
Mae clwstwr ysgolion WNHWPS Sir Fynwy yn enghraifft arwyddocaol o’r modd y mae data’r Rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio i wella prosesau ysgolion ac ysgogi newid ystyrlon ar y cyd. Mae dull y clwstwr yn dangos nad adnodd casglu data yn unig yw’r SHRN, ond caiff ei ddefnyddio hefyd i ystyried y system gyfan, i gynllunio a chymryd camau gweithredu.

Mae cydweithio’n dechrau gyda data’r SHRN
Un o agweddau mwyaf grymus model Sir Fynwy yw’r ffordd y mae data’r SHRN yn cael ei ddefnyddio yn sylfaen ar y cyd i gynnal trafodaethau ystyrlon yn y clwstwr. Yn hytrach nag ei ddefnyddio ar wahân, mae’r data yn cael ei adolygu’n rheolaidd, ei archwilio, a’i drafod mewn ysgolion, rhwng swyddi gwahanol a gyda phartneriaid. Mae hyn wedi helpu i greu diwylliant sy’n seiliedig ar dystiolaeth, nid yn unig i drafod data’r Rhwydwaith ond hefyd ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar bob lefel, o gynllunio’r cwricwlwm i ymgysylltu â’r gymuned.
Un strategaeth sy’n creu argraff yw sut mae’r clwstwr yn defnyddio data blwyddyn 6 a 7 i lunio cynllunio pontio. Gan ganolbwyntio ar y garfan hollbwysig hon, mae ysgolion yn gallu cadw golwg ar ymddygiadau ac agweddau sy’n dod i’r amlwg yn gynnar. Mae’n rhoi gwybodaeth sy’n helpu ysgolion cynradd ac uwchradd i gynllunio. Mae canolbwyntio ar ddata gwahanol bob blwyddyn yn helpu’r clwstwr i wneud cynnydd.

Meithrin Gallu at ddibenion Ymarfer yn seiliedig ar Ddata
Mae’r clwstwr hwn wedi ymrwymo i wella hyder a gallu arweinwyr iechyd a lles ysgolion yn fwriadol i ddehongli a rhoi gwybodaeth data’r Rhwydwaith ar waith. Drwy gynnal gweithdai rheolaidd, myfyrio strwythuredig, cynllunio ar y cyd a deialog parhaus, mae’r staff wedi datblygu’r sgiliau i nodi tueddiadau, triongli tystiolaeth, a sicrhau bod canfyddiadau’n cyd-fynd â blaenoriaethau eu hysgol. Mae hyn wedi helpu i feithrin gwneud penderfyniadau ar sail data i arferion bob dydd.
Mae’r dull ymarferol hwn yn dangos nod ehangach y Rhwydwaith i helpu ysgolion ddod yn ddefnyddwyr hyderus a medrus wrth ddefnyddio data ar sail tystiolaeth i wella. Mae defnydd y clwstwr o gwestiynau arweiniol i edrych yn fanwl ar adroddiadau’r Rhwydwaith yn dangos y newid hwn – o edrych ar ddata’n unig o fynd at i i’w ddefnyddio’n effeithiol.

Sicrhau bod gwybodaeth y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol
Mae integreiddio data SHRN i gylchoedd Monitro, Gwerthuso ac Adolygu (MER) y clwstwr yn sicrhau nad yw blaenoriaethau iechyd a lles yn cael eu hystyried yn ymdrechion ynysig ond wedi’u hymgorffori o fewn fframweithiau gwella ysgolion ehangach. Mae’r cysondeb â’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, yn ategu gwerth strategol y gwaith hwn ymhellach.
Ar ben hynny, mae gweithredoedd y clwstwr wedi’u mapio’n glir i flaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys cymhwysedd digidol, llais y dysgwr, a lles emosiynol. Mae’r cydlyniad hwn yn cryfhau’r achos bod SHRN yn adnodd sy’n cefnogi cynllunio lleol ond hefyd gweithredu polisi cenedlaethol.

Cynnal Effaith Trwy Gydweithio
Mae model Sir Fynwy yn dangos sut y gall strwythurau cydweithredol wella cynaliadwyedd mentrau sy’n seiliedig ar ddata. Drwy ddosbarthu arweinyddiaeth, defnyddio cryfderau ysgolion unigol, ac ymwneud â phartneriaid allanol, mae’r clwstwr wedi creu system lle mae’r cyfrifoldebau’n cael eu rhannu, a’r cynnydd yn gyfunol.
Edrych tua’r dyfodol
The Monmouthshire experience offers valuable learning for other regions loMae profiad Sir Fynwy yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i ranbarthau eraill sy’n awyddus i ymgorffori data SHRN mewn cynllunio strategol a chydweithio traws-sector. Wrth i SHRN barhau i esblygu, mae achos Sir Fynwy yn tynnu sylw at nifer o gyfleoedd i ddysgu:
- Cryfhau ymgysylltiad teuluol drwy gyfathrebiadau a gweithdai wedi’u targedu.
- Ehangu’r defnydd o ddata SHRN o ysgolion cynradd i nodi pwyntiau ymyrryd cynharach.
- Datblygu offer a thempledi i gefnogi datblygu’r model clwstwr mewn rhanbarthau eraill.
Yn y pen draw, mae clwstwr Sir Fynwy yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd data SHRN wedi’i ymgorffori mewn diwylliant o ddiben cyffredin, cynllunio strategol ac ymarfer cynhwysol.
Darllenwch yr astudiaeth achos lawn i gael rhagor o wybodaeth am ddull Sir Fynwy a chyngor ymarferol ar gyfer eich lleoliad chi.

