Categorïau
Newyddion

Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Dr. Kelly Morgan, yn rhoi cyflwyniad yn y Gynhadledd Teithiau Llesol ac Iach i’r Ysgol

Fe wnaeth Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, gamu i lwyfan y Gynhadledd Teithiau Llesol ac Iach i’r Ysgol yn Marwth 2025,  a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Daeth y digwyddiad blaenllaw hwn ag addysgwyr, llunwyr polisi a chynllunwyr trefol ynghyd i archwilio strategaethau blaengar ar gyfer hyrwyddo teithio llesol i’r ysgol.


Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i deithio llesol a hygyrchedd mewn addysg. Yn ei sylwadau, pwysleisiodd bwysigrwydd hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio fel elfennau hanfodol o ymagwedd iachach a mwy cynaliadwy at deithio i’r ysgol. Pwysleisiodd ei araith weledigaeth y llywodraeth at y dyfodol, lle mae teithio llesol nid yn unig yn cael ei annog ond yn cael ei integreiddio’n llawn i fywyd bob dydd.

Yn ystod ei chyflwyniad, amlygodd Dr. Morgan rôl hanfodol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion wrth fonitro a llywio polisïau sy’n cefnogi teithiau llesol mwy diogel, iach a chynaliadwy ar gyfer dysgwyr. Pwysleisiodd sut mae dull y Rhwydwaith, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei yrru gan ddata, yn helpu ysgolion a chymunedau i weithredu mentrau teithio llesol effeithiol, gan sicrhau hygyrchedd ac ymgysylltiad i bob dysgwr.

Meddai Dr. Morgan: ‘Mae’r Rhwydwaith yn ymrwymo i gynorthwyo ysgolion i integreiddio atebion teithio sy’n canolbwyntio ar iechyd, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu rhwng y sectorau addysg ac iechyd cyhoeddus. Roedd hi’n ysbrydoledig clywed y straeon anhygoel gan Ysgol Gynradd Radnor am eu menter, y Bws Beics – enghraifft wych o’r ffordd y gall ysgolion hyrwyddo teithio llesol mewn ffyrdd creadigol, sy’n cael eu harwain gan y gymuned.’

Fe wnaeth y gynhadledd gynnwys gweithdai rhyngweithiol, paneli arbenigwyr ac astudiaethau achos o’r byd go iawn, gan amlygu rhaglenni llwyddiannus fel cerdded a bysiau beics. Fe wnaeth trafodaethau hefyd ymdrin ag ymgysylltu cymunedol, datblygu seilwaith a buddion hirdymor teithio llesol i les dysgwyr.

Mae’r Rhwydwaith yn ymroi i gynorthwyo ysgolion i integreiddio atebion teithio sy’n canolbwyntio ar iechyd, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu rhwng y sectorau addysg ac iechyd cyhoeddus.

Categorïau
Newyddion

Rydyn ni’n symud i Bluesky a LinkedIn!

Categorïau
Newyddion

Y Rhwydwaith yn Croesawu Cyfarwyddwr Newydd wrth i’r Athro Simon Murphy Gamu o’r Neilltu


Categorïau
Newyddion

Ar ddod cyn hir: Diweddariad i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Ysgolion Uwchradd


Categorïau
Newyddion

Amgyffredion am Bwysau Gwaith Ysgol ymhlith Dysgwyr Uwchradd yng Nghymru yn Dyblu dros Ddau Ddegawd


Categorïau
Newyddion

Astudiaeth ryngwladol yn datgelu bod adroddiadau am broblemau iechyd meddwl a chorfforol gan bobl ifanc yn eu harddegau yn uwch na’r disgwyl ar ôl COVID-19  



Categorïau
Newyddion

Ceisio barn am safonau newydd ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion  

Categorïau
Newyddion

Arolwg Ysgolion Cynradd y Rhwydwaith 2024: Mae’r Casglu Wedi Cau

Categorïau
Newyddion

Adroddiad Lansio Holiadur Amgylchedd Ysgolion (SEQ) y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) mewn ysgolion uwchradd 2023

Adroddiad SEQ yr SHRN 2023