Mlynedd o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion





Categorïau
Flog

Cysylltiadau Creadigol: Defnyddio Dulliau Celfyddydol i Ennyn Diddordeb  Dysgwyr yn Nata’r Rhwydwaith ar Les Emosiynol a Meddyliol



Categorïau
Flog

Cynnydd mewn Pwysau Gwaith Ysgol: Tuedd Dau Ddegawd ymhlith Dysgwyr Cymru





Categorïau
Flog

Trin a Thrafod y Perthynas Rhwng y Cyfnod Pontio i Ysgol Newydd, Iechyd Meddwl a Bwlio



Categorïau
Flog

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith: Golwg Gynhwysfawr ar Iechyd Pobl Ifanc yng Nghymru


Categorïau
Flog

Adeiladu Dyfodol Gwell: Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Fod Mewn Gofal mewn Ysgolion ac wrth Bontio i AB

Categorïau
Flog

Ffeithluniau: Gwneud Data’r Rhwydwaith yn Hygyrch ac yn Ddiddorol i Gynulleidfaoedd Ehangach

Adobe Colour
Canva
Flat Icon
QR Monkey

Categorïau
Flog

Dyblu’r Weledigaeth, Dwbl yr Effaith: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN a Holiadur Amgylchedd Ysgolion SHRN (SEQ)

Mae’n bleser gennym adrodd bod dros hanner ein hysgolion cynradd cofrestredig SHRN wedi cwblhau’r Holiadur Amgylchedd yr Ysgol. Mae’r gamp hon yn adlewyrchu eich ymrwymiad i wella iechyd a lles eich dysgwyr.

Trwy lenwi Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, mae ysgolion cynradd nid yn unig yn ychwanegu at eu harferion mewnol, maent hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o iechyd a lles mewn addysg. Mae’r dull deuol hyn yn meithrin amgylchedd iachach, mwy cefnogol, i bob dysgwr.

Diolch i bob ysgol am gymryd rhan ac am eich ymrwymiad i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Gyda’n gilydd, rydym ni’n gwneud gwahaniaeth!

Yn achos ysgolion cynradd cofrestredig sydd heb lenwi Arolwg Amgylchedd yr Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith eto, dyma’ch atgoffa am rai o fuddion allweddol gwneud hynny:

  • Cipolygon cyfannol: Trwy gasglu data o’r ddau arolwg, gall eich ysgol ennill golwg gynhwysfawr ar iechyd a lles eich dysgwyr, ac amgylchedd cyffredinol yr ysgol. Mae hyn yn eich helpu i nodi meysydd penodol sydd angen sylw.

Hefyd, gall tîm y Rhwydwaith ddadansoddi’r berthynas rhwng polisïau/ymarfer yr ysgol a deilliannau dysgwyr yn anhysbys, a rhannu’r hyn a ddysgwn am ddulliau effeithiol posibl gydag ysgolion er mwyn datblygu digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, fel ein cyfres gweminarau.

  • Polisïau wedi’u gyrru gan ddata: Mae’r cipolygon a geir o’r arolygon hyn yn galluogi eich ysgol i wneud penderfyniadau gwybodus am fentrau iechyd a lles, gan sicrhau bod polisïau wedi’u teilwra i anghenion gwirioneddol eich dysgwyr.
  • Grymuso: Gall cynnwys dysgwyr ym mhroses yr arolwg eu grymuso, gan wneud iddynt deimlo o bwys a’u bod yn cael eu clywed, gan arwain at fwy o ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau eich ysgol.
  • Ymyriadau Targedig: Gall y data helpu eich ysgol i weithredu rhaglenni iechyd a lles targedig sy’n mynd i’r afael â materion penodol, fel iechyd meddwl, maeth a gweithgarwch corfforol – gan wella dysgwyr a lles yn y pen draw.
  • Safonau Cenedlaethol: Gallwch gymharu canlyniadau eich ysgol â data cenedlaethol, gan ganiatáu i chi feincnodi eich perfformiad a nodi arferion gorau mewn ysgolion eraill.

Tystiolaeth ar gyfer Arolygiadau Estyn: Mae llenwi’r ddau arolwg yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer arolygiad eich ysgol, gan ddangos ymrwymiad i iechyd a lles dysgwyr. At hynny, mae partneriaeth y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galluogi eich data o’r Rhwydwaith i gael ei wreiddio fel rhan o ysgol sy’n hybu iechyd.

  • Arferion Cynaliadwy: Gall y data a gasglwyd lywio strategaethau hirdymor ar gyfer gwella polisïau ac arferion eich ysgol, gan sicrhau bod iechyd a lles yn aros yn flaenoriaeth yng nghynlluniau datblygu eich ysgol.

Yn fyr, gall ysgolion cynradd cofrestredig sy’n llenwi’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith ddatgloi amrywiaeth o fuddion sy’n ychwanegu at eu hamgylchedd addysgol a chefnogi datblygiad eu dysgwyr.

Darllenwch fwy am Holiadur Amgylchedd yr Ysgol [MB1]