Categorïau
Astudiaeth Achos

Ysgol Uwchradd Whitmore: Lle mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Iechyd a Lles a Chysylltiadau Ystyrlon yn Llywio Cymuned yr Ysgol


Ysgol Uwchradd Whitmore: Lle mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Iechyd a Lles a Chysylltiadau Ystyrlon yn Llywio Cymuned yr Ysgol

Categorïau
Newyddion

Amgyffredion am Bwysau Gwaith Ysgol ymhlith Dysgwyr Uwchradd yng Nghymru yn Dyblu dros Ddau Ddegawd


Categorïau
Flog

Cynnydd mewn Pwysau Gwaith Ysgol: Tuedd Dau Ddegawd ymhlith Dysgwyr Cymru





Categorïau
Blog

Trawsnewid Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd mewn Addysg Bellach: Cipolygon o Dreial SaFE

Pam mae SaFE yn bwysig

Mae gwella iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth hanfodol i iechyd cyhoeddus. Mae ymyrraeth SaFE yn mynd i’r afael â’r materion hyn mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB) trwy gynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a pherthnasoedd am ddim ar y safle, hyrwyddo’r gwasanaethau hyn a hyfforddi staff AB i gefnogi iechyd rhywiol ac adnabod ac ymateb i achosion o drais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.

A all SaFE ffynnu mewn lleoliadau AB?

Prif gwestiwn yr ymchwil oedd a oes modd gweithredu ymyrraeth SaFE mewn lleoliadau Addysg Bellach (AB). Roedd hyn yn golygu gwerthuso pa mor dderbyniol oedd yr ymyrraeth a dulliau’r astudiaeth i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid eraill.

Saernïo a phrofi SaFE

I fireinio a phrofi ymyrraeth SaFE, gweithiom yn agos gyda myfyrwyr AB, staff AB, llunwyr polisi, ysgolheigion a grŵp cynghori DECIPHer o bobl ifanc, sef (ALPHA). Fe wnaethom addasu deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyfforddiant staff presennol fel eu bod yn cyd-fynd â chyd-destun AB. Yna, cynhaliom astudiaeth beilot mewn wyth lleoliad AB (gan gynnwys cyfuniad o ddosbarthiadau chwech sy’n aelod o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a cholegau cymunedol) ar draws Cymru a Lloegr. Dewiswyd chwech o’r lleoliadau hyn ar hap i dderbyn ymyrraeth SaFE ac roedd y ddau leoliad arall yn rheolyddion. Cynhaliom arolwg o fyfyrwyr ar ddechrau’r astudiaeth ac, eto, ymhen 12 mis. Hefyd, cynhaliom gyfweliadau â staff, myfyrwyr a nyrsys iechyd rhywiol, ac arsylwom sut cafodd yr ymyrraeth ei chyflwyno.

Beth ddarganfuom ni

  • Cyfranogi ac Ymgysylltu: Cytunodd yr holl leoliadau AB i gyfranogi ac arhosont yn yr astudiaeth. Yn gyfan gwbl, fe wnaeth 56.3% o’r myfyrwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr arolwg wneud hynny. Fe wnaeth 60.7% gymryd rhan yn yr arolwg cychwynnol, a 51.9% wrth ddilyn i fyny ymhen 12 mis.  Roedd hyn ychydig islaw’r targed o 60% ar gyfer y ddau bwynt.
  • Gwelededd y Gwasanaeth a’r Defnydd Ohono: Roedd cyhoeddusrwydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle yn weladwy ym mhob lleoliad. Roedd nyrsys yn bresennol mewn dros 80% o sesiynau’r gwasanaeth iechyd rhywiol ar y safle a chafodd 137 aelod o staff hyfforddiant.
  • Pryderon Myfyrwyr: Mynegodd tua chwarter o fyfyrwyr bryderon am roi caniatâd i gael mynediad i’w cofnodion iechyd a’u cysylltu.

 

Llwyddiant SaFE, ei chyfeiriad yn y dyfodol a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Rhoddwyd ymyrraeth SaFE ar waith yn llwyddiannus a chafodd ei derbyn yn gadarnhaol gan fyfyrwyr AB, staff AB a nyrsys. Fodd bynnag, teimlont fod angen mwy o amser arni i integreiddio’n llawn mewn lleoliadau AB.

Mae cynyddu cyfraddau’r myfyrwyr sy’n ateb yr arolwg yn hanfodol ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol, yn ogystal â dod o hyd i’r man cywir mewn lleoliad AB i fod yn gartref i wasanaeth iechyd rhywiol ar y safle. Mae angen astudiaeth fwy o faint i benderfynu a all SaFE wella iechyd rhywiol yn effeithiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac wrth chwilio am gariad, ac aflonyddu rhywiol.

Yn ogystal, mae gan lwyddiant SaFE oblygiadau i’r Rhwydwaith, gan ei bod yn:

  • Gwella Hygrededd ac Enw Da’r Rhwydwaith: Mae arddangos hyfywedd a derbynioldeb ymyrraeth SaFE yn hybu statws y Rhwydwaith mewn iechyd cyhoeddus ac addysg. Hefyd, gall y llwyddiant hwn ddenu mwy o gyllid i brosiectau ymchwil mwy.
  • Eiriol integreiddio: Gallai’r canfyddiadau cadarnhaol hyn, a chanlyniadau treial effeithiolrwydd ymyrraeth SaFE ar raddfa lawn, helpu’r Rhwydwaith i eiriol dros ymyriadau tebyg mewn ysgolion, gan arwain o bosibl at welliannau helaeth mewn iechyd rhywiol a lleihau trais mewn perthnasoedd ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys rhai dysgwyr ôl-16 os oes chweched dosbarth mewn ysgol. Felly, os bydd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yn gadarnhaol, gallant helpu i eiriol dros yr ymyriadau hyn mewn dosbarthiadau chwech.

At hynny, mae cyfle sylweddol gan y Rhwydwaith i wella seilwaith AB. Trwy integreiddio galluoedd casglu a dadansoddi data cadarn y Rhwydwaith, gall sefydliadau AB ddeall a mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles eu myfyrwyr yn well. Gall yr integreiddio hwn arwain at lunio polisïau yn fwy gwybodus, gwell gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, ac amgylchedd addysgol iachach yn gyffredinol.

  • Meithrin Partneriaethau Newydd: Mae gweithredu peilot ymyrraeth SaFE yn llwyddiannus wedi creu partneriaethau newydd gyda llunwyr polisi, sefydliadau addysgol dosbarth chwech a choleg, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo iechyd a lles ym mhob cyd-destun addysgol.

Ar y cyfan, mae llwyddiant y treial peilot hwn yn hybu ymdrechion y Rhwydwaith yn sylweddol i wella iechyd a lles pobl ifanc trwy ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.

Rhowch y gair ar led: Rhannwch y blog hwn i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd rhywiol a pherthnasoedd iach mewn lleoliadau Addysg Bellach.

I ddarllen am yr astudiaeth, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Honor youngh6@cardiff.ac.uk.


Gwybodaeth am yr Awdur

Rwy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a DECIPHer, lle rwy’n gyd-arweinydd y Rhaglen Lleoliadau a Sefydliadau Iach. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac yn gyd-ymchwilydd grantiau mawr, fel Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (WAVU). A minnau’n Seicolegydd Siartredig (CPsychol) ac yn Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig gyda Chyngor y Proffesiynau Gofal Iechyd, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar seicoleg iechyd ac iechyd cyhoeddus. O ddiddordeb arbennig i mi y mae penderfynyddion cymdeithasol iechyd pobl ifanc, ymyriadau mewn lleoliadau addysgol a materion fel iechyd rhywiol, trais mewn perthnasoedd, a thrais ar sail rhywedd ymhlith pobl ifanc. Rwy’n ymroi hefyd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Categorïau
Flog

Trin a Thrafod y Perthynas Rhwng y Cyfnod Pontio i Ysgol Newydd, Iechyd Meddwl a Bwlio



Categorïau
Astudiaeth Achos

Ysgol Aberconwy: Arwain y Ffordd o ran Cwsg a Lles i Ddysgwyr

Ysgol Aberconwy: Arwain y Ffordd o ran Cwsg a Lles i Ddysgwyr

Categorïau
Newyddion

Astudiaeth ryngwladol yn datgelu bod adroddiadau am broblemau iechyd meddwl a chorfforol gan bobl ifanc yn eu harddegau yn uwch na’r disgwyl ar ôl COVID-19  



Categorïau
Flog

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith: Golwg Gynhwysfawr ar Iechyd Pobl Ifanc yng Nghymru


Categorïau
Newyddion

Ceisio barn am safonau newydd ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion  

Categorïau
Flog

Adeiladu Dyfodol Gwell: Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Fod Mewn Gofal mewn Ysgolion ac wrth Bontio i AB