Categorïau
Flog

Troi Data’n Weithredu: Defnyddio Dangosfwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i Gefnogi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yn y blog hwn gan Zoe Strawbridge, (Dadansoddwr Gwybodaeth Uwch ar Iechyd y Cyhoedd), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Maria Boffey, (Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion) a Charlotte Wooders, (Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion), cewch ddysgu sut mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion: Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion – a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – i gefnogi’r sector ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru.

Mae’r blog hwn yn tynnu sylw at y modd y mae data iechyd a lles sydd ar gael yn rhwydd yn gallu helpu’r sector greu rhaglenni wedi’u targedu, i ddatblygu partneriaethau, a galw am adnoddau, a hynny oll ar sail safbwyntiau phobl ifanc.

Mae’r sector ieuenctid gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc. Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mae Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cynnig adnodd ymarferol i gryfhau’r gwaith hwnnw.

Ar sail y data o bob un o’r ysgolion uwchradd yng Nghymru a gymerodd rhan yn  Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae’r dangosfwrdd yn gwneud data rhanbarthol yn fwy hygyrch, yn helpu i gynllunio ar sail data, ei gyflawni’n effeithiol, ac mewn partneriaeth ag eraill. Mae’n helpu i gyd-fynd a Strategaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 gan ddefnyddio data i gynllunio a chanolbwyntio ar anghenion pobl ifanc.

Ers 2013, mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Uwchradd wedi chwarae rhan allweddol yn deall ac yn gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.

Bob dwy flynedd, mae disgyblion ysgolion uwchradd yn llenwi arolwg Iechyd a Lles y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, gweithgarwch corfforol a maeth, defnyddio sylweddau, iechyd rhywiol, a pherthnasoedd cymdeithasol.

Dechreuodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion weithio gydag ysgolion cynradd ym mhob rhan o Gymru yn 2024, gan weithio gyda dros hanner ysgolion cynradd Cymru yn y broses o gasglu data. Mae’r twf hwn yn gam pwysig tuag at ddeall iechyd a lles plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan helpu i roi cefnogaeth wedi’i deilwra sy’n canolbwyntio ar brofiadau allweddol mewn bywyd, fel trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Er nad yw’r dangosfwrdd ar gyfer data ysgolion cynradd ar gael eto, cewch weld yr adroddiadau am y cam hwn  yma sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr i unigolion sy’n gweithio gyda phlant iau.

Dros y blynyddoedd, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion wedi helpu i lunio dull cenedlaethol o gasglu a defnyddio data mewn ysgolion. Mae wedi bod yn bwysig wrth lunio polisïau iechyd ac addysg, rhaglenni ac ymyriadau sy’n ceisio gwella bywydau plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r dangosfwrdd hwn yn arddangos data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r dangosfwrdd yn rhad ac am ddim ac wedi’i gynllunio i fod yn hawdd i’w ddefnyddio.

Mae defnyddwyr yn gallu edrych ar dueddiadau yn ôl grŵp blwyddyn, rhywedd, oedran, awdurdod lleol, bwrdd iechyd, a mwy. Bydd dadansoddiad o’r data yn ôl ethnigrwydd ar gael cyn bo hir. Mae’r holl ddata yn ddienw ac yn cael eu cyfuno.

Mae’r dangosfwrdd yn gallu eich helpu chi yn eich gwaith yn y meysydd canlynol:

  • Helpu i gael gwell dealltwriaeth o dueddiadau iechyd a lles ymhlith pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, er enghraifft iechyd meddwl, ymarfer corff, arferion bwyta, defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, eu teimladau tuag at yr ysgol, iechyd rhywiol, defnydd o sylweddau a pherthnasoedd cymdeithasol – er mwyn datblygu cymorth mwy perthnasol ac ymatebol i’w hanghenion.
  • Helpu i nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg mewn cymunedau neu grwpiau oedran penodol, gan alluogi ymyrraeth gynnar a mwy o raglenni wedi’u targedu.
  • Helpu i wella ceisiadau am gyllid a gwaith cynllunio prosiectau drwy gefnogi’r cynigion gyda data a thystiolaeth ddibynadwy a chyfoes.
  • Cydweithio’n fwy effeithiol gydag ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a phartneriaid eraill gan sicrhau bod pawb yn defnyddio’r un data i weithio.

P’un a ydych chi’n cynllunio prosiect newydd, gwerthuso effaith, neu’n gwneud cais am adnoddau, mae’r dangosfwrdd yn cynnig sylfaen dystiolaeth ddibynadwy i lywio eich gwaith ac i wneud mwy o wahaniaeth..

Mae’r canfyddiadau canlynol yn dod o sampl o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sydd ar gael ar y dangosfwrdd. Maen nhw’n dangos crynodeb o dueddiadau allweddol ynghylch iechyd emosiynol, ymarfer corff, ac unigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r wybodaeth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae ffactorau er enghraifft rhywedd ac incwm y cartref yn cael dylanwad ar les, ac yn rhoi man cychwyn gwerthfawr i gynnal rhagor o ymchwil a thrafodaethau.

Iechyd Emosiynol

  • Dywedodd dros hanner o’r merched (54%) yng Nghymru eu bod wedi teimlo’n isel, yn fyr eu tymer, yn nerfus, neu eu bod wedi cael trafferth yn syrthio i gysgu, ond dim ond tua traean o’r bechgyn (32%) ddywedodd yr un peth. 
  • Roedd merched o gartrefi ag incwm is (61%) yn fwy tebygol o deimlo’r uchod o gymharu â merched o gartrefi ag incwm uwch (49%). 

Ymarfer corff 

  • Yn 2023, roedd 45% o blant o gartrefi ag incwm uwch yn cymryd rhan mewn ymarfer corff egnïol y tu allan i’r ysgol o leiaf pedair gwaith yr wythnos, ond 32% o blant o gartrefi ag incwm is oedd yn gwneud.
  • Ar y cyfan, roedd bwlch mawr o ran y nifer o fechgyn a merched oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff y tu allan i’r ysgol, gyda 49% o’r bechgyn yn cymryd rhan o gymharu â 31% o’r merched. 

Unigrwydd

  • Yn 2023, nododd 35% o blant rhwng 11 a 16 oed eu bod wedi teimlo’n unig o leiaf rhywfaint o’r amser yn ystod y gwyliau haf diwethaf. Pan ydyn ni’n edrych ar y data hwn yn ôl rhywedd, gwelwn fod hyn yn fwy cyffredin ymhlith y merched. Dywedodd bron i 42% o ferched eu bod yn teimlo’n unig, o gymharu â 27% o fechgyn.

Gallwch chi gyrchu’r dangosfwrdd yma. Ar ôl gwneud hyn, defnyddiwch y nodweddion hidlo i fwrw golwg ar bynciau megis “Bywyd yn yr Ysgol” a “Gweithgarwch Corfforol a Deiet.”

Mae modd edrych ar y data fesul ardal, grŵp blwyddyn neu rinweddau eraill, a gweld canlyniadau ar ffurf siartiau bar neu linell. Gellir hefyd lawrlwytho data ar ffurf MS Excel.

  • Dechreuwch gydag un maes pwnc sy’n cyd-fynd â’ch gwaith presennol.
  • Defnyddiwch yr hidlwyr i edrych ar wahaniaethau yn ôl ardal, oedran neu ryw.
  • Ystyriwch flynyddoedd sengl o ddata neu dueddiadau dros amser.
  • Lawrlwythwch siartiau neu ddata i gefnogi eich cais cyllid nesaf neu sesiwn cynllunio tîm.

Mae arddangosiadau gweminar a chanllawiau i ddefnyddiwr ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er mwyn gwneud ymholiadau neu ofyn am gymorth pellach, anfonwch e-bost at: publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk.

Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mae Dangosfwrdd Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn offeryn ymarferol a phwerus i helpu’r sector ieuenctid gwirfoddol i ddeall anghenion pobl ifanc yn well.

Os ydych chi eisoes yn defnyddio’r dangosfwrdd, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi! Mae rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu a syniadau yn ein helpu ni i gyd i wella!

E-bostiwch Charlotte Wooders, Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.