Mae sbotolau newydd gan y Rhwydwaith yn archwilio defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru, gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 y Rhwydwaith.
Ar sail ymatebion gan fwy na 130,000 o ddysgwyr 11 i 16 oed ledled Cymru, mae’r ddogfen friffio yn bwrw golwg ar ba mor gyffredin yw defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol a’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hynny. Mae defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddefnydd mynych. Mae’n cyfeirio at arfer a all deimlo’n anodd ei reoli, pan fydd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn dechrau ymyrryd â bywyd bob dydd, fel ysgol, gwaith, perthnasoedd neu les.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod oddeutu un o bob 10 dysgwr yn bodloni’r meini prawf ar gyfer defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol yn 2025. Roedd cyfraddau’n uwch ymhlith merched, dysgwyr a nododd nad oedd bachgen na merch yn eu disgrifio nhw, a dysgwyr o deuluoedd cyfoeth is.
Mae’r ddogfen friffio hefyd yn amlygu cysylltiadau rhwng defnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ac amrywiaeth o ddeilliannau iechyd a lles. Roedd dysgwyr a adroddodd am iechyd meddwl gwaeth, profiadau o fwlio, lefelau uwch o bwysau yn yr ysgol, a thrafferthion cysgu, yn fwy tebygol o adrodd am ddefnydd problematig. I’r gwrthwyneb, roedd teimladau cryfach o berthyn i’r ysgol, lefelau uwch o gefnogaeth gymdeithasol, a gweithgarwch corfforol rheolaidd, yn gysylltiedig â lefelau is o ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol.
Ymhlith y profiadau yr adroddodd pobl ifanc amdanynt amlaf oedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddianc rhag teimladau negyddol a’i bod yn her iddynt leihau faint o amser yr oeddent yn ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Meddai Dr. Kelly Morgan, Prif Gymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr y Rhwydwaith:
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig ym mywyd llawer o bobl ifanc. Er nad yw’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn profi heriau sylweddol, mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallai oddeutu un o bob deg fod yn cael trafferth ag agweddau ar eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Gall deall y patrymau hyn helpu i lywio sut rydym ni’n cefnogi iechyd a lles pobl ifanc.”
Cafodd y briff ei arwain gan Dr Shujun Liu o DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gofodol Prifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2025 y Rhwydwaith. Mae’r arolwg yn rhan o raglen barhaus y Rhwydwaith o fonitro iechyd a lles cenedlaethol, gan ddarparu tystiolaeth am brofiadau plant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Mae’r canfyddiadau’n cynnig cipolwg newydd i ddefnydd problematig o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru a’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae’r data hefyd yn cyfrannu at Ddangosfwrdd data’r Rhwydwaith, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o fonitro iechyd a lles pobl ifanc yn barhaus yng Nghymru.
