
Mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion ar draws Cymru i osod iechyd a lles wrth wraidd addysg. Yn y blog hwn, mae Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith, yn rhannu sut mae ysgolion yn defnyddio data’r Rhwydwaith i lunio strategaethau, cefnogi dysgwyr a chreu newid parhaol, wedi’i lywio gan dystiolaeth….
Sut mae’r Rhwydwaith yn Helpu i Adeiladu Ysgolion Cryfach a Dysgwyr Iachach ar draws Cymru
Yn y Rhwydwaith, pan fydd dysgwyr yn iach ac yn cael eu cefnogi, credwn eu bod yn ffynnu – nid dim ond yn academaidd, ond yn gymdeithasol ac yn emosiynol, hefyd. Dyna pam rydym yn falch o fod yn bartner dibynadwy sy’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i wreiddio iechyd a lles yng nghalon bywyd ysgol.
Pam mae’r Rhwydwaith yn bwysig
Bob dwy flynedd, mae’r Rhwydwaith yn cynnal casgliad data cenedlaethol yn cynnwys dysgwyr a staff ysgolion. Nid dim ond arolwg yw hwn – mae’n arf grymus ar gyfer newid.
Pan fydd ysgolion yn cymryd rhan yng nghasgliad data’r Rhwydwaith, maent yn derbyn data teilwredig, wedi’i feincnodi, sy’n cynnig gwerth gwirioneddol. Mae’r data hwn yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu strategaethau presennol, gan amlygu beth sy’n gweithio’n dda ac ymhle y mae lle i wella. Gyda chipolygon clir, penodol i ysgol, gall athrawon gynllunio ymyriadau targedig sydd wedi’u seilio mewn tystiolaeth ac sy’n gyson â chyd-destun unigryw eu hysgol.
Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd mae dysgwyr iachach yn ddysgwyr gwell. Pan fydd myfyrwyr yn teimlo’u bod yn ddiogel, wedi’u cefnogi ac yn iach, maen nhw’n fwy tebygol o fynd i’r ysgol, ymddiddori a chyflawni eu potensial llawn. Mae sylfaen iechyd a lles gadarn yn hanfodol i lwyddiant academaidd a thwf personol. Dyma pam mae gwaith y Rhwydwaith mor bwysig: mae’n helpu ysgolion i greu’r math o amgylchedd lle gall pob dysgwr ffynnu.

Mudiad Cenedlaethol
Mae’r Rhwydwaith yn rhan o ymdrech ehangach i wreiddio iechyd a lles yn y system addysg. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Ysgolion Iach ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod data lefel ysgol yn cyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a datblygiad polisi.
Fel y mae Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi’i amlygu, mae’r gwaith hwn yn ymwneud â mwy na data – mae’n ymwneud â grymuso ysgolion i wneud newid ystyrlon parhaus:
“Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn gonglfaen o ran darparu data a thystiolaeth amhrisiadwy sy’n llunio polisi ac ymarfer. … Mae’r data hanfodol hwn yn ategu polisïau iechyd meddwl ac addysg Llywodraeth Cymru ac mae’n gyrru gwaith mawr ei effaith yn y sector addysg ehangach ac mewn academia. Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan flaenllaw mewn gweddnewid y tirlun addysg, gan sicrhau lles ein plant a dyfodol ein cymunedau.”

Beth rydym ni’n ei fesur
Yn y Rhwydwaith, rydym yn gwybod bod cefnogi dysgwyr yn golygu edrych ar y darlun llawn. Dyma pam mae ein harolygon yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau sy’n bwysig iawn i ysgolion ac i ddysgwyr. O iechyd meddwl a lles emosiynol, i weithgarwch corfforol, maeth, defnyddio sylweddau, hinsawdd yr ysgol a llais y disgybl – bwriedir i’n dulliau fod yn gynhwysfawr. Trwy roi darlun cliriach i ysgolion o brofiadau eu dysgwyr, rydym ni’n eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, ystyrlon, sy’n cefnogi lles drwyddi draw.

Sut mae’r Rhwydwaith yn Helpu Ysgolion i Gael Effaith Barhaus
Mae’r Rhwydwaith yn paratoi ysgolion â’r offer, yr hyfforddiant a’r cysylltiadau y mae eu hangen arnynt i greu newid ystyrlon parhaus. O hybu lles dysgwyr i gryfhau ymgysylltu â’r gymuned, bwriedir i’n dulliau fod yn ymarferol a grymusol. Mae ysgolion yn cael at ddata teilwredig o ansawdd uchel sy’n llywio cynllunio, yn cefnogi arolygiadau ac yn dilyn trywydd cynnydd gydag amser. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol sy’n helpu staff i dyfu ac rydym yn meithrin diwylliant o gydweithredu trwy rwydwaith cadarn o ysgolion, ymchwilwyr a phartneriaid sector cyhoeddus. Hefyd, mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion i rymuso pobl ifanc i gymryd yr awenau mewn mentrau lles, gan hyrwyddo diwylliant ysgol cadarnhaol a chynhwysol. Trwy ddefnyddio gwybodaeth y Rhwydwaith, gall ysgolion feithrin perthnasoedd cryfach â theuluoedd a gwasanaethau lleol, a gwreiddio gwelliannau cynaliadwy sydd o fudd i gymuned gyfan yr ysgol.

Beth mae ysgolion yn ei ddweud
Mae’r cipolygon mwyaf ystyrlon i waith y Rhwydwaith yn dod yn uniongyrchol oddi wrth yr ysgolion rydym ni’n gweithio gyda nhw ac sy’n ysbrydoli ein gwaith:
“Mae data’r Rhwydwaith yn ein helpu i gynllunio cwricwlwm sy’n ymateb i brofiadau gwirioneddol dysgwyr.”
Ysgol Maes y Gwendraeth
“Mae ein data o’r Rhwydwaith wedi ein helpu i greu cwricwlwm lles priodol i oedran, wedi’i arwain gan ddysgwyr.”
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Dathlu Grym Dull wedi’i lywio gan Dystiolaeth
Rydym ni wedi archwilio sut mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion ar draws Cymru i osod iechyd a lles wrth wraidd addysg. O ddarparu data teilwredig o ansawdd uchel i feithrin cydweithredu a thwf proffesiynol, mae’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion i wneud newidiadau ystyrlon, gwybodus sydd o fudd i ddysgwyr a staff fel ei gilydd.
Mae lleisiau ysgolion eu hunain yn adrodd cyfrolau – dangos sut mae data’r Rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio i lunio cwricwla ymatebol, cefnogi arolygiadau a chryfhau ymagweddau ysgol gyfan at iechyd a lles. Mae’r enghreifftiau go iawn hyn gan ysgolion yn ein hatgoffa bod ysgolion, pan fydd ganddynt yr offer a’r cipolygon cywir, yn gallu creu amgylcheddau lle caiff pob dysgwr gyfle i ffynnu.
Wrth ei wraidd, mae’r Rhwydwaith yn ymwneud â phartneriaeth, tystiolaeth ac effaith. Ac wrth i ysgolion barhau i ymgysylltu â’r rhwydwaith, mae’r ymdrech gyfunol i adeiladu cymunedau dysgu cryfach ac iachach yn tyfu’n gryfach fyth.
Archwilio Mwy a Chadw mewn Cysylltiad

Ymwelwch â’n tudalen i ddarllen enghreifftiau go iawn o sut mae ysgolion yn defnyddio data’r Rhwydwaith i yrru newid cadarnhaol.

Cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletin i gael y diweddaraf am gipolygon, adnoddau a chyfleoedd y Rhwydwaith.
Gadewch i ni gadw’r sgwrs i fynd – a pharhau i adeiladu ysgolion cryfach a dysgwyr iachach gyda’n gilydd.