
Fe wnaeth Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, gamu i lwyfan y Gynhadledd Teithiau Llesol ac Iach i’r Ysgol yn Marwth 2025, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Daeth y digwyddiad blaenllaw hwn ag addysgwyr, llunwyr polisi a chynllunwyr trefol ynghyd i archwilio strategaethau blaengar ar gyfer hyrwyddo teithio llesol i’r ysgol.
Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i deithio llesol a hygyrchedd mewn addysg. Yn ei sylwadau, pwysleisiodd bwysigrwydd hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio fel elfennau hanfodol o ymagwedd iachach a mwy cynaliadwy at deithio i’r ysgol. Pwysleisiodd ei araith weledigaeth y llywodraeth at y dyfodol, lle mae teithio llesol nid yn unig yn cael ei annog ond yn cael ei integreiddio’n llawn i fywyd bob dydd.
Yn ystod ei chyflwyniad, amlygodd Dr. Morgan rôl hanfodol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion wrth fonitro a llywio polisïau sy’n cefnogi teithiau llesol mwy diogel, iach a chynaliadwy ar gyfer dysgwyr. Pwysleisiodd sut mae dull y Rhwydwaith, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei yrru gan ddata, yn helpu ysgolion a chymunedau i weithredu mentrau teithio llesol effeithiol, gan sicrhau hygyrchedd ac ymgysylltiad i bob dysgwr.
Meddai Dr. Morgan: ‘Mae’r Rhwydwaith yn ymrwymo i gynorthwyo ysgolion i integreiddio atebion teithio sy’n canolbwyntio ar iechyd, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu rhwng y sectorau addysg ac iechyd cyhoeddus. Roedd hi’n ysbrydoledig clywed y straeon anhygoel gan Ysgol Gynradd Radnor am eu menter, y Bws Beics – enghraifft wych o’r ffordd y gall ysgolion hyrwyddo teithio llesol mewn ffyrdd creadigol, sy’n cael eu harwain gan y gymuned.’
Fe wnaeth y gynhadledd gynnwys gweithdai rhyngweithiol, paneli arbenigwyr ac astudiaethau achos o’r byd go iawn, gan amlygu rhaglenni llwyddiannus fel cerdded a bysiau beics. Fe wnaeth trafodaethau hefyd ymdrin ag ymgysylltu cymunedol, datblygu seilwaith a buddion hirdymor teithio llesol i les dysgwyr.
Mae’r Rhwydwaith yn ymroi i gynorthwyo ysgolion i integreiddio atebion teithio sy’n canolbwyntio ar iechyd, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu rhwng y sectorau addysg ac iechyd cyhoeddus.
